|
|
a dw innau wedi gadael i ti wneud hynny.
Ti gafodd y llaw uchaf am dy fod ti'n gryfach na fi.
A dyma fi bellach yn ddim byd ond testun sbort i bobl.
Mae pawb yn chwerthin am fy mhen i!
8 Bob tro dw i'n agor fy ngheg rhaid i mi weiddi,
“Mae trais a dinistr yn dod!”
Mae neges yr
ARGLWYDD yn fy ngwneudyn ddim byd ond jôc a thestun sbort i bobl drwy'r amser.
9 Dw i'n meddwl weithiau, “Wna i ddim sôn amdano eto.
Dw i'n mynd i wrthod siarad ar ei ran!”
Ond wedyn mae ei neges fel tân y tu mewn i mi.
Mae fel fflam yn llosgi yn fy esgyrn.
Dw i'n trio fy ngorau i'w ddal yn ôl,
ond alla i ddim!
10 Dw i wedi clywed lot fawr o bobl yn hel straeon amdana i.
“‛Dychryn ym mhobman‛ wir!
Gadewch i ni ddweud wrth yr awdurdodau amdano!”
Mae hyd yn oed y rhai oedd yn ffrindiau i mi
yn disgwyl i'm gweld i'n baglu:
“Falle y gallwn ei ddenu i wneud rhywbeth gwirion,
wedyn byddwn ni'n gallu dial arno!”
ARGLWYDD hefo fi fel rhyfelwr ffyrnig.Felly, y rhai sy'n fy erlid i fydd yn baglu.
Fyddan nhw ddim yn ennill!
Byddan nhw'n teimlo cywilydd mawr am eu methiant.
Fydd y gwarth byth yn cael ei anghofio!
ARGLWYDD hollbwerus, sy'n profi'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.Ti'n gwybod beth mae pobl yn ei feddwl a'i fwriadu.
Tala nôl iddyn nhw am beth maen nhw'n ei wneud.
Dw i'n dy drystio di i ddelio gyda'r sefyllfa.
ARGLWYDD! Molwch yr ARGLWYDD!Mae e'n achub y tlawd o afael pobl ddrwg.
14 Melltith ar y diwrnod ces i fy ngeni!Croes
Does dim byd da am y diwrnod y cafodd mam fi.
15 Melltith ar y person roddodd y newyddion i dad
a'i wneud mor hapus wrth ddweud,
“Mae gen ti fab!”
16 Boed i'r person hwnnw fod fel y trefi hynnyCroes
gafodd eu dinistrio'n ddidrugaredd gan yr
ARGLWYDD –yn clywed sŵn sgrechian yn y bore,
a sŵn gweiddi yn y rhyfel ganol dydd!
17 Pam wnaeth e ddim fy lladd i cyn i mi ddod allan o'r groth?
Byddai croth fy mam yn fedd i mi,
a hithau'n feichiog am byth.
18 Pam oedd rhaid i mi gael fy ngeni o gwbl?
Dw i wedi gweld dim byd ond trafferthion a thristwch,
ac wedi profi dim byd ond cywilydd ar hyd fy mywyd!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity