Yn ôl

Jeremeia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JEREMEIA 41

1 Yna, yn y seithfed mis Ref dyma Ishmael (mab Nethaneia ac ŵyr i Elishama) yn mynd i gyfarfod â Gedaleia fab Achicam yn Mitspa. Roedd deg o ddynion eraill gydag e. (Roedd Ishmael yn perthyn i'r teulu brenhinol, ac roedd wedi bod yn un o brif swyddogion y Brenin Sedeceia.) Roedden nhw'n cael pryd o fwyd gyda'i gilydd yn Mitspa. 2 Ond yn sydyn dyma Ishmael a'r dynion oedd gydag e'n codi ac yn tynnu eu cleddyfau a lladd Gedaleia, y dyn roedd brenin Babilon wedi'i benodi i reoli'r wlad. 3 Lladdodd Ishmael hefyd bob un o swyddogion Jwda oedd gyda Gedaleia yn Mitspa, a rhai milwyr o Babilon oedd yn digwydd bod yno.

4 Y diwrnod wedyn, cyn i neb glywed fod Gedaleia wedi'i lofruddio, 5 dyma wyth deg o ddynion yn cyrraedd yno o Sichem, Seilo a Samaria. Ref Roedden nhw wedi siafio'u barfau, rhwygo'u dillad a thorri eu hunain â chyllyll, ac yn dod ag offrymau o rawn ac arogldarth i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD yn y deml yn Jerwsalem. 6 Aeth Ishmael allan i'w cyfarfod nhw. Roedd yn cymryd arno ei fod yn crio. A phan ddaeth atyn nhw, dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dewch i weld Gedaleia fab Achicam.” 7 Ond pan aethon nhw i mewn i'r ddinas, dyma Ishmael a'r dynion oedd gydag e'n eu lladd nhw hefyd a thaflu eu cyrff i bydew. 8 Llwyddodd deg ohonyn nhw i arbed eu bywydau drwy ddweud wrth Ishmael, “Paid lladd ni. Mae gynnon ni stôr o wenith, haidd, olew a mêl wedi'i guddio mewn cae.” Felly wnaeth Ishmael ddim eu lladd nhw gyda'r lleill.

9 Roedd y pydew lle taflodd Ishmael gyrff y dynion laddwyd yn un mawr. (Dyma'r pydew oedd Asa, Ref brenin Jwda, wedi'i adeiladu pan oedd yn amddiffyn y ddinas rhag Baasha, Ref brenin Israel.) Ond roedd Ishmael wedi llenwi'r pydew gyda'r cyrff! 10 Yna, dyma Ishmael yn cymryd pawb oedd yn Mitspa yn gaeth – roedd hyn yn cynnwys merched o'r teulu brenhinol, a phawb arall roedd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, wedi'u gosod dan awdurdod Gedaleia fab Achicam. Cymerodd Ishmael nhw i gyd yn gaeth a chychwyn ar ei ffordd yn ôl i wlad Ammon.

11 Pan glywodd Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin am y pethau erchyll roedd Ishmael fab Nethaneia wedi'u gwneud, 12 dyma nhw'n mynd â'u milwyr i ymladd yn ei erbyn. Cawson nhw hyd iddo wrth y pwll mawr yn Gibeon. Ref 13 Roedd y bobl roedd Ishmael wedi'u cymryd yn gaethion o Mitspa wrth eu boddau pan welon nhw Iochanan a swyddogion eraill y fyddin gydag e. 14 Dyma nhw'n troi a mynd drosodd at Iochanan fab Careach. 15 Ond llwyddodd Ishmael fab Nethaneia ac wyth o ddynion eraill i ddianc a chroesi drosodd i wlad Ammon.

16 Dyma Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin oedd gydag e yn arwain y bobl oedd wedi'u hachub i ffwrdd. (Roedd dynion, gwragedd a phlant, a swyddogion y llys yn eu plith, sef y bobl roedd Ishmael fab Nethaneia wedi'u cymryd yn gaeth o Mitspa ar ôl llofruddio Gedaleia fab Achicam.) Ar ôl gadael Gibeon, 17 dyma nhw'n aros yn Llety Cimham, sydd wrth ymyl Bethlehem. Ref Y bwriad oedd mynd i'r Aifft 18 i ddianc oddi wrth y Babiloniaid. Roedd ganddyn nhw ofn beth fyddai'r Babiloniaid yn ei wneud am fod Ishmael fab Nethaneia wedi llofruddio Gedaleia, y dyn roedd brenin Babilon wedi'i benodi i reoli'r wlad.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity