Yn ôl

Joel

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JOEL 3

Yr ARGLWYDD yn barnu'r cenhedloedd

1 Bryd hynny, bydda i'n gwneud i Jwda a Jerwsalem lwyddo eto.

2 Yna bydda i'n casglu'r cenhedloedd i gyd

i “Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD” Ref

Yno bydda i'n eu barnu nhw

am y ffordd maen nhw wedi trin

fy mhobl arbennig i, Israel.

Am eu gyrru nhw ar chwâl i bobman,Croes

rhannu y tir rois i iddyn nhw

3 a gamblo i weld pwy fyddai'n eu cael nhw'n gaethion.

Gwerthu bachgen bach am wasanaeth putain,

a merch fach am win i'w yfed.

4 Pam wnaethoch chi'r pethau yma Tyrus a Sidon Ref ac ardal Philistia? Oeddech chi'n ceisio talu'n ôl i mi? Byddwch chi'n talu yn fuan iawn am beth wnaethoch chi! 5 Dwyn fy arian a'm aur, a rhoi'r trysorau gwerthfawr oedd gen i yn eich temlau paganaidd chi. 6 Gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid, er mwyn eu symud nhw yn bell o'u gwlad eu hunain. 7 Wel, dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl. A bydda i'n gwneud i chi dalu am beth wnaethoch chi! 8 Bydda i'n rhoi'ch meibion a'ch merched chi i bobl Jwda i'w gwerthu. Byddan nhw'n eu gwerthu nhw i'r Sabeaid Ref sy'n byw yn bell i ffwrdd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud!

Dyffryn Barn yr ARGLWYDD

9 Cyhoedda wrth y cenhedloedd:

Paratowch eich hunain i fynd i ryfel.

Galwch eich milwyr gorau!

Dewch yn eich blaen i ymosod!

10 Curwch eich sychau aradr yn gleddyfau,

a'ch crymanau tocio yn waywffyn. Ref

Bydd rhaid i'r ofnus ddweud, “Dw i'n filwr dewr!”

11 Brysiwch! Dewch, chi'r gwledydd paganaidd i gyd.

Dewch at eich gilydd yno!

(“ ARGLWYDD, anfon dy filwyr di i lawr yno!”) Ref

12 Dewch yn eich blaen, chi'r cenhedloedd,

i Ddyffryn Barn yr ARGLWYDD. Ref

Yno bydda i'n eistedd i lawr

i farnu'r cenhedloedd i gyd.

13 Mae'r cynhaeaf yn barod

i'w fedi gyda'r cryman!

Mae'r winwasg yn llawn grawnwin

sy'n barod i'w sathru! Ref

Bydd y cafnau yn gorlifo!

Maen nhw wedi gwneud cymaint o ddrwg.

14 Mae tyrfaoedd enfawr yn Nyffryn y dyfarniad!

Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos yn Nyffryn y dyfarniad!

15 Mae'r haul a'r lleuad wedi tywyllu,

a'r sêr wedi diflannu.

16 Mae'r ARGLWYDD yn rhuo o Seion;

a'i lais yn taranu o Jerwsalem,Croes

nes bod yr awyr a'r ddaear yn crynu.

Ond mae'r ARGLWYDD yn lle saff i'w bobl guddio ynddo,

mae e'n gaer ddiogel i bobl Israel.Croes

17 Byddwch chi'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw

a'm bod i'n byw ar Seion, fy mynydd cysegredig.

Bydd dinas Jerwsalem yn lle cysegredig,Croes

a fydd byddinoedd estron ddim yn mynd yno byth eto.

Adfer Jwda a Jerwsalem

18 Bryd hynny bydd gwin melys yn diferu o'r mynyddoedd,Croes

a llaeth yn llifo o'r bryniau;

fydd nentydd Jwda byth yn sychu.

Bydd ffynnon yn tarddu a dŵr yn llifo

allan o deml yr ARGLWYDD,Croes

i ddyfrio Dyffryn y Coed Acasia. Ref

19 Am iddyn nhw fod mor greulon at bobl Jwda,

a lladd pobl ddiniwed yno,

bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag

ac Edom yn anialwch llwm.

20 Ond bydd pobl Jwda yn saff bob amser,

ac yn byw yn Jerwsalem o un genhedlaeth i'r llall.

21 Wna i ddial ar y rhai wnaeth dywallt eu gwaed nhw?

Gwnaf! Bydda i'n eu cosbi nhw.

Bydda i, yr ARGLWYDD, yn byw yn Seion am byth!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity