JEREMEIA 24
Ffigys da a ffigys drwg
1 Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi cymryd Jehoiachin Ref fab Jehoiacim, brenin Jwda, yn gaeth i Babilon. Cymerodd y swyddogion i gyd hefyd, a'r seiri coed a'r gweithwyr metel.Croes A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi gweledigaeth i mi. Gwelais ddwy fasged yn llawn ffigys wedi'u gosod o flaen teml yr ARGLWYDD.
2 Roedd y ffigys yn un fasged yn rhai da iawn, fel ffigys wedi aeddfedu'n gynnar. Ond roedd y ffigys yn y fasged arall wedi mynd yn ddrwg, a ddim yn ffit i'w bwyta.
3 Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i mi, “Beth wyt ti'n weld, Jeremeia?” A dyma fi'n ateb, “Ffigys. Mae'r rhai da yn edrych yn hyfryd, ond mae'r lleill wedi mynd yn rhy ddrwg i'w bwyta.”
4 Yna dyma fi'n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD:
5 “Dyma dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae'r ffigys da yn cynrychioli'r bobl sydd wedi'u cymryd yn gaeth i wlad y Babiloniaid.
6 Dw i wedi'u hanfon nhw yno er eu lles eu hunain, a dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r wlad yma. Bydda i'n eu hadeiladu nhw, dim eu bwrw nhw i lawr. Bydda i'n eu plannu nhw yn y tir, dim yn eu tynnu fel chwyn.
7 Bydda i'n rhoi'r awydd ynddyn nhw i gydnabod mai fi ydy'r ARGLWYDD. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw. Byddan nhw'n troi'n ôl ata i go iawn.’
8 “Ond,” meddai'r ARGLWYDD, “mae'r ffigys drwg yn cynrychioli Sedeceia Ref brenin Jwda a'i swyddogion, a'r bobl hynny sydd wedi'u gadael ar ôl yn Jerwsalem neu sydd wedi mynd i fyw i'r Aifft.Croes
9 Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd eraill i gyd. Byddan nhw'n jôc. Bydda i'n gwneud esiampl ohonyn nhw. Byddan nhw'n destun sbort, ac yn esiampl o bobl wedi'u melltithio. Dyna sut fydd hi arnyn nhw ble bynnag wna i eu gyrru nhw.
10 Bydda i'n anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw nes byddan nhw wedi cael eu dileu'n llwyr o'r wlad rois i iddyn nhw a'u hynafiaid.”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity