|
|
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.15 Gwrandwch! Peidiwch bod yn falch!
—mae'r
ARGLWYDD wedi dweud. ARGLWYDD eich Duw y parch mae'n ei haedducyn iddo ddod â thywyllwch arnoch chi.Croes
Cyn i chi faglu a syrthio
wrth iddi dywyllu ar y mynyddoedd.
Cyn i'r golau dych chi'n chwilio amdano
droi'n dristwch ac yn dywyllwch dudew.
17 Os wnewch chi ddim gwrando,
bydda i'n mynd o'r golwg i grio am eich bod mor falch.
Bydda i'n beichio crio, a bydd y dagrau'n llifo,
am fod praidd yr
ARGLWYDD wedi'i gymryd yn gaeth.18 “Dwed wrth y brenin a'r fam frenhines: Ref
‘Dewch i lawr o'ch gorseddau ac eistedd yn y llwch.
Bydd eich coronau hardd yn cael eu cymryd oddi arnoch.
19 Bydd giatiau trefi'r Negef wedi'u cau,
a neb yn gallu eu hagor.
Bydd pobl Jwda i gyd yn cael eu caethgludo!’”
20 “Edrych, Jerwsalem. Mae'r gelyn yn dod o'r gogledd.
Ble mae'r praidd gafodd ei roi yn dy ofal di?
Ble mae'r ‛defaid‛ roeddet ti mor falch ohonyn nhw?
21 Sut fyddi di'n teimlo pan fydd yr
ARGLWYDDyn gosod y rhai wnest ti ffrindiau gyda nhw
i dy reoli di?
Byddi'n gwingo mewn poen fel gwraig ar fin cael babi.
‘Pam mae'r pethau yma wedi digwydd i mi?
Pam mae fy nillad wedi'u rhwygo i ffwrdd?
Pam dw i wedi fy nhreisio fel hyn?’
A'r ateb ydy, am dy fod ti wedi gwneud cymaint o ddrwg!
23 Ydy dyn du Ref yn gallu newid lliw ei groen?
Ydy'r llewpard yn gallu cael gwared â'i smotiau?
Na. A does dim gobaith i chi wneud da,
am eich bod wedi hen arfer gwneud drwg!”
24 “Dw i'n mynd i'ch gyrru chi ar chwâl,
fel us yn cael ei chwythu i bobman gan wynt yr anialwch.Croes
Dyna wyt ti'n ei haeddu.
Ti wedi fy anghofio i,
a throi at dduwiau ffals yn fy lle.
26 Bydda i'n gwneud i ti gywilyddio –
yn codi dy sgert dros dy wyneb
a bydd pawb yn gweld dy rannau preifat.Croes
27 Dw i wedi gweld y pethau ffiaidd ti'n eu gwneud:
godinebu, a gweryru'n nwydus ar ôl duwiau eraill.
Ti wedi puteinio gyda nhw
ar ben y bryniau ac yn y caeau.
Mae hi ar ben arnat ti, Jerwsalem! Fyddi di byth yn lân!
Am faint mwy mae hyn i fynd ymlaen?”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity