Yn ôl

Jeremeia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JEREMEIA 29

Llythyr Jeremeia at yr Iddewon yn Babilon

1 Dyma lythyr Jeremeia at yr arweinwyr oedd ar ôl, yr offeiriaid a'r proffwydi, a phawb arall o Jerwsalem oedd wedi'u cymryd yn gaeth i Babilon gan y Brenin Nebwchadnesar. Ref 2 (Roedd hyn ar ôl i'r Brenin Jehoiachin Ref a'r fam frenhines, swyddogion y palas brenhinol, arweinwyr Jwda a Jerwsalem, y seiri coed a'r gweithwyr metel i gyd gael eu cymryd i ffwrdd yn gaeth o Jerwsalem.) 3 Elasa fab Shaffan Ref a Gemareia fab Chilceia aeth â'r llythyr yno. Roedden nhw wedi'u hanfon i Babilon at Nebwchadnesar gan Sedeceia, brenin Jwda. Dyma'r llythyr:

4 Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud wrth y bobl mae wedi'u hanfon yn gaeth o Jerwsalem i Babilon: 5 “Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta'r hyn sy'n tyfu ynddyn nhw. 6 Priodwch a chael plant. Dewiswch wragedd i'ch meibion a gadael i'ch merched briodi, er mwyn iddyn nhw hefyd gael plant. Dw i eisiau i'ch niferoedd chi dyfu, yn lle lleihau. 7 Gweithiwch dros heddwch a llwyddiant y ddinas lle dw i wedi mynd â chi'n gaeth. Gweddïwch ar yr ARGLWYDD drosti. Ei llwyddiant hi fydd eich llwyddiant chi.”

8 Achos dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Peidiwch gadael i'r proffwydi sydd gyda chi, a'r rhai hynny sy'n dweud ffortiwn, eich twyllo chi. Peidiwch cymryd sylw o'u breuddwydion.Croes 9 Maen nhw'n hawlio eu bod nhw'n siarad drosto i, ond yn dweud celwydd! Wnes i mo'u hanfon nhw,” meddai'r ARGLWYDD.

10 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Pan fydd Babilon wedi rheoli am saith deg mlyneddCroes bydda i'n cymryd sylw ohonoch chi eto. Dyna pryd y bydda i'n gwneud y pethau da dw i wedi'u haddo, a dod â chi yn ôl yma i'ch gwlad eich hunain. 11 Fi sy'n gwybod beth dw i wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i'n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi.Croes 12 Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda i'n gwrando. 13 Os byddwch chi'n chwilio amdana i o ddifri, â'ch holl galon,Croes byddwch chi'n fy ffeindio i. 14 Bydda i'n gadael i chi ddod o hyd i mi,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydda i'n rhoi'r cwbl wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi. Bydda i'n eich casglu chi yn ôl o'r holl wledydd wnes i eich gyrru chi i ffwrdd iddyn nhw. Bydda i'n dod â chi adre i'ch gwlad eich hunain.”

15 “Ond mae'r ARGLWYDD wedi rhoi proffwydi i ni yma yn Babilon,” meddech chi. 16 Felly gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y brenin sy'n eistedd ar orsedd Dafydd yma yn Jerwsalem, ac am eich perthnasau sy'n dal i fyw yma a heb gael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion gyda chi. 17 Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw. Byddan nhw fel ffigys ffiaidd sydd ddim ffit i'w bwyta. 18 Dw i'n mynd i anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw. Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Byddan nhw'n enghraifft o wlad wedi'i melltithio. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd, pethau fydd yn achosi i bobl chwibanu mewn rhyfeddod. A byddan nhw'n destun sbort i'r gwledydd lle bydda i'n eu hanfon nhw'n gaeth. 19 Bydd hyn yn digwydd am eu bod nhw heb wrando na chymryd sylw o beth dw i wedi'i ddweud dro ar ôl tro drwy fy ngweision y proffwydi,” meddai'r ARGLWYDD.

20 Felly – chi sydd wedi'ch gyrru i ffwrdd o Jerwsalem yn gaeth i Babilon – gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD. 21 Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Ahab fab Colaia a Sedeceia fab Maaseia sy'n proffwydo celwydd ac yn hawlio eu bod nhw'n siarad drosto i: “Dw i'n mynd i'w rhoi nhw yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon, a bydd e'n eu lladd nhw o'ch blaenau chi. 22 Bydd gan bobl Jwda sy'n gaeth yn Babilon y dywediad yma wrth felltithio rhywun: ‘Boed i'r ARGLWYDD dy wneud di fel Sedeceia ac Ahab, gafodd eu llosgi'n fyw gan frenin Babilon!’ 23 Maen nhw wedi gwneud pethau gwarthus yn Israel, wedi cysgu gyda gwragedd dynion eraill a dweud celwydd, tra'n honni eu bod nhw'n siarad drosto i. Wnes i ddim dweud dim wrthyn nhw. Ond dw i'n gwybod yn iawn ac wedi gweld beth maen nhw wedi'i wneud,” meddai'r ARGLWYDD.

Ymateb i lythyr Shemaia

24 Yna dywed wrth Shemaia o Nechelam: 25 dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel yn ei ddweud: “Anfonaist lythyrau ar dy liwt dy hun at y bobl sydd yn Jerwsalem, ac at Seffaneia fab Maaseia a'r offeiriaid eraill i gyd, yn dweud fel hyn, 26 ‘Mae'r ARGLWYDD wedi dy wneud di'n offeiriad yn lle Jehoiada, i fod yn gyfrifol am beth sy'n digwydd yn y deml, a delio gydag unrhyw wallgofddyn sy'n dod yno a chymryd arno ei fod yn broffwyd. Dylet ei ddal a rhoi coler haearn a chyffion arno. 27 Felly pam wyt ti ddim wedi ceryddu Jeremeia o Anathoth am gymryd arno ei fod yn broffwyd? 28 Mae e wedi anfon neges aton ni yn Babilon, yn dweud, “Dych chi'n mynd i fod yna am amser hir. Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta'r hyn sy'n tyfu ynddyn nhw.”’

29 Darllenodd Seffaneia'r offeiriad y llythyr i Jeremeia. 30 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia, 31 ‘Anfon y neges yma at y bobl sydd wedi'u cymryd yn gaeth i Babilon: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Shemaia o Nechelam: ‘Mae Shemaia yn siarad fel petai'n broffwyd, ond wnes i ddim ei anfon e. Mae e wedi gwneud i chi gredu celwydd!’ 32 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i gosbi Shemaia a'i deulu. Fydd neb ohonyn nhw'n cael byw i weld y pethau da dw i'n mynd i'w gwneud i'm pobl. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Mae e wedi annog pobl i wrthryfela yn fy erbyn i.’”’”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity