Yn ôl

Josua

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JOSUA 15

Y tir gafodd llwyth Jwda

  • 1 Roedd y tir gafodd ei roi i lwyth Jwda yn dilyn y ffin gydag Edom i Anialwch Sin yn y Negef, i lawr yn y de.
2 Roedd y ffin yn y de yn dechrau o ben isaf y Môr Marw, Ref 3 yn mynd heibio i'r de o Fwlch y Sgorpion, ar draws i Sin ac yna i'r ochr isaf i Cadesh-barnea. Yna roedd yn croesi i Hesron ac yn mynd i fyny i Adar, cyn troi i gyfeiriad Carca. 4 Wedyn roedd yn croesi i Atsmon ac yn dilyn Wadi'r Aifft yr holl ffordd i Fôr y Canoldir. Dyna oedd y ffin yn y de.
  • 5 Y Môr Marw at aber afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain.
  • Wedyn roedd y ffin ogleddol yn ymestyn o aber yr Iorddonen ar ben uchaf y Môr Marw,
6 i fyny i Beth-hogla, yna ar draws o du uchaf Beth-araba at Garreg Bohan (mab Reuben). 7 Ymlaen wedyn o Ddyffryn Achor i Debir, cyn troi i'r gogledd i gyfeiriad Gilgal (sydd gyferbyn â Bwlch Adwmîm, i'r de o'r ceunant). Yna heibio ffynnon En-shemesh cyn belled ag En-rogel. Ref 8 Wedyn roedd y ffin yn dilyn Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o dre'r Jebwsiaid (sef Jerwsalem). Yna i'r gorllewin, ac i gopa'r mynydd sydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom ac i'r gogledd o Ddyffryn Reffaïm. 9 O dop y mynydd roedd yn mynd at ffynnon dyfroedd Nefftoach, at drefi Mynydd Effron, ac yna'n troi i gyfeiriad Baäla (sef Ciriath-iearîm). 10 Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin o Baäla i gyfeiriad Mynydd Seir, ac yn croesi i dref Cesalon ar lethr gogleddol Mynydd Iearim, cyn mynd i lawr i Beth-shemesh a chroesi i Timna. 11 Yna i gyfeiriad y gogledd at lethrau Ecron, ymlaen i Shicron, croesi i Fynydd Baäla, ac i Iabneël a Môr y Canoldir.
  • 12 Môr y Canoldir ei hun oedd y ffin orllewinol.

Dyna oedd ffiniau teuluoedd llwyth Jwda.

Caleb yn concro Hebron a Debir

(Barnwyr 1:11-15)

13 Cafodd tref Ciriath-arba (sef Hebron) ei rhoi i Caleb fab Jeffwnne, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Josua. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.) 14 Dyma Caleb yn gyrru allan dri cawr oedd yn ddisgynyddion i Anac, sef Sheshai, Achiman a Talmai. 15 Yna dyma fe'n ymosod ar y bobl oedd yn byw yn Debir. (Ciriath-seffer oedd yr hen enw ar Debir.) 16 Roedd Caleb wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n ymosod ar dref Ciriath-seffer ac yn ei choncro yn cael priodi fy merch Achsa.” 17 Othniel, mab Cenas (brawd Caleb) wnaeth goncro'r dref, a dyma Caleb yn rhoi ei ferch, Achsa, yn wraig iddo. 18 Pan briododd hi Othniel, dyma hi'n ei berswadio i adael iddi ofyn i'w thad am fwy o dir. Wrth iddi ddod i lawr oddi ar gefn ei hasyn, dyma'i thad Caleb yn gofyn iddi, “Beth sy'n bod?” 19 A dyma hi'n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi'r ffynhonnau uchaf a'r ffynhonnau isaf iddi.

Trefi Jwda

20 Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Jwda:
  • 21 Y trefi i lawr yn y de ar y ffin gydag Edom: Cabseël, Eder, Iagwr,
22 Cina, Dimona, Adada, 23 Cedesh, Chatsor, Ithnan, 24 Siff, Telem, Bealoth, 25 Chatsor-chadatta, Cerioth-chetsron (sef Chatsor), 26 Amam, Shema, Molada, 27 Chatsar-gada, Cheshmon, Beth-pelet, 28 Chatsar-shwal, Beersheba, Bisiotiâ, 29 Baäla, Iîm, Etsem, 30 Eltolad, Cesil, Horma, 31 Siclag, Madmanna, Sansanna, 32 Lebaoth, Shilchim, Ain a Rimmon. – dau ddeg naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
  • 33 Yna'r trefi ar yr iseldir: Eshtaol, Sora, Ashna,
34 Sanoach, En-gannîm, Tapŵach, Enam, 35 Iarmwth, Adwlam, Socho, Aseca, 36 Shaaraim, Adithaîm, a Gedera (neu Gederothaîm) – un deg pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
  • 37 Hefyd trefi Senan, Chadasha, Migdal-gad,
38 Dilean, Mitspe, Iocteël, 39 Lachish, Botscath, Eglon, 40 Cabbon, Lachmas, Citlish, 41 Gederoth, Beth-dagon, Naamâ, a Macceda – un deg chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
  • 42 Trefi Libna, Ether, Ashan,
43 Ifftach, Ashna, Netsib, 44 Ceila, Achsib, a Maresha – naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
  • 45 Yna Ecron a'r trefi a'r pentrefi o'i chwmpas hi,
46 ac i gyfeiriad y gorllewin, y trefi oedd yn ymyl Ashdod, a'r pentrefi o'u cwmpas. 47 Ashdod ei hun, a Gasa a'r trefi a'r pentrefi o'u cwmpas – yr holl ffordd at Wadi'r Aifft ac arfordir Môr y Canoldir.
  • 48 Wedyn y trefi yn y bryniau: Shamîr, Iattir, Socho,
49 Danna, Ciriath-sanna (sef Debir), 50 Anab, Eshtemoa, Anim, 51 Gosen, Cholon, a Gilo – un deg un o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
  • 52 Hefyd Arab, Dwma, Eshan,
53 Ianŵm, Beth-tapŵach, Affeca, 54 Chwmta, Ciriath-arba (sef Hebron), a Sior – naw o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
  • 55 Yna Maon, Carmel, Siff, Iwtta,
56 Jesreel, Iocdeam, Sanoach, 57 Cain, Gibea, a Timna – deg o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
  • 58 Chalchwl, Beth-tswr, Gedor,
59 Maarath, Beth-anoth, ac Eltecon – chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
  • 60 Ciriath-baal (sef Ciriath-iearîm) a Rabba – dwy dref, a'r pentrefi o'u cwmpas.
  • 61 Yna'r trefi yn yr anialwch – Beth-araba, Midin, Sechacha,
62 Nibshan, Tre'r Halen, ac En-gedi – chwech o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.

63 Ond wnaeth dynion Jwda ddim llwyddo i goncro'r Jebwsiaid oedd yn byw yn Jerwsalem. Felly mae'r Jebwsiaid yn dal i fyw gyda phobl Jwda hyd heddiw.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity