|
|
1 “Dim ond i ti droi yn ôl, o Israel,” meddai'r
ARGLWYDD“Ie, troi yn ôl!
Cael gwared â'r eilun-dduwiau ffiaidd yna o'm golwg i
a stopio crwydro o hyn ymlaen;
2 dweud y gwir, a bod yn onest wrth dyngu llw,
‘Mor sicr â bod yr
ARGLWYDD yn fyw!’Wedyn bydd y cenhedloedd am iddo'u bendithio nhw,
a byddan nhw'n ymffrostio ynddo.”
3 Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi, bobl Jwda a Jerwsalem:“Rhaid i chi drin y tir caled,
a pheidio hau had da yng nghanol drain;Croes
4 rhoi eich hunain yn llwyr i'r
ARGLWYDD,newid eich agwedd a chael gwared â phob rhwystr. Ref
Os na wnewch chi, bydda i'n ddig.
Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd,
o achos yr holl ddrwg dych chi wedi'i wneud.”
a dweud wrth bawb yn Jerwsalem:
‘Chwythwch y corn hwrdd Ref i rybuddio pobl drwy'r wlad i gyd.’
Gwaeddwch yn uchel,
‘Dewch, rhaid dianc i'r trefi caerog!’
6 Codwch arwydd yn dweud, ‘I Seion!’
Ffowch i le saff! Peidiwch sefyllian!
Dw i ar fin dod â dinistr o gyfeiriad y gogledd –
trychineb ofnadwy!
7 Mae llew wedi dod allan o'i ffau!
Mae'r un sy'n dinistrio cenhedloedd ar ei ffordd.
Mae'n dod i ddifetha'r wlad,
a gwneud ei threfi'n adfeilion lle bydd neb yn byw.
8 Felly gwisgwch sachliain, a galaru ac udo:
‘Mae'r
ARGLWYDD yn dal wedi digio'n lân hefo ni.’” ARGLWYDD,“bydd y brenin a'i swyddogion wedi colli pob hyder.
Bydd yr offeiriaid yn syfrdan a'r proffwydi'n methu dweud gair.”
10 Fy ymateb i oedd, “O! Feistr, ARGLWYDD, mae'n rhaid dy fod ti wedi twyllo'r bobl yma'n llwyr, a Jerwsalem hefyd! Roeddet ti wedi addo heddwch i Jerwsalem, ond mae cleddyf yn cyffwrdd ein gyddfau ni!” 11 Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn dweud wrth y bobl yma ac wrth Jerwsalem, “Bydd gwynt poeth o fryniau'r anialwch yn chwythu ar fy mhobl druan. Nid rhyw wynt ysgafn i nithio'r had a chwythu'r us i ffwrdd fydd e. 12 Na, bydd yn wynt llawer rhy gryf i hynny! Dw i fy hun yn mynd i'w barnu nhw.”13 Edrychwch! Mae'r gelyn yn dod fel cymylau'n casglu.
Mae sŵn ei gerbydau fel sŵn corwynt,
a'i geffylau yn gyflymach nag eryrod.
“Gwae ni, mae hi ar ben arnon ni!” meddai'r bobl.
14 O, Jerwsalem, golcha'r drwg o dy galon
i ti gael dy achub.
Am faint wyt ti'n mynd i ddal gafael
yn dy syniadau dinistriol?
15 Mae negeswyr yn dod i gyhoeddi dinistr
o dref Dan ac o fryniau Effraim. Ref
16 Cyhoeddwch i'r gwledydd o'i chwmpas, “Maen nhw yma!”
a dwedwch wrth Jerwsalem,
“Mae'r rhai sy'n ymosod ar ddinasoedd wedi dod o wlad bell,
ac yn bloeddio, ‘I'r gad!’ yn erbyn trefi Jwda.”
17 Maen nhw'n cau amdani o bob cyfeiriad,
fel gwylwyr yn gofalu am gae.
“Ydy, mae hi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i,”
meddai'r
ARGLWYDD.18 Ti wedi dod â hyn arnat dy hun,
achos y ffordd rwyt wedi byw a'r pethau rwyt wedi'u gwneud.
Bydd dy gosb yn brofiad chwerw!
Bydd fel cleddyf yn treiddio i'r byw!
Mae fel gwayw yn fy mol,
ac mae fy nghalon i'n pwmpio'n wyllt.
Alla i ddim cadw'n dawel
wrth glywed y corn hwrdd Ref yn seinio
a'r milwyr yn gweiddi “I'r gad!”
20 Mae un dinistr yn dod ar ôl y llall,
nes bod y wlad i gyd wedi'i difetha.
Yn sydyn mae pob pabell wedi'i dinistrio,
a'u llenni wedi'u rhwygo mewn chwinciad.
21 Am faint mae'n rhaid edrych ar faneri'r gelyn?
Am faint fydd raid i'r rhyfela fynd ymlaen?
Dŷn nhw ddim yn fy nabod i go iawn.
Maen nhw fel plant heb ddim sens.
Dŷn nhw'n deall dim byd!
Maen nhw'n hen lawiau ar wneud drwg,
ond ddim yn gwybod sut i wneud beth sy'n dda.”
23 Edrychais ar y ddaear, ac roedd yn anrhefn gwag.Croes
Edrychais i'r awyr, a doedd dim golau!
24 Edrychais ar y mynyddoedd, ac roedden nhw'n crynu!
Roedd y bryniau i gyd yn gwegian.
25 Edrychais eto – doedd dim pobl yn unman,
ac roedd yr adar i gyd wedi hedfan i ffwrdd.
26 Edrychais, ac roedd y tir amaeth wedi troi'n anialwch,
a'r trefi i gyd yn adfeilion.
Yr
ARGLWYDD oedd wedi achosi'r cwbl,am ei fod wedi digio'n lân hefo ni.
27 Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydd y tir i gyd yn destun sioc
ond fydda i ddim yn ei ddinistrio'n llwyr.
a'r awyr wedi tywyllu.
Dw i wedi dweud yn glir beth dw i am ei wneud,
a dw i ddim yn bwriadu newid fy meddwl.”
29 Mae sŵn y marchogion a'r bwasaethwyr yn dod,
ac mae pawb yn ffoi o'r trefi.
Maen nhw'n cuddio yn y llwyni, ac yn dringo'r clogwyni.
Mae'r trefi'n wag – does neb ar ôl ynddyn nhw!
30 A thithau'r ddinas sy'n mynd i gael dy ddinistrio: Ref
Beth wyt ti'n wneud yn dy ddillad gorau?
Pam wyt ti'n addurno dy hun hefo dy dlysau?
Pam wyt ti'n rhoi colur ar dy lygaid?
Does dim pwynt i ti wisgo colur.
Mae dy ‛gariadon‛ wedi dy wrthod;
maen nhw eisiau dy ladd di!
31 A dweud y gwir, dw i wedi clywed sŵn crio,
sŵn gwraig ifanc mewn poen wrth gael ei babi cyntaf,
sŵn Seion yn anadlu'n drwm, ac yn pledio am help:
“Mae ar ben arna i!
Mae'r llofruddion yma wedi cael y gorau arna i.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity