|
|
“Oes gan Israel ddim disgynyddion?
Oes neb ohonyn nhw ar ôl i etifeddu'r tir?
Ai dyna pam dych chi sy'n addoli Milcom Ref
wedi dwyn tir Gad Ref a setlo yn ei drefi?
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn,“pan fydd sŵn rhyfel i'w glywed yn Rabba.
Bydd prifddinas Ammon yn domen o adfeilion,
a bydd ei phentrefi yn cael eu llosgi'n ulw.
Wedyn bydd Israel yn cymryd ei thir yn ôl
gan y rhai gymrodd ei thir oddi arni,”
—meddai'r
ARGLWYDD.3 “Udwch, bobl Cheshbon, Ref am fod Ai wedi'i bwrw i lawr!
Gwaeddwch, chi sydd yn y pentrefi o gwmpas Rabba!
Gwisgwch sachliain a galarwch!
Rhedwch o gwmpas yn anafu eich hunain!
Bydd eich duw Milcom yn cael ei gymryd i ffwrdd,
a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e!
4 Pam dych chi'n brolio eich bod mor gryf?
Mae eich cryfder yn diflannu, bobl anffyddlon!
Roeddech yn trystio eich cyfoeth ac yn meddwl,
‘Pwy fyddai'n meiddio ymosod arnon ni?’
5 Wel, dw i'n mynd i dy ddychryn di o bob cyfeiriad,”
meddai'r Meistr, yr
ARGLWYDD hollbwerus.“Byddi'n cael dy yrru ar chwâl,
a fydd neb yna i helpu'r ffoaduriaid.
6 “Ond wedyn bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Ammon yn ôl iddi.”—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Oes rhywun doeth ar ôl yn Teman? Ref
Oes neb call ar ôl i roi cyngor?
Ydy eu doethineb nhw wedi diflannu?
Ewch i guddio'n bell, bobl Dedan! Ref
Dw i'n dod â dinistr ar ddisgynyddion Esau,Croes
mae'n amser i mi eu cosbi.
9 Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti,
oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa?Croes
Petai lladron yn dod yn y nos,
fydden nhw ond yn dwyn beth roedden nhw eisiau!Croes
10 Ond dw i'n mynd i gymryd popeth oddi ar bobl Esau.
Bydda i'n dod o hyd iddyn nhw;
fyddan nhw ddim yn gallu cuddio.
Bydd eu plant, eu perthnasau, a'u cymdogion i gyd
yn cael eu dinistrio. Fydd neb ar ôl!
11 Gadael dy blant amddifad gyda mi,
gwna i ofalu amdanyn nhw.
Bydd dy weddwon hefyd yn gallu dibynnu arna i.”
12 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Os oes rhaid i bobl ddiniwed ddiodde, wyt ti'n meddwl y byddi di'n dianc? Na! Bydd rhaid i tithau yfed o gwpan barn. 13 Dw i wedi addo ar lw,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydd Bosra Ref yn cael ei throi'n adfeilion. Bydd yn destun sbort. Bydd yn cael ei dinistrio'n llwyr a'i gwneud yn enghraifft o bobl wedi'u melltithio. Bydd eu trefi yn cael eu gadael yn adfeilion am byth.”pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud,
‘Dewch at eich gilydd i ymosod arni hi.
Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!’”
15 “Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan;
bydd pawb yn cael hwyl ar dy ben.
16 Mae dy allu i ddychryn pobl
a dy falchder wedi dy dwyllo di.
Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig,
yn byw ar ben y mynydd –
ond hyd yn oed petaet ti'n gwneud dy nyth mor uchel â'r eryr,
bydda i'n dy dynnu di i lawr.”Croes
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn. 17 “Bydd Edom yn cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr. 18 Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas. Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto,” yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. 19 “Bydda i'n gyrru pobl Edom o'u tir, fel llew yn dod allan o goedwig wyllt yr Iorddonen ac yn gyrru'r praidd yn y borfa agored ar chwâl. Bydda i'n dewis yr hyrddod gorau i'w llarpio. Achos pwy sy'n debyg i mi? Pwy sy'n mynd i'm galw i gyfri? Pa fugail sy'n gallu sefyll yn fy erbyn i?” 20 Dyma gynllun yr ARGLWYDD yn erbyn Edom. Dyma mae'n bwriadu ei wneud i bobl Teman.“Bydd hyd yn oed yr ŵyn bach yn cael eu llusgo i ffwrdd.
Bydd eu corlan yn cael ei dinistrio am beth wnaethon nhw.
21 Bydd pobl y ddaear yn crynu wrth glywed am eu cwymp.
Bydd eu sŵn nhw'n gweiddi i'w glywed wrth y Môr Coch. Ref
22 Edrychwch! Bydd y gelyn fel eryr yn codi i'r awyr,
yn lledu ei adenydd ac yn plymio i lawr ar Bosra.
Y diwrnod hwnnw bydd milwyr Edom wedi dychryn,
fel gwraig ar fin cael babi!”
“Mae pobl Chamath ac Arpad Ref wedi drysu.
Maen nhw wedi clywed newyddion drwg.
Maen nhw'n poeni ac wedi cynhyrfu
fel môr stormus sy'n methu bod yn llonydd.
24 Mae pobl Damascus wedi colli pob hyder,
ac wedi ffoi mewn panig.
Mae poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw,
fel gwraig ar fin cael babi.
25 Bydd y ddinas enwog yn wag cyn bo hir –
y ddinas oedd unwaith yn llawn bwrlwm a hwyl!
26 Bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd,
a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd y diwrnod hwnnw,”
—yr
ARGLWYDD hollbwerus sy'n dweud hyn.27 “Bydda i'n llosgi waliau Damascus,
a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad.” Ref Croes
“Fyddin Babilon, codwch ac ymosod ar Cedar!
Dinistriwch bobl y dwyrain.
29 Cymerwch eu pebyll a'u preiddiau,
eu llenni a'u hoffer, a'u camelod i gario'r cwbl i ffwrdd.
Bydd pobl yn gweiddi: ‘Does ond dychryn ym mhobman!’
30 Bobl Chatsor, rhedwch i ffwrdd;
ewch i guddio mewn ogofâu!
Mae Nebwchadnesar, brenin Babilon,
yn bwriadu ymosod arnoch chi.
Mae e'n bwriadu eich dinistrio chi!
ar wlad sy'n meddwl ei bod mor saff!”
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.Does dim giatiau dwbl gyda barrau i'w hamddiffyn,
a does neb wrth ymyl i'w helpu.
32 Bydd y milwyr yn cymryd ei chamelod
a'i gyrroedd o wartheg yn ysbail.
Bydda i'n gyrru ar chwâl
bawb sy'n byw ar ymylon yr anialwch.
Daw dinistr arnyn nhw o bob cyfeiriad,
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.33 Bydd Chatsor wedi'i throi'n adfeilion am byth.
Bydd yn lle i siacaliaid fyw –
fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno.
“Dw i'n mynd i ladd bwasaethwyr Elam,
sef asgwrn cefn eu grym milwrol.
36 Dw i'n mynd i ddod â gelynion
yn erbyn pobl Elam o bob cyfeiriad,
a byddan nhw'n cael eu gyrru ar chwâl.
Bydd ffoaduriaid o Elam yn dianc i bobman.
37 Bydd pobl Elam wedi'u dychryn yn lân
gan y gelynion sydd am eu lladd nhw.
Dw i wedi gwylltio'n lân hefo nhw,
a dw i'n mynd i'w dinistrio nhw,”
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Bydda i'n anfon byddinoedd eu gelynion ar eu holau,
nes bydda i wedi'u dinistrio nhw'n llwyr.
38 Bydda i'n teyrnasu dros Elam.
Bydda i'n lladd eu brenin a'u swyddogion,”
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn. 39 “Ond wedyn bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Elam yn ôl iddi,”—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity