Yn ôl

Jeremeia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JEREMEIA 47

Neges am drefi Philistia

1 Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y Philistiaid, cyn i'r Pharo ymosod ar Gasa. 2 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“Edrychwch! Mae'r gelynion yn codi yn y gogleddCroes fel afon ar fin gorlifo.

Byddan nhw'n dod fel llifogydd i orchuddio'r tir.

Byddan nhw'n dinistrio'r wlad a phopeth ynddi,

y trefi a phawb sy'n byw ynddyn nhw.

Bydd pobl yn gweiddi mewn dychryn,

a phopeth byw yn griddfan mewn poen.

3 Bydd sŵn y ceffylau'n carlamu,

y cerbydau'n clecian, a'r olwynion yn rymblan.

Bydd rhieni'n ffoi am eu bywydau

heb feddwl troi'n ôl i geisio achub eu plant

am fod arnyn nhw gymaint o ofn.

4 Mae'r diwrnod wedi dod i'r Philistiaid gael eu dinistrio,

a'r cynghreiriaid sydd ar ôl yn Tyrus a Sidon.

Ydw, dw i'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio'r Philistiaid,

y bobl ddaeth drosodd o ynys Creta. Ref

5 Bydd pobl Gasa yn siafio'u pennau mewn galar,

a phobl Ashcelon yn cael eu taro'n fud.

Am faint ydych chi sydd ar ôl ar y gwastatir

yn mynd i ddal ati i dorri eich hunain â chyllyll?”

Y bobl:

6 “O! gleddyf yr ARGLWYDD,

am faint wyt ti'n mynd i ddal ati i ladd?

Dos yn ôl i'r wain!

Aros yno, a gorffwys!”

Jeremeia:

7 “Ond sut mae'n gallu gorffwys

pan mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo?

Fe sydd wedi dweud wrtho am ymosod

ar dref Ashcelon a phobl yr arfordir.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity