Yn ôl

Josua

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JOSUA 12

Crynodeb o hanes concro'r wlad

1 Dyma'r brenhinoedd wnaeth pobl Israel eu trechu i'r dwyrain o afon Iorddonen, a'r tiroedd wnaethon nhw eu meddiannu – o Ddyffryn Arnon i Fynydd Hermon, sef yr holl dir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen: Ref
  • 2 Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Cheshbon ac yn teyrnasu o Aroer, ger Dyffryn Arnon. Roedd yn teyrnasu o ganol Dyffryn Arnon i Ddyffryn Jabboc, sef y ffin gyda thiriogaeth pobl Ammon – yn cynnwys hanner Gilead.
3 Roedd ei diriogaeth yn cynnwys y tir sydd i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, yr holl ffordd o Lyn Galilea Ref i'r Môr Marw. Ref Yna o Beth-ieshimoth yn y dwyrain i lawr i'r de, cyn belled â llethrau Mynydd Pisga.
  • 4 Og, brenin Bashan – un o'r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl. Roedd Og yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei,
5 a'i diriogaeth yn ymestyn o Fynydd Hermon i Salca yn y gogledd; Bashan yn y dwyrain i'r ffin gyda theyrnasoedd Geshwr a Maacha yn y gorllewin; a hanner arall Gilead at y ffin gyda theyrnas Sihon, oedd yn frenin yn Cheshbon. 6 Roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, a phobl Israel wedi'u trechu nhw a rhannu eu tiroedd nhw rhwng llwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse.Croes

7 A dyma'r brenhinoedd wnaeth Josua a phobl Israel eu trechu i'r gorllewin o afon Iorddonen – o Baal-gad yn Nyffryn Libanus yn y gogledd i lawr i Fynydd Halac i gyfeiriad Edom yn y de. (Rhannodd Josua y tiroedd yma i gyd rhwng llwythau Israel. 8 Roedd yn cynnwys y bryniau a'r iseldir, y tir anial, y llethrau, anialwch Jwda a'r Negef, sef tiroedd yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid): 9 Brenin Jericho; brenin Ai, ger Bethel; 10 brenin Jerwsalem; brenin Hebron; 11 brenin Iarmwth; brenin Lachish; 12 brenin Eglon; brenin Geser; 13 brenin Debir; brenin Geder; 14 brenin Horma; brenin Arad; 15 brenin Libna; brenin Adwlam; 16 brenin Macceda; brenin Bethel; 17 brenin Tapŵach; brenin Cheffer; 18 brenin Affec; brenin Lasaron; 19 brenin Madon; brenin Chatsor; 20 brenin Shimron-meron; brenin Achsaff; 21 brenin Taanach; brenin Megido; 22 brenin Cedesh; brenin Iocneam, ger Mynydd Carmel; 23 brenin Dor, ar yr arfordir; brenin Goïm, ger Gilgal; 24 a brenin Tirsa. (Tri deg un o frenhinoedd i gyd.)

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity