Yn ôl

Jeremeia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JEREMEIA 40

Jeremeia'n aros gyda Gedaleia

1 Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia, pan gafodd ei ollwng yn rhydd gan Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol. Roedd yn Rama, Ref wedi'i rwymo mewn cadwyni fel pawb arall o Jwda a Jerwsalem oedd yn cael eu cymryd yn gaeth i Babilon. 2 Yna, dyma Nebwsaradan yn cymryd Jeremeia o'r neilltu a dweud wrtho, “Roedd yr ARGLWYDD dy Dduw wedi bygwth dinistrio'r lle yma, 3 a dyna wnaeth e. Mae wedi gwneud beth ddwedodd e am eich bod chi wedi pechu yn ei erbyn a gwrthod gwrando arno. Dyna pam mae hyn wedi digwydd i chi. 4 Nawr, dw i wedi tynnu dy gadwyni ac yn dy ollwng di'n rhydd. Os wyt ti eisiau dod hefo fi i Babilon, tyrd, a gwna i edrych ar dy ôl di. Ond does dim rhaid i ti ddod os wyt ti ddim eisiau. Ti'n rhydd i fynd i ble bynnag rwyt ti eisiau. 5 Os wyt ti am aros, dos yn ôl at Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan) sydd wedi'i benodi gan frenin Babilon yn llywodraethwr dros drefi Jwda. Aros gydag e a'r bobl yno. Neu dos i ble bynnag arall rwyt ti eisiau.” Yna ar ôl rhoi bwyd ac arian i Jeremeia, dyma gapten y gwarchodlu brenhinol yn gadael iddo fynd. 6 A dyma Jeremeia yn mynd i Mitspa Ref at Gedaleia fab Achicam. Arhosodd yno gyda'r bobl oedd wedi'u gadael ar ôl yn y wlad.

Gedaleia yn rheoli Jwda

(2 Brenhinoedd 25:22-24)

7 Roedd rhai o swyddogion byddin Jwda a'u milwyr wedi bod yn cuddio yng nghefn gwlad. Dyma nhw'n clywed fod brenin Babilon wedi penodi Gedaleia fab Achicam i reoli'r wlad, a bod dynion, gwragedd a phlant mwya tlawd y wlad wedi'u gadael yno a heb eu cymryd yn gaeth i Babilon. 8 Felly dyma nhw'n mynd i gyfarfod â Gedaleia yn Mitspa – Ishmael fab Nethaneia,Croes Iochanan a Jonathan (meibion Careach), Seraia fab Tanchwmeth, meibion Effai o Netoffa, a Iesaneia (mab y Maachathiad). Daeth y rhain i gyd gyda'u milwyr. 9 A dyma Gedaleia yn addo iddyn nhw, “Does dim rhaid i chi fod ag ofn ildio i'r Babiloniaid. Arhoswch yn y wlad a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd popeth yn iawn. 10 Bydda i'n aros yn Mitspa ac yn eich cynrychioli pan fydd y Babiloniaid yn dod i'n cyfarfod ni. Ewch chi i gasglu'r cynhaeaf grawnwin, y ffigys aeddfed a'r olew, a'u storio mewn jariau. Cewch setlo i lawr yn y trefi dych chi wedi'u cipio.”

11 Roedd llawer o bobl Jwda wedi dianc yn ffoaduriaid i Moab, gwlad Ammon, Edom a gwledydd eraill, a dyma nhw'n clywed beth oedd wedi digwydd. Clywon nhw fod brenin Babilon wedi gadael i rai pobl aros yn Jwda, a'i fod wedi penodi Gedaleia i reoli'r wlad. 12 Felly dyma'r bobl hynny i gyd yn dod adre i wlad Jwda o'r gwledydd lle roedden nhw wedi bod yn ffoaduriaid, a mynd i Mitspa i gyfarfod Gedaleia. A dyma nhw hefyd yn casglu cynhaeaf enfawr o rawnwin a ffigys.

Llofruddio Gedaleia

(2 Brenhinoedd 25:25-26)

13 Un diwrnod dyma Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin oedd wedi bod yn cuddio yng nghefn gwlad yn mynd i Mitspa eto i gyfarfod Gedaleia. 14 A dyma nhw'n dweud wrtho, “Wyt ti'n gwybod fod Baalis, brenin Ammon, wedi anfon Ishmael fab Nethaneia i dy lofruddio di?” Ond doedd Gedaleia ddim yn eu credu nhw. 15 Wedyn, dyma Iochanan fab Careach yn cael gair preifat hefo Gedaleia ym Mitspa. “Gad i mi fynd i ladd Ishmael fab Nethaneia,” meddai. “Fydd neb yn gwybod am y peth. Rhaid i ni beidio gadael iddo dy lofruddio di, neu bydd pobl Jwda sydd wedi dy gefnogi di'n mynd ar chwâl, a bydd y rhai sydd ar ôl yn Jwda yn diflannu!” 16 Ond dyma Gedaleia yn ateb Iochanan, “Paid meiddio gwneud y fath beth! Dydy beth rwyt ti'n ddweud am Ishmael ddim yn wir.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity