Yn ôl

Josua

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JOSUA 13

Y tiroedd oedd heb eu concro

1 Pan oedd Josua wedi mynd yn hen iawn, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Ti'n mynd yn hen, ac mae yna lot fawr o dir sydd eto heb ei goncro. 2 Dyma'r tir sydd ar ôl:
  • Tir y Philistiaid a'r Geshwriaid,
3 o afon Sihor ar y ffin gyda'r Aifft i fyny yr holl ffordd i dir Ecron yn y gogledd (y cwbl yn dir sy'n perthyn i'r Canaaneaid). Mae'n cynnwys tiriogaeth arweinwyr y Philistiaid yn Gasa, Ashdod, Ashcelon, Gath ac Ecron – y pump ohonyn nhw. Tir yr Afiaid hefyd, 4 sydd i lawr yn y de.
  • Yna i'r gogledd, tir y Canaaneaid o dref Ara yn Sidon i Affec, sydd ar y ffin gyda'r Amoriaid.
5 Tir y Gebaliaid a Libanus i gyd. Ac yna yn y dwyrain, o Baal-gad wrth droed Mynydd Hermon i Fwlch Chamath. 6 A dw i am yrru allan o flaen pobl Israel bawb sy'n byw yn mynydd-dir Libanus, yr holl ffordd i Misreffoth-maim, sef tir y Sidoniaid.

“Mae'r tir yma i gyd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel, fel dw i wedi gorchymyn i ti. Bydd gan bob llwyth ei diriogaeth ei hun. 7 Mae i'w rannu rhwng y naw llwyth a hanner sydd ddim eto wedi cael tir.”

Rhannu'r tiroedd i'r dwyrain o afon Iorddonen

8 Roedd hanner llwyth Manasse, a llwythau Reuben a Gad wedi derbyn tir i'r dwyrain o afon Iorddonen.Croes Moses, gwas yr ARGLWYDD, oedd wedi rhoi y tir hwnnw iddyn nhw. 9 Roedd eu tiriogaeth yn cynnwys Aroer, ger Dyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba yr holl ffordd i Dibon. 10 Hefyd y trefi oedd yn arfer perthyn i Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, at y ffin gydag Ammon. 11 Roedd yn cynnwys Gilead, tiroedd Geshwr a Maacha, Mynydd Hermon a thir Bashan i Salca. 12 Hefyd tiriogaeth Og, brenin Bashan, oedd yn teyrnasu o Ashtaroth ac Edrei. (Roedd Og yn un o'r ychydig Reffaiaid oedd ar ôl bryd hynny.) Roedd Moses wedi'u concro nhw, a chymryd eu tiroedd. 13 Ond wnaeth Israel ddim gyrru allan bobl Geshwr a Maacha – maen nhw'n dal i fyw gyda phobl Israel hyd heddiw.

14 Wnaeth Moses ddim rhoi tir i lwyth Lefi chwaith, am fod yr ARGLWYDD wedi addo rhoi iddyn nhw yr offrymau oedd yn cael eu cyflwyno i'w llosgi i'r ARGLWYDD, Duw Israel.Croes

Y tir gafodd llwyth Reuben

  • 15 Dyma'r tir roedd Moses wedi'i roi i deuluoedd llwyth Reuben:
16 Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Aroer, yn Nyffryn Arnon (gan gynnwys y dref ei hun yn y dyffryn), a gwastadedd Medeba, 17 Cheshbon, a'r trefi o'i chwmpas – gan gynnwys Dibon, Bamoth-baal, Beth-baal-meon, 18 Iahats, Cedemoth, Meffaäth, 19 Ciriathaim, Sibma, Sereth-shachar ar y bryn yn y dyffryn, 20 Beth-peor, llethrau Mynydd Pisga, a Beth-ieshimoth. 21 Roedd yn cynnwys trefi'r gwastadedd i gyd, a holl diriogaeth Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu o Cheshbon. Roedd Moses wedi'i goncro fe, ac arweinwyr y Midianiaid oedd dan ei reolaeth ac yn byw yn ei diriogaeth – Efi, Recem, Swr, Hur, a Reba. 22 Roedd pobl Israel hefyd wedi lladd y dewin, Balaam fab Beor, ac eraill. 23 Ffin orllewinol tiriogaeth Reuben oedd afon Iorddonen. Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Reuben yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

Y tir gafodd llwyth Gad

  • 24 Dyma'r tir roedd Moses wedi'i roi i deuluoedd llwyth Gad:
25 Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Iaser, trefi Gilead i gyd, a hanner tiriogaeth pobl Ammon, yr holl ffordd i Aroer, ger Rabba. 26 Roedd yn ymestyn o Cheshbon yn y de i Ramath-mitspe a Betonîm yn y gogledd, ac o Machanaîm i ardal Debir. 27 Roedd yn cynnwys y tir i'r dwyrain o Ddyffryn Iorddonen, gan gynnwys trefi Beth-haram, Beth-nimra, Swccoth, a Saffon, a gweddill tiriogaeth Sihon, oedd yn teyrnasu o Cheshbon – sef y tir i'r dwyrain o afon Iorddonen yr holl ffordd at Lyn Galilea. Ref 28 Roedd y tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Gad yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

Y tir gafodd hanner llwyth Manasse

  • 29 Dyma'r tir roedd Moses wedi'i roi i deuluoedd hanner llwyth Manasse:
30 Roedd eu tiriogaeth nhw yn ymestyn tua'r gogledd o Machanaîm, ac yn cynnwys teyrnas Og, brenin Bashan, i gyd. Roedd yn cynnwys y chwe deg o drefi yn Hafoth-jair yn Bashan, 31 hanner Gilead, a trefi Ashtaroth ac Edrei (sef y trefi lle roedd Og, brenin Bashan, wedi bod yn teyrnasu). Cafodd y tir yma i gyd ei roi i ddisgynyddion Machir fab Manasse, sef teuluoedd hanner llwyth Manasse.

32 Dyna sut wnaeth Moses rannu'r tir pan oedd ar wastatir Moab i'r dwyrain o afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.

33 Wnaeth Moses ddim rhoi tir i lwyth Lefi, am fod yr ARGLWYDD wedi addo rhoi iddyn nhw yr offrymau oedd yn cael eu cyflwyno i'r ARGLWYDD, Duw Israel.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity