JEREMEIA 25
Saith deg mlynedd am beidio gwrando
1 Cafodd Jeremeia neges gan yr ARGLWYDD am bobl Jwda yn ystod y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda Ref (hon hefyd oedd y flwyddyn y cafodd Nebwchadnesar ei wneud yn frenin Babilon).
2 Dyma ddwedodd y proffwyd Jeremeia wrth bobl Jwda a'r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem:
3 “Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn siarad hefo fi ers dau ddeg tair o flynyddoedd – o'r adeg pan oedd Joseia Ref fab Amon wedi bod yn frenin am un deg tair o flynyddoedd hyd heddiw. Dw i wedi dweud wrthoch chi dro ar ôl tro beth oedd ei neges, ond dych chi ddim wedi gwrando.
4 Ac mae'r ARGLWYDD wedi dal ati i anfon ei weision y proffwydi atoch chi. Ond dych chi ddim wedi gwrando na chymryd unrhyw sylw.
5 Y neges oedd, ‘Rhaid i bob un ohonoch chi stopio gwneud y pethau drwg dych chi'n eu gwneud; wedyn byddwch chi'n cael aros yn y wlad roddodd yr ARGLWYDD i chi a'ch hynafiaid am byth bythoedd.
6 Stopiwch addoli a gwasanaethu duwiau eraill, a'm gwylltio i drwy blygu i eilunod dych chi eich hunain wedi'u cerfio. Wedyn fydda i'n gwneud dim drwg i chi.
7 Ond wnaethoch chi ddim gwrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Dych chi wedi fy ngwylltio i gyda'ch eilunod. Dych chi wedi dod â drwg arnoch chi'ch hunain.’
8 “Felly dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Dych chi ddim wedi gwrando arna i.
9 Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn mynd i'w wneud: dw i'n mynd i anfon am bobloedd y gogledd, ac am fy ngwas i, Nebwchadnesar brenin Babilon. Dw i'n mynd i'w cael nhw i ymosod ar y wlad yma a'i phobl ac ar y gwledydd o'i chwmpas hefyd. Dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd yma. Fydd pobl ddim yn stopio rhyfeddu at y llanast.
10 Bydda i'n rhoi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio, ac yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Fydd dim sŵn maen melin yn troi, a dim golau lamp i'w weld yn y tai.
11 Bydd y wlad yn anialwch diffaith. A bydd y gwledydd yn gorfod gwasanaethu brenin Babilon am saith deg mlynedd.Croes
12 “‘Ar ddiwedd y saith deg mlynedd bydda i'n cosbi brenin Babilon a'i wlad am y drwg wnaethon nhw.Croes Bydd gwlad y Babiloniaid yn cael ei dinistrio am byth.
13 Bydd popeth wnes i ei fygwth yn digwydd iddi – popeth sydd wedi'i ysgrifennu yn y llyfr yma, sef beth mae Jeremeia wedi'i broffwydo yn erbyn y gwledydd i gyd.
14 Bydd brenin a phobl Babilon yn gorfod gwasanaethu brenhinoedd a gwledydd eraill. Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am beth wnaethon nhw.’”
Barn Duw ar Jwda a'r cenhedloedd eraill
15 Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud wrtho i: “Cymer y gwpan yma gen i. Mae hi'n llawn dop o win fy llid. Cymer hi, a gwna i'r gwledydd dw i'n dy anfon di atyn nhw yfed ohoni.
16 Byddan nhw'n yfed, ac yn stagro yn ôl ac ymlaen. Bydd y rhyfel dw i'n ei anfon i'w cosbi nhw yn eu gyrru nhw'n wallgof.”
17 Felly dyma fi'n cymryd y gwpan o law'r ARGLWYDD, ac yn gwneud i'r holl wledydd lle'r anfonodd fi yfed ohoni:
- 18 Jerwsalem a threfi Jwda, ei brenhinoedd a'i swyddogion. Byddan nhw'n cael eu dinistrio a'u difetha'n llwyr. Bydd pobl yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld yr holl bethau dychrynllyd fydd yn digwydd, a bydd yn esiampl o wlad wedi'i melltithio. Mae'n dechrau digwydd heddiw!
- 19 Yna'r Pharo (brenin yr Aifft) a'i weision a'i swyddogion, pobl yr Aifft i gyd,
20 a'r bobl o dras gymysg sy'n byw yno.
- Wedyn brenhinoedd gwlad Us, a brenhinoedd trefi'r Philistiaid i gyd: pobl Ashcelon, Gasa, Ecron, a beth sydd ar ôl o Ashdod. Ref
- 21 Wedyn pobl Edom, Moab ac Ammon.
- 22 Brenhinoedd Tyrus a Sidon, a brenhinoedd y trefi eraill ar yr arfordir.
- 23 Pobl Dedan, Tema, Bws, a'r bobl sy'n byw ar ymylon yr anialwch.
- 24 Brenhinoedd Arabia a brenhinoedd y gwahanol lwythau nomadig yn yr anialwch.
- 25 Brenhinoedd Simri, Elam a Media Ref i gyd.
- 26 Brenhinoedd y gogledd i gyd, pell ac agos, a phob un gwlad sydd ar wyneb y ddaear.
- Ac yn olaf bydd rhaid i frenin Babilon Ref ei hun yfed o'r gwpan.
Yr ARGLWYDD:
27 “Dwed di wrthyn nhw wedyn fod yr ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn dweud: ‘Yfwch nes byddwch chi'n feddw ac yn chwydu. Yfwch nes byddwch yn syrthio ac yn methu codi ar eich traed eto, o achos y rhyfel dw i'n ei anfon i'ch cosbi chi.’
28 “Os byddan nhw'n gwrthod cymryd y gwpan gen ti ac yfed ohoni, dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Does gynnoch chi ddim dewis. Bydd rhaid i chi yfed!
29 Gwyliwch chi, dw i wedi dechrau cosbi Jerwsalem, fy ninas i fy hun. Os felly, ydych chi'n mynd i osgoi cael eich cosbi? Na! Dw i'n mynd i ddod â rhyfel ar bawb sy'n byw ar y ddaear.” Fi, yr ARGLWYDD hollbwerus, sy'n dweud hyn.’
30 Felly, Jeremeia, proffwyda fel hyn yn eu herbyn nhw:
‘Mae'r
ARGLWYDD yn rhuo fel llew oddi uchod,
o'r lle sanctaidd lle mae'n byw.
Mae'n rhuo yn erbyn y bobl mae'n byw yn eu plith.
Bydd yn gweiddi fel un yn sathru'r grawnwin,
wrth gosbi pawb sy'n byw ar wyneb y ddaear.
31 Bydd twrw'r frwydr yn atseinio drwy'r byd i gyd.
Mae'r
ARGLWYDD yn cyhuddo'r cenhedloedd,
ac yn mynd i farnu'r ddynoliaeth gyfan.
Bydd pobl ddrwg yn cael eu lladd â'r cleddyf!’”
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
32 Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud:
“Mae trychineb yn mynd i ddod ar un wlad ar ôl y llall.
Mae gwynt stormus ar fin dod o ben draw'r byd.”
33 Bydd y rhai fydd wedi'u lladd gan yr ARGLWYDD bryd hynny wedi'u gwasgaru ar hyd a lled y byd. Fydd neb yn galaru ar eu hôl nhw, a neb yn casglu'r cyrff i'w claddu. Byddan nhw'n gorwedd fel tail wedi'i wasgaru ar wyneb y tir.
34 Dechreuwch udo a chrio, chi arweinwyr Ref y bobl!
Rholiwch yn y lludw, chi sy'n bugeilio praidd fy mhobl.
Mae diwrnod y lladdfa wedi dod.
Cewch eich gwasgaru.
Byddwch fel llestr gwerthfawr wedi syrthio a malu'n ddarnau.
35 Fydd yr arweinwyr ddim yn gallu rhedeg i ffwrdd.
Fydd dim dianc i'r rhai sy'n bugeilio'r praidd!
36 Gwrandwch ar sŵn yr arweinwyr yn crio!
Gwrandwch ar fugeiliaid y praidd yn udo!
Mae'r
ARGLWYDD ar fin dinistrio'u tir nhw.
37 Bydd y borfa dawel lle maen nhw'n aros yn anialwch difywyd
am fod yr
ARGLWYDD wedi digio'n lân hefo nhw.
38 Mae'r
ARGLWYDD fel llew wedi dod allan o'i ffau.
Mae wedi digio'n lân a bydd y wlad yn cael ei difetha
gan gleddyf y gelyn.
I'r pen