Yn ôl

Jona

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 2

Jona yn gweddïo ar Dduw

1 Dyma Jona yn gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw o fol y pysgodyn.

2 Roeddwn i mewn trafferthion,

a dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD,

a dyma fe'n fy ateb i.

Dyma fi'n gweiddi am dy help di,

o ganol byd y meirw,

a dyma ti'n gwrando arna i!

3 Teflaist fi i'r dyfnder;

i waelod y môr.

Roedd y cerrynt o'm cwmpas,

a'r tonnau mawr yn torri uwch fy mhen.

4 Roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi cael

fy ysgubo i ffwrdd gen ti am byth,

ac y byddwn i byth yn cael gweld

dy deml sanctaidd di eto!

5 Roeddwn i bron boddi —

roedd y môr dwfn o'm cwmpas,

a gwymon wedi lapio am fy mhen.

6 Roeddwn i wedi suddo

at waelod isa'r mynyddoedd.

Roedd giatiau byd y meirw

wedi cloi tu ôl i mi am byth.

Ond dyma ti, ARGLWYDD Dduw,

yn fy achub i o'r Pwll dwfn.

7 Pan oedd fy mywyd yn llithro i ffwrdd,

dyma fi'n galw arnat ti, ARGLWYDD;

a dyma ti'n gwrando ar fy ngweddi

o dy deml sanctaidd.

8 Mae'r rhai sy'n addoli eilunod diwerth

yn troi cefn ar dy drugaredd di.

9 Ond dw i'n mynd i offrymu aberth i ti,

a chanu mawl i ti'n gyhoeddus.

Bydda i'n gwneud beth dw i wedi ei addo!

Yr ARGLWYDD ydy'r un sy'n achub!

10 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth y pysgodyn am chwydu Jona ar dir sych.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity