|
|
“Gofyn i bobl y gwledydd eraill
os ydyn nhw wedi clywed am y fath beth!
Mae Jerwsalem, dinas lân Israel,
wedi gwneud peth cwbl ffiaidd!
14 Ydy'r eira'n diflannu oddi ar lethrau creigiog Libanus?
Ydy nentydd oer y mynyddoedd pell yn stopio llifo? Nac ydyn.
15 Ond mae fy mhobl wedi fy anghofio i.
Maen nhw'n llosgi arogldarth i eilun-dduwiau diwerth!
Gwnaeth hynny iddyn nhw faglu a gadael yr hen ffyrdd
a mynd ar goll ar lwybrau diarffordd.
16 O ganlyniad, bydd pethau ofnadwy yn digwydd i'r wlad.
Fydd pobl ddim yn stopio chwibanu mewn rhyfeddod.
Bydd pawb sy'n pasio heibio yn dychryn
ac yn ysgwyd eu pennau'n syn.
17 Dw i'n mynd i wneud i'w gelynion eu gyrru nhw ar chwâl,
fel tywod yn cael ei yrru gan wynt y dwyrain.
Bydda i'n troi cefn arnyn nhw
yn lle troi i'w helpu nhw pan ddaw'r drychineb.”
Gwranda beth mae fy ngelynion yn ei ddweud.
20 Ydy'n iawn i dalu drwg am dda?
Maen nhw wedi cloddio twll i mi.
Wyt ti ddim yn cofio fel roeddwn i'n
pledio ar eu rhan nhw o dy flaen di?
Rôn i'n ceisio dy stopio di rhag bod yn ddig hefo nhw.
21 Felly gad i'w plant nhw lwgu!
Gad iddyn nhw farw yn y rhyfel!
Gwna eu gwragedd yn weddwon heb blant.
Gad i'r dynion hŷn gael eu lladd gan heintiau,
a'r bechgyn ifanc wrth ymladd yn y rhyfel.
22 Gad i sŵn sgrechian gael ei glywed yn y tai
wrth i gangiau o filwyr ymosod arnyn nhw'n ddirybudd.
Maen nhw wedi cloddio twll i mi
a gosod trapiau i geisio fy nal.
ARGLWYDD, rwyt ti'n gwybodeu bod nhw'n bwriadu fy lladd i.
Paid maddau iddyn nhw eto.
Paid cuddio'u pechodau nhw o dy olwg.
Gad iddyn nhw faglu o dy flaen.
Delia gyda nhw yn dy lid.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity