Yn ôl

Jona

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 1

Jona yn dianc oddi wrth yr ARGLWYDD

1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jona, fab Amittai,Croes 2 “Dos i ddinas fawr Ninefe, Ref ar unwaith! Dw i eisiau i ti gyhoeddi barn ar y bobl yno, achos dw i wedi gweld yr holl bethau drwg maen nhw'n wneud.”

3 Ond dyma Jona'n ffoi i'r cyfeiriad arall, i Spaen. Roedd eisiau dianc oddi wrth yr ARGLWYDD. Aeth i lawr i borthladd Jopa, a dod o hyd i long oedd ar fin hwylio i Tarshish (yn Spaen). Ar ôl talu am ei docyn aeth gyda nhw ar y cwch a hwylio i ffwrdd, er mwyn dianc oddi wrth yr ARGLWYDD.

4 Ond dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i wynt cryf chwythu ar y môr. Roedd y storm mor wyllt nes bod y llong mewn perygl o gael ei dryllio. 5 Roedd criw y llong wedi dychryn am eu bywydau. Dyma pob un yn gweiddi ar ei dduw am help. A dyma nhw'n dechrau taflu'r cargo i'r môr, er mwyn gwneud y llong yn ysgafnach. Ond roedd Jona'n cysgu'n drwm drwy'r cwbl! Roedd e wedi mynd i lawr i'r howld i orwedd i lawr, ac wedi syrthio i gysgu. 6 Dyma'r capten yn dod ar ei draws, a'i ddeffro. “Beth wyt ti'n meddwl wyt ti'n wneud yn cysgu yma!” meddai. “Côd, a galw ar dy dduw! Falle y bydd e'n ein helpu ni, a'n cadw ni rhag boddi.”

7 Dyma griw'r llong yn dod at ei gilydd, a dweud, “Gadewch i ni ofyn i'r duwiau ddangos i ni Ref pwy sydd ar fai am y storm ofnadwy yma.” Felly dyma nhw'n taflu coelbren, a darganfod mai Jona oedd e.

8 Dyma nhw'n gofyn i Jona, “Dywed, pam mae'r drychineb yma wedi digwydd? Beth ydy dy waith di? O ble wyt ti'n dod? O ba wlad? Pa genedl wyt ti'n perthyn iddi?”

9 A dyma Jona'n ateb, “Hebrëwr ydw i. Dw i'n addoli'r ARGLWYDD, Duw y nefoedd. Fe ydy'r Duw sydd wedi creu y môr a'r tir.”

10 Pan glywon nhw hyn roedd y dynion wedi dychryn fwy fyth. “Beth wyt ti wedi'i wneud o'i le?” medden nhw. (Roedden nhw'n gwybod ei fod e'n ceisio dianc oddi wrth yr ARGLWYDD, am ei fod e wedi dweud hynny wrthyn nhw'n gynharach.)

11 Roedd y storm yn mynd o ddrwg i waeth. A dyma'r morwyr yn gofyn i Jona, “Beth wnawn ni hefo ti? Oes rhywbeth allwn ni wneud i dawelu'r storm yma?”

12 Dyma fe'n ateb, “Taflwch fi i'r môr a bydd y storm yn tawelu. Arna i mae'r bai eich bod chi yn y storm ofnadwy yma.”

13 Yn lle gwneud hynny dyma'r morwyr yn ceisio rhwyfo'n galed i gyrraedd y tir. Ond methu wnaethon nhw; roedd y storm yn dal i fynd o ddrwg i waeth. 14 Felly dyma nhw'n gweddïo ar yr ARGLWYDD, “O, plîs ARGLWYDD, paid gadael i ni farw o achos y dyn yma. Paid cosbi ni am wneud hyn iddo os ydy e'n ddieuog. Ti sydd wedi achosi hyn i gyd i ddigwydd.”

15 Yna dyma nhw'n gafael yn Jona a'i daflu i'r môr, a dyma'r storm yn tawelu. 16 Roedd hyn wedi gwneud i'r morwyr ofni'r ARGLWYDD go iawn, a dyma nhw'n addo ar lw y bydden nhw'n offrymu aberthau iddo.

17 Dyma'r ARGLWYDD yn anfon pysgodyn mawr i lyncu Jona. Roedd Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair nos.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity