|
|
“Diolchwch i'r
ARGLWYDD hollbwerus.Mae e mor dda aton ni;
mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”
Dw i'n mynd i roi'r cwbl oedd gan y wlad ar y dechrau yn ôl iddi,’ meddai'r ARGLWYDD. 12 “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Mae'n wir – bydd y lle yma'n adfeilion, heb bobl nac anifeiliaid yn byw yma. Ond yna ryw ddydd bydd bugeiliaid unwaith eto yn arwain eu praidd i orffwys yma. 13 Bydd bugeiliaid yn cyfrif eu defaid wrth iddyn nhw fynd i'r gorlan yn y pentrefi i gyd, yn y bryniau a'r iseldir i'r gorllewin, yn y Negef i'r de, ar dir llwyth Benjamin, yn yr ardal o gwmpas Jerwsalem ac yn nhrefi Jwda i gyd. Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn. 14 “‘Mae'r amser yn dod,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘pan fydda i'n gwneud beth dw i wedi addo ei wneud i bobl Israel a Jwda. 15 Bryd hynny,bydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd,
un fydd yn gwneud beth sy'n iawn.
Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.
16 Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachub,
a bydd Jerwsalem yn saff.
Bydd e'n cael ei alw,
“Yr
ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i ni”.’Croes 17 “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Bydd un o ddisgynyddion Dafydd yn eistedd ar orsedd Israel am byth. 18 A bydd yna bob amser offeiriaid o lwyth Lefi yn sefyll o'm blaen i gyflwyno offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn, ac aberthau.’” 19 Yna dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia: 20 “Dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Does neb yn gallu torri'r patrwm o nos a dydd yn dilyn ei gilydd mewn trefn. 21 A'r un fath, does neb yn gallu torri'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud i Dafydd fy ngwas, sef y bydd un o'i ddisgynyddion yn frenin bob amser.Croes A does neb yn gallu torri'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud i lwyth Lefi chwaith. 22 Bydd cymaint o ddisgynyddion gan Dafydd fy ngwas, â'r rhai o lwyth Lefi sy'n fy ngwasanaethu i. Byddan nhw fel y sêr yn yr awyr neu'r tywod ar lan y môr – yn gwbl amhosib i'w cyfri!’Croes” 23 Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia: 24 “Mae'n siŵr dy fod ti wedi clywed beth mae pobl yn ei ddweud – ‘Mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y ddau deulu wnaeth e ddewis!’ Does ganddyn nhw ddim parch at fy mhobl i. Dŷn nhw ddim yn eu hystyried nhw'n genedl ddim mwy. 25 Ond dw i, yr ARGLWYDD, yn addo hyn: dw i wedi gosod trefn i reoli dydd a nos, ac wedi gosod deddfau i'r awyr a'r ddaear. Dydy'r pethau yna byth yn mynd i gael eu newid. 26 A'r un modd dw i ddim yn mynd i wrthod disgynyddion Jacob. Bydd un o ddisgynyddion Dafydd yn teyrnasu ar ddisgynyddion Abraham, Isaac a Jacob. Byddan nhw'n cael popeth maen nhw wedi'i golli yn ôl. Dw i'n mynd i ddangos trugaredd atyn nhw.”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity