Yn ôl

Jeremeia

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JEREMEIA 52

Gair i gloi – geiriau Jeremeia'n dod yn wir

(52:1-34)

Hanes Jerwsalem yn cael ei choncro

(2 Brenhinoedd 24:18—25:7)

1 Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi'n frenin. Ref Bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. Ref Enw ei fam oedd Chamwtal (merch Jeremeia o Libna Ref ). 2 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y Brenin Jehoiacim. 3 Felly gyrrodd yr ARGLWYDD bobl Jerwsalem a Jwda o'i olwg am ei fod mor ddig hefo nhw.

Ond yna, dyma Sedeceia yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon. 4 A dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem. Digwyddodd hyn ar y degfed diwrnod o'r degfed mis Ref yn nawfed flwyddyn Sedeceia fel brenin. Dyma nhw'n gwersylla o gwmpas y ddinas, ac yn codi rampiau i warchae arni. 5 Buon nhw'n gwarchae Ref ar y ddinas am flwyddyn a hanner (blwyddyn un deg un Sedeceia fel brenin). 6 Erbyn y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis Ref y flwyddyn honno roedd y newyn yn y ddinas mor ddrwg doedd gan y werin bobl ddim byd o gwbl i'w fwyta. 7 Dyma'r gelyn yn llwyddo i fylchu wal y ddinas. A dyma filwyr Jwda i gyd yn ceisio dianc, a mynd allan o'r ddinas ganol nos drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal wrth ymyl gardd y brenin. Dyma nhw'n dianc i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen. Ref (Roedd y Babiloniaid yn amgylchynu'r ddinas.) 8 Ond aeth byddin Babilon ar ôl y Brenin Sedeceia. Cafodd ei ddal ar wastatir Jericho, a dyma'i fyddin gyfan yn cael ei gyrru ar chwâl. 9 Dyma nhw'n mynd â'r brenin Sedeceia i sefyll ei brawf o flaen brenin Babilon yn Ribla yn ardal Chamath. 10 Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd gan frenin Babilon. Cafodd swyddogion Jwda i gyd eu lladd ganddo yn Ribla hefyd. 11 Wedyn dyma fe'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon. Yn Babilon cafodd Sedeceia ei roi yn y carchar, a dyna lle bu nes iddo farw.

Y deml yn cael ei dinistrio

(2 Brenhinoedd 25:8-17)

12 Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o'r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.) 13 Dyma fe'n rhoi teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a'r tai yn Jerwsalem i gyd ar dân. Llosgodd yr adeiladau pwysig i gyd. 14 Wedyn dyma fyddin Babilon oedd gyda'r capten yn bwrw'r waliau o gwmpas Jerwsalem i lawr. 15 A dyma Nebwsaradan yn mynd â'r bobl dlawd a phawb oedd wedi'u gadael ar ôl yn y ddinas, y milwyr oedd wedi mynd drosodd at y gelyn ac unrhyw grefftwyr oedd ar ôl, yn gaethion i Babilon. 16 Ond gadawodd rai o'r bobl mwyaf tlawd yn y wlad, a rhoi gwinllannoedd a thir iddyn nhw edrych ar ei ôl.

17 Wedyn dyma'r Babiloniaid yn malu'r offer pres oedd yn y deml – y ddwy golofn bres, y trolïau pres, a'r basn mawr pres oedd yn cael ei alw ‛Y Môr‛. A dyma nhw'n cario'r metel yn ôl i Babilon. 18 Dyma nhw hefyd yn cymryd y bwcedi lludw, y rhawiau, y sisyrnau, y dysglau, y powlenni arogldarth, a phopeth arall o bres oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr addoliad. 19 Cymerodd capten y gwarchodlu bopeth oedd wedi'i wneud o aur neu arian – y powlenni bach, y padellau, y dysglau, bwcedi lludw, y lampau ar stand, y padellau a phowlenni'r offrwm o ddiod. 20 Roedd cymaint o bres yn yr offer oedd y Brenin Solomon wedi'u gwneud ar gyfer y deml – pres y ddau biler, y ddysgl bres fawr sy'n cael ei galw ‛Y Môr‛, y deuddeg tarw pres oedd dan y Môr, a'r trolïau pres – roedd y cwbl yn ormod i'w bwyso. 21 Roedd y pileri yn wyth metr o uchder, ac roedd eu cylchedd yn bum metr a hanner; roedden nhw'n wag y tu mewn, ac wedi'u gwneud o fetel oedd tua 75 milimetr o drwch. 22 Ar dop y pileri roedd capan pres oedd tua dau fetr o uchder. O gwmpas top y capan roedd rhwyllwaith cain a phomgranadau yn ei haddurno, y cwbl wedi'i wneud o bres. Roedd y ddau biler yn union yr un fath. 23 Roedd 96 o bomgranadau ar yr ochrau, a chyfanswm o gant o gwmpas y rhwyllwaith ar y top.

Pobl Jwda'n cael eu cymryd yn gaethion i Babilon

(2 Brenhinoedd 25:18-21)

24 Cymerodd capten y gwarchodlu brenhinol rai pobl yn garcharorion hefyd. Aeth â Seraia (y prif-offeiriad), Seffaneia (yr offeiriad cynorthwyol), a tri porthor y deml. 25 Wedyn o'r ddinas cymerodd swyddog y llys oedd yn gyfrifol am y milwyr, saith o gynghorwyr y brenin oedd wedi cael eu darganfod yn cuddio yn y ddinas, un o'r swyddogion oedd yn drafftio pobl i ymladd yn y fyddin, a chwe deg o'i ddynion gafodd eu darganfod yn y ddinas. 26 Aeth Nebwsaradan, capten y gwarchodlu, â nhw at frenin Babilon i Ribla, 27 a dyma'r brenin yn eu curo nhw a'u dienyddio nhw yno. Felly roedd pobl Jwda wedi cael eu caethgludo o'u tir.

28 Dyma nifer y bobl gafodd eu caethgludo gan Nebwchadnesar: Yn ei seithfed flwyddyn fel brenin, Ref 3,023 o bobl Jwda. 29 Ym mlwyddyn un deg wyth o'i deyrnasiad, Ref 832 o bobl. 30 Yna ym mlwyddyn dau ddeg tri o'i deyrnasiad, Ref cymerodd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, 745 o Iddewon yn gaethion. Cafodd 4,600 o bobl eu caethgludo i gyd.

Y Brenin Jehoiachin yn y gaethglud

(2 Brenhinoedd 25:27-30)

31 Roedd Jehoiachin, brenin Jwda, wedi bod yn garcharor am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Efil-merodach Ref yn frenin ar Babilon. Ar y pumed ar hugain o'r deuddegfed mis Ref y flwyddyn honno dyma Efil-merodach yn rhyddhau Jehoiachin o'r carchar. 32 Buodd yn garedig ato, a'i anrhydeddu fwy nag unrhyw un o'r brenhinoedd eraill oedd gydag e yn Babilon. 33 Felly dyma Jehoiachin yn newid o'i ddillad carchar. Cafodd eistedd i fwyta'n rheolaidd wrth fwrdd brenin Babilon, 34 ac roedd yn derbyn lwfans dyddiol gan y brenin am weddill ei fywyd.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity