JEREMEIA 45
Neges i Barŵch
1 Dyma'r proffwyd Jeremeia yn rhoi neges i Barŵch fab Nereia, oedd yn ysgrifennu'r cwbl roedd Jeremeia'n ei ddweud mewn sgrôl.Croes (Roedd hyn yn ystod y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda Ref ):
2-3 “Barŵch, rwyt ti'n dweud, ‘Mae hi ar ben arna i! Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi tristwch ar ben y boen oedd yna'n barod! Dw i wedi blino tuchan. Alla i ddim gorffwys.’ Wel, dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud wrthot ti:
4 ‘Dw i'n mynd i fwrw i lawr beth dw i wedi'i adeiladu, a thynnu o'r gwraidd beth dw i wedi'i blannu. Bydda i'n gwneud hyn drwy'r byd i gyd.
5 Ddylet ti ddim disgwyl pethau mawr i ti dy hun. Dw i'n dod â dinistr ar y ddynoliaeth gyfan. Ond bydda i'n dy gadw di'n fyw ble bynnag ei di.’”
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity