Yn ôl

Joel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JOEL 2

Yr ymosodiad

1 Chwythwch y corn hwrdd Ref yn Seion;

Rhybuddiwch bobl o ben y mynydd cysegredig!

Dylai pawb sy'n byw yn y wlad grynu mewn ofn,

am fod dydd barn yr ARGLWYDD ar fin dod.

Ydy, mae'n agos!

2 Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy;

diwrnod o gymylau duon bygythiol.Croes

Mae byddin enfawr yn dod dros y bryniau.

Does dim byd tebyg wedi digwydd erioed o'r blaen,

a welwn ni ddim byd tebyg byth eto.

3 Mae fflamau tân o'u cwmpas,

yn dinistrio popeth sydd yn eu ffordd.

Mae'r wlad o'u blaenau yn ffrwythlon fel Gardd Eden,

ond tu ôl iddyn nhw mae fel anialwch diffaith.

Does dim posib dianc!

4 Maen nhw'n edrych fel ceffylau,

ac yn carlamu fel meirch rhyfel.

5 Maen nhw'n swnio fel cerbydau rhyfel

yn rhuthro dros y bryniau;

fel sŵn clecian fflamau'n llosgi bonion gwellt,

neu sŵn byddin enfawr yn paratoi i ymosod.

6 Mae pobl yn gwingo mewn panig o'u blaenau;

mae wynebau pawb yn troi'n welw gan ofn.

7 Fel tyrfa o filwyr, maen nhw'n martsio

ac yn dringo i fyny'r waliau.

Maen nhw'n dod yn rhesi disgybledig

does dim un yn gadael y rhengoedd.

8 Dŷn nhw ddim yn baglu ar draws ei gilydd;

mae pob un yn martsio'n syth yn ei flaen.

Dydy saethau a gwaywffyn

ddim yn gallu eu stopio.

9 Maen nhw'n rhuthro i mewn i'r ddinas,

yn dringo dros y waliau,

ac i mewn i'r tai.

Maen nhw'n dringo i mewn

fel lladron drwy'r ffenestri.

10 Mae fel petai'r ddaear yn crynu o'u blaenau,

a'r awyr yn chwyrlïo.

Mae'r haul a'r lleuad yn tywyllu,

a'r sêr yn diflannu.

11 Mae llais yr ARGLWYDD yn taranu

wrth iddo arwain ei fyddin.

Mae eu niferoedd yn enfawr!

Maen nhw'n gwneud beth mae'n ei orchymyn.

Ydy, mae dydd yr ARGLWYDD yn ddiwrnod mawr;

mae'n ddychrynllyd! – Pa obaith sydd i unrhyw un?Croes

Duw yn gofyn i bobl newid eu ffyrdd

12 Ond dyma neges yr ARGLWYDD:

“Dydy hi ddim yn rhy hwyr.

Trowch yn ôl ata i o ddifri.

Ewch heb fwyd. Trowch ata i yn eich dagrau,

a galaru am eich ymddygiad.

13 Rhwygwch eich calonnau,Croes

yn lle dim ond rhwygo'ch dillad.”

Trowch yn ôl at yr ARGLWYDD eich Duw!

Mae e mor garedig a thrugarog;

mor amyneddgar ac yn anhygoel o hael,

a ddim yn hoffi cosbi.Croes

14 Pwy ŵyr? Falle y bydd e'n drugarog ac yn troi yn ôl.

Falle y bydd e'n dewis bendithio o hyn ymlaen!

Wedyn cewch gyflwyno offrwm o rawn

ac offrwm o ddiod i'r ARGLWYDD eich Duw!

15 Chwythwch y corn hwrdd Ref yn Seion!

Trefnwch ddiwrnod pan fydd pawb yn peidio bwyta;

yn stopio gweithio, ac yn dod at ei gilydd i addoli Duw.

16 Casglwch y bobl i gyd,

a pharatoi pawb i ddod at ei gilydd i addoli.

Dewch â'r arweinwyr at ei gilydd.

Dewch â'r plant yno, a'r babis bach.

Dylai hyd yn oed y rhai sydd newydd briodi ddodCroes –

does neb i gadw draw!

17 Dylai'r offeiriaid, y rhai sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD,

wylo o'r cyntedd i'r allor,

a gweddïo fel hyn:

“ ARGLWYDD, wnei di faddau i dy bobl?

Paid gadael i'r wlad yma droi'n destun sbort.

Paid gadael i baganiaid ein llywodraethu ni!

Pam ddylai pobl y gwledydd gael dweud,

‘Felly, ble mae eu Duw nhw?’”Croes

Bydd yr ARGLWYDD yn bendithio'r wlad

18 Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn dangos ei sêl dros y wlad. Buodd yn drugarog at ei bobl. 19 Dyma fe'n dweud wrth ei bobl:

“Edrychwch! Dw i'n mynd i'ch bendithio chi unwaith eto!

Dw i'n mynd i roi cnydau da i chi,

a digonedd o sudd grawnwin ac olew olewydd.

Bydd gynnoch chi fwy na digon!

Fyddwch chi ddim yn destun sbort

i'r gwledydd o'ch cwmpas chi.

20 Bydda i'n gyrru'r un ddaeth o'r gogledd i ffwrdd,

ac yn ei wthio i dir sych a diffaith.

Bydd yr hanner blaen yn cael eu gyrru i'r Môr Marw yn y dwyrain,

a'r hanner ôl yn cael eu gyrru i Fôr y Canoldir yn y gorllewin.

Yno y byddan nhw'n pydru,

a bydd eu drewdod yn codi.”

Ydy, mae e'n gwneud pethau mor wych!

21 Ti ddaear, paid bod ag ofn!

Gelli ddathlu a bod yn llawen,

am fod yr ARGLWYDD yn gwneud pethau mor wych!

22 Anifeiliaid gwyllt, peidiwch bod ag ofn!

Mae glaswellt yn tyfu eto ar y tir pori,

ac mae ffrwythau'n tyfu ar y coed.

Mae'r coed ffigys a'r gwinwydd yn llawn ffrwyth.

23 Dathlwch chithau, bobl Seion! Ref

Mwynhewch beth mae Duw wedi'i wneud!

Mae wedi rhoi'r glaw cynnar i chi ar yr adeg iawn –

rhoi'r glaw cynnar yn yr hydref,

a'r glaw diweddar yn y gwanwyn, fel o'r blaen. Ref

24 “Bydd y llawr dyrnu yn orlawn o ŷd,

a'r cafnau yn gorlifo o sudd grawnwin ac olew olewydd.

25 Bydda i'n rhoi popeth wnaethoch chi ei golli

yn ôl i chi – popeth wnaeth y locustiaid Ref ei fwyta;

y fyddin fawr wnes i ei hanfon yn eich erbyn chi.

26 Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta.

Byddwch chi'n moli'r ARGLWYDD eich Duw,

sydd wedi gwneud pethau mor wych ar eich rhan chi.

Fydd fy mhobl byth eto'n cael eu cywilyddio.

27 Israel, byddi'n gwybod fy mod i gyda ti,

ac mai fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw

– yr unig Dduw sy'n bod.

Fydd fy mhobl byth eto'n cael eu cywilyddio.” Ref

Yr ARGLWYDD yn tywallt ei Ysbryd

28 “Ar ôl hynny, bydda i'n tywallt fy Ysbryd

ar y bobl i gyd.

Bydd eich meibion a'ch merched

yn proffwydo;

bydd dynion hŷn yn cael breuddwydion,

a dynion ifanc yn cael gweledigaethau.

29 Bydda i hyd yn oed yn tywallt fy Ysbryd

ar y gweision a'r morynion. Ref

30 Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd

yn yr awyr ac ar y ddaear –

gwaed a thân a cholofnau o fwg.

31 Bydd yr haul yn troi'n dywyll,

a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed

cyn i'r diwrnod mawr a dychrynllyd yna ddod,

sef dydd barn yr ARGLWYDD.”

32 Bydd pwy bynnag sy'n galw ar enw'r ARGLWYDD

yn cael ei achub.

Fel mae'r ARGLWYDD wedi addo:

“ar Fynydd Seion, sef Jerwsalem, bydd rhai yn dianc.”Croes

Bydd rhai o'r bobl yn goroesi –

pobl wedi'u galw gan yr ARGLWYDD.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity