Yn ôl

Jona

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

Pennod 4

Jona'n wyllt am fod Duw wedi maddau

1 Doedd Jona ddim yn hapus. Roedd e wedi gwylltio'n lân. 2 Dyma fe'n gweddïo:

O ARGLWYDD, plîs na! Ron i'n gwybod mai dyma fyddai'n digwydd! Dyna feddyliais i pan oeddwn i adre yn fy ngwlad fy hun, a dyna pam wnes i geisio dianc i Tarshish! Rwyt ti'n Dduw mor garedig a thrugarog; mor amyneddgar, anhygoel o hael, a ddim yn hoffi cosbi!

3 Lladd fi! Mae'n well gen i farw na byw i weld hyn!

4 Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Ydy'n iawn i ti wylltio fel yma?”

5 Dyma Jona'n mynd allan o'r ddinas i gyfeiriad y dwyrain, ac eistedd i lawr. Gwnaeth loches iddo'i hun, ac eistedd yn ei gysgod, yn disgwyl i weld beth fyddai'n digwydd i Ninefe.

6 A dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i blanhigyn bach dyfu uwch ben Jona. Roedd i gysgodi drosto, i'w gadw rhag bod yn rhy anghyfforddus. Roedd Jona wrth ei fodd gyda'r planhigyn.

7 Ond yn gynnar iawn y bore wedyn dyma Duw yn anfon pryfyn i ymosod ar y planhigyn, a dyma fe'n gwywo. 8 Yna yn ystod y dydd dyma Duw yn anfon gwynt poeth o'r dwyrain. Roedd yr haul mor danbaid nes bod Jona bron llewygu. Roedd e eisiau marw, a dyma fe'n gweiddi, “Byddai'n well gen i farw na byw!”

9 Ond dyma'r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Ydy'n iawn i ti fod wedi gwylltio fel yma o achos planhigyn bach?” Ac meddai Jona, “Ydy, mae yn iawn. Dw i yn wyllt!”

10 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho:

“Rwyt ti wedi cynhyrfu am blanhigyn bach wnest ti ddim gofalu amdano na gwneud iddo dyfu. Roedd e wedi tyfu dros nos a gwywo'r diwrnod wedyn! 11 Ydy hi ddim yn iawn i mi fod â chonsýrn am y ddinas fawr yma, Ninefe? Mae yna dros gant dau ddeg o filoedd o bobl ddiniwed Ref yn byw yno — a lot fawr o anifeiliaid hefyd!”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity