|
|
5 “Mae'r amser yn dod,” meddai'r
ARGLWYDD,“pan fydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd,
un fydd yn gwneud beth sy'n iawn.
Bydd e'n frenin fydd yn teyrnasu'n ddoeth.
Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.
6 Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachub
a bydd Israel yn saff.
Yr enw ar y brenin yma fydd,
‘Yr
ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i ni.’ 7 “Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o'r Aifft …’ 8 bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o'r gwledydd lle roedd wedi'u gyrru nhw.’ A bryd hynny byddan nhw'n cael byw yn eu gwlad eu hunain.”Dw i wedi cynhyrfu'n lân,
a dw i'n crynu drwyddo i.
Dw i fel dyn wedi meddwi,
fel rhywun sy'n chwil gaib.
Alla i ddim diodde'r ffordd mae'r
ARGLWYDDa'i neges yn cael eu trin.
10 Mae'r wlad yn llawn pobl sy'n anffyddlon iddo.
Mae'r tir wedi sychu am ei fod wedi'i felltithio.
Does dim porfa yn yr anialwch – mae wedi gwywo.
A'r cwbl am eu bod nhw'n byw bywydau drwg
ac yn camddefnyddio'u grym.
11 “Mae'r proffwydi a'r offeiriaid yn bobl annuwiol.
Dw i wedi gweld y pethau ofnadwy maen nhw'n eu gwneud
hyd yn oed yn y deml ei hun!”
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.12 “Felly bydd eu llwybrau yn dywyll a llithrig.
Byddan nhw'n baglu ac yn syrthio.
Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw.
Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.”
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.13 “Gwelais broffwydi Samaria gynt Ref
yn gwneud peth cwbl anweddus:
Roedden nhw'n proffwydo ar ran y duw Baal,
ac yn camarwain fy mhobl, Israel.
14 A nawr dw i'n gweld proffwydi Jerwsalem
yn gwneud rhywbeth yr un mor erchyll.
Maen nhw'n anffyddlon i mi ac yn dilyn celwydd!
Maen nhw'n annog y rhai sy'n gwneud drwg
yn lle ceisio'u cael nhw i stopio.
Maen nhw mor ddrwg â Sodom yn fy ngolwg i.
Mae pobl Jerwsalem fel pobl Gomorra.” Ref
15 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud am y proffwydi:“Bydda i'n gwneud i'r bobl yma ddioddef yn chwerw,
ac yfed dŵr gwenwynig barn.
Mae proffwydi Jerwsalem yn gyfrifol
am ledaenu annuwioldeb drwy'r wlad i gyd.”
16 Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud:“Peidiwch gwrando ar beth mae'r proffwydi yna'n ei ddweud –
maen nhw'n eich twyllo gyda'u gobaith gwag.
Maen nhw'n rhannu eu ffantasïau
yn lle beth mae'r
ARGLWYDD yn ei ddweud.17 Maen nhw'n dal ati i ddweud
wrth y rhai sy'n ddirmygus ohono i,
‘Mae'r
ARGLWYDD yn dweud y bydd popeth yn iawn!’Maen nhw'n dweud wrth y rhai sy'n ystyfnig,
‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i chi.’
18 Ond prun ohonyn nhw sy'n gwybod cynlluniau'r
ARGLWYDD,ac wedi clywed a deall beth mae e'n ddweud?
Prun ohonyn nhw sydd wedi gwrando arno?”
Bydd yn dod fel storm.
Bydd fel corwynt dinistriol yn disgyn ar y rhai drwg.
ARGLWYDD ddim yn tawelunes bydd wedi gwneud popeth mae'n bwriadu ei wneud.
Byddwch chi'n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd.
21 “Wnes i ddim anfon y proffwydi yma,
ond roedden nhw'n rhedeg i gyhoeddi eu neges.
Wnes i ddim rhoi neges iddyn nhw,
ond roedden nhw'n dal i broffwydo.
22 Petaen nhw wedi sefyll o'm blaen a gwrando,
bydden nhw wedi cyhoeddi fy neges i'm pobl.
Bydden nhw wedi gwneud iddyn nhw droi cefn ar ddrwg.”
23 “Ai rhyw dduw bach lleol ydw i?” meddai'r ARGLWYDD.“Onid fi ydy'r Duw sy'n gweld popeth o bell?”
24 “Pwy sy'n gallu cuddio oddi wrtho i?” meddai'r ARGLWYDD.“Dw i ym mhobman drwy'r nefoedd a'r ddaear!”
25 “Dw i wedi clywed beth mae'r proffwydi'n ei ddweud. Maen nhw'n honni siarad drosto i, ond yn dweud celwydd! ‘Dw i wedi cael breuddwyd! Dw i wedi cael breuddwyd!’ medden nhw. 26 Am faint mae'n rhaid i hyn fynd ymlaen? Am faint maen nhw'n mynd i ddal ati i ddweud celwydd? Maen nhw'n twyllo'u hunain! Ydyn nhw'n mynd i newid rywbryd? 27 Am faint maen nhw'n mynd i rannu eu breuddwydion gyda'i gilydd, a cheisio cael fy mhobl i anghofio pwy ydw i? Dyna beth wnaeth eu hynafiaid – anghofio amdana i ac addoli'r duw Baal.28 Gadewch i'r proffwyd gafodd freuddwyd
ei rhannu fel breuddwyd.
Ond dylai'r un dw i wedi rhoi neges iddo
gyhoeddi'r neges yna'n ffyddlon.”
“Allwch chi ddim cymharu'r gwellt gyda'r grawn!”
meddai'r
ARGLWYDD.29 “Mae fy neges i fel tân yn llosgi,”
meddai'r
ARGLWYDD.“Mae fel gordd yn dryllio carreg.”
30 “Felly, dw i eisiau i chi ddeall fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n dwyn y neges oddi ar ei gilydd,” meddai'r ARGLWYDD. 31 “Dw i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n dweud beth maen nhw eisiau, ac yna'n honni, ‘Dyma beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud …’ 32 Dw i eisiau i chi ddeall,” meddai'r ARGLWYDD, “fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n cyhoeddi'r celwydd maen nhw wedi'i ddychmygu. Maen nhw'n camarwain fy mhobl gyda'u celwyddau a'u honiadau anghyfrifol. Wnes i mo'u hanfon nhw na dweud wrthyn nhw beth i'w wneud. Dŷn nhw ddim yn helpu'r bobl yma o gwbl,” meddai'r ARGLWYDD.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity