|
|
1 Os ydy dyn yn ysgaru ei wraig,
a hithau wedyn yn ei adael ac yn priodi rhywun arall,
dydy'r dyn cyntaf ddim yn gallu ei chymryd hi yn ôl.Croes
Byddai gwneud hynny'n llygru'r tir!
Ti wedi actio fel putain gyda dy holl gariadon;
felly wyt ti'n meddwl y cei di ddod yn ôl ata i?”
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.2 “Edrych ar y bryniau o dy gwmpas!
Oes rhywle rwyt heb orwedd i gael rhyw?
Roeddet ti'n eistedd ar ochr y ffordd,
fel Bedowin yn yr anialwch,
yn disgwyl amdanyn nhw!
Ti wedi llygru'r tir
gyda dy holl buteinio a'th ddrygioni.
3 Dyna pam does dim glaw wedi bod,
a dim sôn am gawodydd y gwanwyn.
Ond roeddet ti mor benstiff â phutain
ac yn teimlo dim cywilydd o gwbl.
4 Ac eto dyma ti'n galw arna i, ‘Fy nhad!
Ti wedi bod yn ffrind agos ers pan o'n i'n ifanc –
5 Wyt ti'n mynd i ddal dig am byth?
Wyt ti ddim yn mynd i aros felly, nac wyt?’
Ie, dyna beth ti'n ddweud,
ond yna'n dal i wneud
cymaint o ddrwg ag y medri di!”
‘Tro yn ôl ata i, Israel anffyddlon!’ meddai'r
ARGLWYDD.‘Dw i ddim yn mynd i edrych yn flin arnat ti o hyn ymlaen.
Dw i'n Dduw trugarog! Fydda i ddim yn dal dig am byth.
13 Dim ond i ti gyfaddef dy fai –
cyfaddef dy fod wedi gwrthryfela
yn erbyn yr
ARGLWYDD dy Dduwa rhoi dy hun i dduwiau eraill dan bob coeden ddeiliog,
cyfaddef dy fod ti ddim wedi gwrando arna i,’ meddai'r
ARGLWYDD. 14 “‘Trowch yn ôl ata i, bobl anffyddlon,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fi ydy'ch gŵr chi go iawn. Bydda i'n mynd â chi'n ôl i Seion – bob yn un o'r pentrefi a bob yn ddau o'r gwahanol deuluoedd. 15 Bydda i'n rhoi arweinwyr Ref i chi sy'n ffyddlon i mi. Byddan nhw'n gofalu amdanoch chi'n ddoeth ac yn ddeallus.’ 16 Bydd y boblogaeth yn cynyddu eto, a bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “fydd pobl ddim yn dweud pethau fel, ‘Mae gynnon ni Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD!’ Fydd y peth ddim yn croesi'r meddwl. Fyddan nhw ddim yn ei chofio hi nac yn ei cholli hi! A fydd dim angen gwneud un newydd. 17 Bryd hynny bydd dinas Jerwsalem yn cael ei galw yn orsedd yr ARGLWYDD. Bydd pobl o wledydd y byd i gyd yn dod at ei gilydd yno i addoli'r ARGLWYDD. Fyddan nhw ddim yn dal ati'n ystyfnig i ddilyn y duedd sydd ynddyn nhw i wneud drwg. 18 Bryd hynny bydd pobl Jwda a phobl Israel yn teithio yn ôl gyda'i gilydd o'r gaethglud yn y gogledd. Ref Byddan nhw'n dod yn ôl i'r wlad rois i i'w hynafiaid i'w hetifeddu.”‘Dw i'n mynd i dy drin di fel mab!
Dw i'n mynd i roi'r tir hyfryd yma i ti –
yr etifeddiaeth orau yn y byd i gyd!’
Rôn i'n arfer meddwl
y byddet ti'n fy ngalw i ‘Fy nhad’
a byth yn troi cefn arna i.
buoch yn anffyddlon i mi, bobl Israel,
fel gwraig sy'n anffyddlon i'w gŵr.”
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.21 Mae lleisiau i'w clywed ar ben y bryniau,
sŵn pobl Israel yn crio ac yn pledio ar eu ‛duwiau‛.
Maen nhw wedi anghofio'r
ARGLWYDD eu Duwa chrwydro mor bell oddi wrtho!
22 “Dewch yn ôl ata i, bobl anffyddlon;
gadewch i mi eich gwella chi!”
“Iawn! Dyma ni'n dod,” meddai'r bobl.
“Ti ydy'r
ARGLWYDD ein Duw ni.23 Dydy eilun-dduwiau'r bryniau yn ddim ond twyll,
a'r holl rialtwch wrth addoli ar y mynyddoedd.
Yr
ARGLWYDD ein Duw ydy'r unig un all achub Israel.24 Ond mae Baal, y duw ffiaidd yna, wedi llyncu'r cwbl
wnaeth ein hynafiaid weithio mor galed amdano o'r dechrau
– eu defaid a'u gwartheg, eu meibion a'u merched.
25 Gadewch i ni orwedd mewn cywilydd,
a'n gwarth fel blanced droson ni.
Dŷn ni a'n hynafiaid wedi pechu
yn erbyn yr
ARGLWYDD ein Duwo'r dechrau cyntaf hyd heddiw.
Dŷn ni ddim wedi bod yn ufudd iddo o gwbl.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity