Yn ôl

Jeremeia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JEREMEIA 26

Jeremeia'n cyhoeddi neges Duw yn y demlCroes

1 Pan ddaeth Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda ces i'r neges yma gan yr ARGLWYDD: 2 dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Dos i sefyll yn iard teml yr ARGLWYDD. Siarada gyda'r bobl o holl drefi Jwda sydd wedi dod yno i addoli. Dwed wrthyn nhw bopeth fydda i'n ei ddweud – pob gair! 3 Falle y gwnân nhw wrando a stopio gwneud drwg. Wedyn fydda i ddim yn eu dinistrio nhw fel roeddwn i wedi bwriadu gwneud am yr holl bethau drwg roedden nhw'n eu gwneud. 4 Dwed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Rhaid i chi wrando arna i, a byw fel dw i wedi'ch dysgu chi i fyw. 5 Rhaid i chi wrando ar neges fy ngweision y proffwydi. Dw i wedi'u hanfon nhw atoch chi dro ar ôl tro, ond dych chi wedi cymryd dim sylw. 6 Felly os daliwch chi i wrthod gwrando, bydda i'n dinistrio'r deml yma fel gwnes i ddinistrio Seilo, Ref Croes a bydda i'n gwneud y ddinas yma'n esiampl i'r gwledydd o ddinas sydd wedi'i melltithio.’”

Jeremeia'n cael ei roi ar brawf

7 Roedd yr offeiriaid a'r proffwydi a'r bobl i gyd wedi clywed Jeremeia yn dweud y pethau yma yn y deml. 8 Ac yn syth ar ôl iddo orffen dweud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn iddo, dyma'r offeiriaid a'r proffwydi a'r bobl i gyd yn gafael ynddo gan weiddi, “Ti'n mynd i farw am hyn! 9 Rhag dy gywilydd di, yn honni fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrthot ti am broffwydo'r fath bethau! Sut alli di broffwydo fod y deml yma'n mynd i gael ei dinistrio yr un fath â Seilo, a bod dinas Jerwsalem yn mynd i gael ei chwalu, ac y bydd neb yn byw ynddi?” A dyma'r bobl yn dechrau hel o gwmpas Jeremeia yn y deml.

10 Pan glywodd swyddogion Jwda beth oedd yn digwydd, dyma nhw'n rhuthro draw o'r palas brenhinol i deml yr ARGLWYDD ac yn cynnal achos llys wrth y Giât Newydd. 11 Dyma'r offeiriaid a'r proffwydi'n dweud wrth y llys a'r bobl beth oedd y cyhuddiad yn erbyn Jeremeia, “Rhaid dedfrydu'r dyn yma i farwolaeth! Mae wedi proffwydo yn erbyn y ddinas yma. Dych chi wedi'i glywed eich hunain.”

12 Yna dyma Jeremeia yn amddiffyn ei hun: “Yr ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i, a dweud wrtho i am broffwydo popeth rydych chi wedi fy nghlywed i'n ei ddweud yn erbyn y deml a'r ddinas yma. 13 Rhaid i chi newid eich ffyrdd, a gwneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud. Os gwnewch chi hynny, fydd e ddim yn eich dinistrio chi fel roedd e wedi bygwth gwneud. 14 Ond dw i yn eich dwylo chi. Gwnewch chi beth bynnag dych chi'n feddwl sy'n iawn. 15 Ond deallwch hyn: os gwnewch chi fy lladd i, byddwch yn tywallt gwaed dyn dieuog. Byddwch chi a'r ddinas yma a'i phobl yn gyfrifol am wneud hynny. Achos y ffaith ydy mai'r ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i i'ch rhybuddio chi.”

16 Dyma'r swyddogion a'r bobl yn dweud wrth yr offeiriaid a'r proffwydi, “Dydy'r dyn yma ddim yn haeddu marw. Mae e wedi siarad ar ran yr ARGLWYDD ein Duw.” 17 A dyma rai o arweinwyr hŷn Jwda yn codi a dweud wrth y dyrfa o bobl oedd yno, 18 “Pan oedd Heseceia Ref yn frenin ar Jwda, roedd Micha o Moresheth wedi proffwydo ac wedi dweud wrth y bobl,

‘Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud:

Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae,

a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig.

Bydd y bryn lle mae'r deml yn sefyll,

yn goedwig wedi tyfu'n wyllt.’Croes

19 Wnaeth Heseceia a phobl Jwda roi Micha i farwolaeth? Naddo! Dangosodd Heseceia barch at yr ARGLWYDD a chrefu arno i fod yn garedig atyn nhw. Wedyn wnaeth yr ARGLWYDD ddim eu dinistrio nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud. Ond dŷn ni mewn peryg o wneud drwg mawr i ni'n hunain!”

20 Roedd yna ddyn arall o'r enw Wreia fab Shemaia o Ciriath-iearîm yn proffwydo ar ran yr ARGLWYDD. Roedd e hefyd wedi proffwydo yn erbyn y ddinas yma a'r wlad, yn union yr un fath â Jeremeia. 21 Pan glywodd y Brenin Jehoiacim a'i warchodwyr a'i swyddogion beth oedd y proffwyd yn ei ddweud, roedd yn mynd i'w ladd. Ond dyma Wreia'n clywed am y bwriad ac yn dianc am ei fywyd i'r Aifft. 22 Anfonodd y Brenin Jehoiacim ddynion i'r Aifft i'w ddal (roedd Elnathan fab Achbor yn un ohonyn nhw), 23 a dyma nhw'n dod ag Wreia yn ôl yn garcharor at y Brenin Jehoiacim. Dyma Jehoiacim yn gorchymyn ei ladd gyda'r cleddyf, a chafodd ei gorff ei gladdu ym mynwent y bobl gyffredin.

24 Ond roedd Achicam fab Shaffan Ref o blaid Jeremeia, a gwrthododd drosglwyddo Jeremeia i'r bobl i gael ei ladd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity