Yn ôl

Jeremeia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JEREMEIA 22

Neges i deulu brenhinol Jwda

1 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dos i lawr i balas brenin Jwda, a rho'r neges yma iddo: 2 ‘Frenin Jwda, gwrando ar neges yr ARGLWYDD – ti sy'n perthyn i deulu brenhinol Dafydd, dy swyddogion a phawb arall sy'n mynd drwy'r giatiau yma. 3 Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Gwnewch beth sy'n gyfiawn ac yn deg, ac achubwch bobl sy'n dioddef o grafangau'r rhai sy'n eu gormesu nhw. Peidiwch cam-drin a chymryd mantais o fewnfudwyr, plant amddifad a gweddwon. A pheidiwch lladd pobl ddiniwed. 4 Os ewch chi ati i wneud beth dw i'n ddweud, bydd disgynyddion Dafydd yn dal i deyrnasu. Byddan nhw'n dod drwy'r giatiau yma mewn cerbydau ac ar gefn ceffylau, gyda'u swyddogion a'u pobl. 5 Ond os byddwch chi'n gwrthod gwrando, dw i'n addo ar fy llw y bydd y palas yma yn rwbel.”’” Yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

6 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am balas brenin Jwda:

“Ti fel tir ffrwythlon Gilead i mi,

neu fel y coed ar fynyddoedd Libanus.

Ond bydda i'n dy wneud di'n anialwch,

a fydd neb yn byw yn dy drefi di.

7 Mae gen i rai sy'n barod i dy ddinistrio di,

pob un yn cario'i arfau.

Byddan nhw'n torri'r coed cedrwydd gorau,

ac yn taflu'r cwbl i'r tân.

8 “Bydd pobl o wledydd eraill yn pasio heibio'r ddinas yma, ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud y fath beth i'r ddinas wych yma?’ 9 A bydd yr ateb yn cael ei roi. ‘Am fod y bobl wedi troi cefn ar yr ymrwymiad i'r ARGLWYDD eu Duw, ac wedi addoli a gwasanaethu duwiau eraill.’”

Neges am Jehoachas Ref

10 “Paid crio am fod y brenin wedi marw. Ref

Paid galaru ar ei ôl.

Crïa am y brenin sy'n cael ei gymryd i ffwrdd. Ref

Fydd e ddim yn dod yn ôl adre,

Gaiff e byth weld ei wlad eto.

11 Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Shalwm Ref fab Joseia brenin Jwda, ddaeth i deyrnasu ar ôl ei dad, Joseia: ‘Mae e wedi'i gymryd i ffwrdd, a fydd e byth yn dod yn ôl. 12 Bydd e'n marw yn y wlad lle cafodd ei gymryd yn gaeth. Fydd e byth yn gweld y wlad yma eto.’”

Neges am Jehoiacim Ref

13 “Gwae yr un anghyfiawn sy'n adeiladu ei balas,

yr un sy'n trin pobl yn annheg wrth godi'r lloriau uchaf.

Mae'n gwneud i'w bobl weithio am ddim;

dydy e ddim yn talu cyflog iddyn nhw.

14 Mae'n dweud wrtho'i hun,

‘Dw i'n mynd i adeiladu palas gwych,

gyda llofftydd mawr a digon o ffenestri.

Dw i'n mynd i osod paneli o goed cedrwydd drwyddo,

a'i beintio yn goch llachar.’

15 Ydy bod â mwy o baneli cedrwydd

yn dy wneud di'n well brenin?

Meddylia am dy dad.

Roedd e'n hapus os oedd ganddo fwyd a diod.

Roedd yn gwneud beth oedd yn gyfiawn ac yn deg,

ac roedd pethau'n mynd yn dda gydag e.

16 Roedd yn amddiffyn hawliau pobl dlawd ac anghenus,Croes

ac roedd pethau'n mynd yn dda.

Onid dyna beth mae fy nabod i yn ei olygu?”

—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

17 “Ond rwyt ti'n hunanol ac yn anonest.

Ti'n lladd pobl ddiniwed,

yn twyllo ac yn gorthrymu'r bobl.”

18 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:

“Fydd neb yn galaru ar ei ôl, a dweud,

‘O, dw i mor drist, fy mrawd!

O, dw i mor drist, fy chwaer!’

Fydd neb yn dweud,

‘O, druan o'n harglwydd ni!’

‘O, druan o'r brenin!’

19 Fydd ei angladd ddim gwell na phan mae asyn yn marw –

Bydd ei gorff yn cael ei lusgo allan o'r ddinas

a'i daflu tu allan i giatiau Jerwsalem.”

Neges am Jerwsalem

20 Dringwch fynyddoedd Libanus, a galaru yno.

Gwaeddwch yn uchel ar fryniau Bashan.

Ewch i alaru ar fynyddoedd Afarîm. Ref

Mae eich ‛cariadon‛ Ref i gyd wedi'u concro!

21 Gwnes i eich rhybuddio pan oeddech chi'n byw'n ddibryder,

ond yr ymateb ges i oedd, “Dŷn ni ddim am wrando.”

Dyma sut dych chi wedi bod o'r dechrau cyntaf –

dych chi erioed wedi bod yn barod i wrando.

22 Bydd eich arweinwyr Ref yn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt.

Bydd eich ‛cariadon‛ i gyd wedi'u cymryd yn gaeth.

Bryd hynny bydd gynnoch chi gywilydd go iawn

o'r holl bethau drwg wnaethoch chi.

23 Falle eich bod chi'n teimlo'n reit saff,

fel aderyn yn nythu ar goed cedrwydd Libanus.

Ond byddwch yn griddfan mewn poen pan ddaw'r farn.

Byddwch fel gwraig mewn poen wrth gael babi.

Neges i Jehoiachin Ref

24 “Mor sicr â'm bod i fy hun yn fyw,” meddai'r ARGLWYDD, “er dy fod ti, Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, wedi bod yn sêl-fodrwy Ref ar fy llaw dde, bydda i'n dy dynnu i ffwrdd. 25 Bydda i'n dy roi di yn nwylo'r rhai sydd eisiau dy ladd di, y rhai hynny rwyt ti'n eu hofni nhw, sef Nebwchadnesar, brenin Babilon, a'i fyddin. 26 A bydda i'n dy daflu di a dy fam i wlad ddieithr, a dyna lle byddwch chi'n marw. 27 Gewch chi byth ddod yn ôl yma, er eich holl hiraeth.”

28 Ai jwg diwerth wedi'i dorri ydy'r dyn Jehoiachin

(fel potyn pridd does neb ei eisiau)?

Pam mae e a'i blant wedi'u taflu i ffwrdd

(wedi'u taflu i wlad ddieithr)?

29 Wlad, wlad, wlad,

gwrando ar neges yr ARGLWYDD.

30 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“Gwnewch gofnod fod y dyn yma'n ddi-etifedd

(dyn fydd yn gweld dim llwyddiant)!

Fydd dim un o'i blant yn teyrnasu yn Jwda ar ei ôl.

Fydd neb yn ei ddilyn ar orsedd Dafydd.” Ref

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity