JEREMEIA 37
Sedeceia yn gofyn am help Jeremeia
1 Sedeceia, mab i Joseia, wnaeth olynu Jehoiachin Ref fab Jehoiacim yn frenin ar Jwda. Cafodd Sedeceia ei benodi'n frenin gan Nebwchadnesar, brenin Babilon.Croes
2 Ond wnaeth e a'i swyddogion, na'r bobl gyffredin chwaith, ddim gwrando ar beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwy'r proffwyd Jeremeia.
3 Er hynny, dyma'r Brenin Sedeceia yn anfon Iehwchal fab Shelemeia a'r offeiriad Seffaneia fab Maaseia at Jeremeia. Dwedodd wrthyn nhw am ofyn iddo, “Plîs gweddïa y bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu ni.”
4 (Ar y pryd roedd Jeremeia'n dal yn rhydd i fynd a dod. Doedd e ddim eto wedi cael ei roi yn y carchar.)
5 Roedd byddin Babilon wedi stopio ymosod ar Jerwsalem am y tro. Roedden nhw wedi clywed fod byddin y Pharo Ref yn dod i fyny o'r Aifft, ac felly dyma nhw'n gadael Jerwsalem.
6 A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Jeremeia:
7 “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dwedwch wrth frenin Jwda wnaeth eich anfon chi ata i am help: ‘Bydd byddin y Pharo, sydd ar ei ffordd i'ch helpu chi, yn mynd yn ôl adre i'r Aifft,
8 a bydd y Babiloniaid yn dod yn ôl i ymosod ar y ddinas yma. Byddan nhw'n ei choncro ac yn ei llosgi'n ulw.’
9 Mae'r ARGLWYDD yn dweud: ‘Peidiwch twyllo'ch hunain i feddwl y bydd y Babiloniaid yn mynd i ffwrdd ac yn gadael llonydd i chi. Fyddan nhw ddim yn mynd i ffwrdd.
10 Hyd yn oed petaech chi'n llwyddo i ddinistrio'r fyddin sy'n dod i ymladd yn eich erbyn chi, a gadael dim ond llond dwrn o ddynion wedi'u hanafu yn gorwedd yn eu pebyll, bydden nhw'n codi eto ac yn llosgi'r ddinas yma'n ulw.’”
Jeremeia'n cael ei garcharu
11 Roedd byddin Babilon wedi gadael Jerwsalem am fod byddin y Pharo ar ei ffordd,
12 a dyma Jeremeia'n cychwyn allan o Jerwsalem i fynd adre i ardal Benjamin. Roedd yn mynd i dderbyn ei siâr e o'r tir oedd piau'r teulu.
13 Ond pan gyrhaeddodd Giât Benjamin dyma gapten y gwarchodlu, sef Ireia (mab Shelemeia ac ŵyr i Chananeia), yn ei stopio. “Ti'n mynd drosodd at y Babiloniaid!” meddai wrtho.
14 Ond dyma Jeremeia'n ateb, “Na, dydy hynny ddim yn wir. Dw i ddim yn mynd drosodd at y Babiloniaid.” Ond roedd Ireia'n gwrthod gwrando arno, a dyma fe'n arestio Jeremeia a mynd ag e at y swyddogion.
15 Roedd y swyddogion yn wyllt gynddeiriog hefo Jeremeia. Ar ôl ei guro dyma nhw'n ei garcharu yn nhŷ Jonathan, yr ysgrifennydd brenhinol – roedd y tŷ wedi cael ei droi'n garchar.
16 Felly roedd Jeremeia yn y carchar, wedi'i roi mewn dwnsiwn. A buodd yno am amser hir.
17 Dyma'r Brenin Sedeceia yn anfon am Jeremeia, a dod ag e i'r palas i'w holi'n gyfrinachol. “Oes gen ti neges gan yr ARGLWYDD?” meddai. “Oes,” meddai Jeremeia. “Ti'n mynd i gael dy roi yn nwylo brenin Babilon!”
18 Wedyn dyma Jeremeia'n gofyn i'r brenin, “Pa ddrwg dw i wedi'i wneud i ti, neu i dy swyddogion, neu i'r bobl yma? Pam dych chi wedi fy nhaflu i i'r carchar?
19 A ble mae'r proffwydi hynny wnaeth broffwydo y byddai brenin Babilon ddim yn ymosod ar y wlad yma?
20 Plîs gwranda arna i, f'arglwydd frenin. Dw i'n pledio am drugaredd. Bydda i'n marw os gwnei di f'anfon i'n ôl i'r carchar yna yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd.”
21 Felly dyma'r Brenin Sedeceia yn gorchymyn cadw Jeremeia yn iard y gwarchodlu. Rhoddodd orchymyn hefyd ei fod i gael dogn o fara ffres o Stryd y Pobyddion bob dydd, o leia tra oedd bara i'w gael yn y ddinas.
Felly cafodd Jeremeia ei gadw yn iard y gwarchodlu.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity