|
|
pan dw i'n cwyno am rywbeth.
Ond mae'n rhaid i mi ofyn hyn:
Pam mae pobl ddrwg yn llwyddo?
Pam mae'r rhai sy'n twyllo yn cael bywyd mor hawdd?
2 Ti'n eu plannu nhw fel coed,
ac maen nhw'n bwrw gwreiddiau.
Maen nhw'n tyfu ac yn dwyn ffrwyth.
Maen nhw'n siarad amdanat ti drwy'r amser,
ond ti ddim yn bwysig iddyn nhw go iawn.
ARGLWYDD.Ti'n fy ngwylio, ac wedi profi fy agwedd i atat ti.
Llusga'r bobl ddrwg yma i ffwrdd fel defaid i gael eu lladd;
cadw nhw o'r neilltu ar gyfer diwrnod y lladdfa.
4 Am faint mae'n rhaid i'r sychder aros,
a glaswellt y caeau fod wedi gwywo?
Mae'r anifeiliaid a'r adar wedi diflannu o'r tir
am fod y bobl sy'n byw yma mor ddrwg,
ac am eu bod nhw'n dweud,
“Dydy Duw ddim yn gweld beth dŷn ni'n ei wneud.”
5 “Os ydy rhedeg ras gyda dynion yn dy flino di,
sut wyt ti'n mynd i fedru cystadlu gyda cheffylau?
Os wyt ti'n baglu ar y tir agored,
beth am yn y goedwig wyllt ar lan yr Iorddonen?
6 Y gwir ydy: mae hyd yn oed dy berthnasau
wedi dy fradychu di.
Maen nhw hefyd yn gweiddi'n groch yn dy erbyn di.
Felly paid â'u credu nhw,
hyd yn oed os ydyn nhw'n dweud pethau caredig.
7 Dw i wedi troi cefn ar fy nheml,
a gwrthod y bobl ddewisais.
Dw i'n mynd i roi'r bobl wnes i eu caru
yn nwylo'u gelynion.
8 Mae fy mhobl wedi troi arna i
fel llew yn y goedwig.
Maen nhw'n rhuo arna i,
felly dw i yn eu herbyn nhw. Ref
ac adar rheibus yn hofran o'u cwmpas!
Casglwch yr anifeiliaid gwyllt i gyd.
Gadewch iddyn nhw ddod i ddinistrio.
10 Mae arweinwyr y gwledydd yn dinistrio fy ngwinllan,Croes
a sathru'r tir ddewisais.
Byddan nhw'n troi'r wlad hyfryd
yn anialwch diffaith.
11 Byddan nhw'n ei dinistrio hi'n llwyr,
nes bydd yn grastir gwag.
Bydd y tir i gyd wedi'i ddinistrio,
a does neb o gwbl yn malio.
12 Bydd byddin ddinistriol yn dod dros fryniau'r anialwch.
Nhw ydy'r cleddyf mae'r
ARGLWYDD yn ei ddefnyddioi ddod â dinistr o un pen o'r wlad i'r llall.
Fydd neb yn saff!
13 Mae fy mhobl wedi hau gwenith,
ond dim ond drain fyddan nhw'n eu casglu!
Maen nhw wedi gweithio'n galed i ddim byd.
Bydd eu cnydau bach yn achos cywilydd,
am fod yr
ARGLWYDD wedi digio'n lân hefo nhw.”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity