Yn ôl

Josua

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JOSUA 18

Josua yn rhannu gweddill y tir

1 Dyma bobl Israel i gyd yn dod at ei gilydd yn Seilo, ac yn codi pabell presenoldeb Duw. Er eu bod nhw'n rheoli'r wlad, 2 roedd saith o'r llwythau yn dal heb gael eu tir.

3 A dyma Josua yn dweud wrth bobl Israel, “Am faint mwy dych chi'n mynd i dindroi cyn cymryd y tir mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi'i roi i chi? 4 Dewiswch dri dyn o bob llwyth. Dw i am eu hanfon nhw i grwydro'r wlad, ei mapio a gwneud arolwg llawn ohoni. 5 Byddan nhw'n ei rhannu yn saith ardal. Ond fydd hyn ddim yn cynnwys tir Jwda i lawr yn y de, na thir Joseff yn y gogledd. 6 Mapiwch y tir a'i rannu'n saith ardal wahanol, a dewch ag e i mi. Wedyn bydda i'n bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD eich Duw, i ddewis pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth. 7 Ond fydd llwyth Lefi ddim yn cael rhan o'r tir. Eu braint nhw ydy cael bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD. Ac mae llwythau Gad, Reuben a hanner llwyth Manasse eisoes wedi derbyn tir yr ochr arall i afon Iorddonen, gan Moses, gwas yr ARGLWYDD.”

8 Cyn i'r dynion gychwyn ar eu taith, dyma Josua yn gorchymyn iddyn nhw: “Ewch i grwydro drwy'r wlad a'i mapio, a pharatoi arolwg llawn ohoni i mi. Yna dewch yn ôl ata i. Bydda i wedyn yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yma yn Seilo, i weld pa ardal fydd yn cael ei rhoi i bob llwyth.”

9 Felly dyma'r dynion yn mynd drwy'r wlad i gyd, a'i mapio, a rhestru'r trefi i gyd ar sgrôl, a rhannu'r tir yn saith ardal. Yna dyma nhw'n dod yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Seilo.

10 A dyma Josua yn bwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD yn Seilo, i rannu'r tir rhwng pobl Israel, a gweld pa ardal fyddai pob llwyth yn ei gael.

Y tir gafodd llwyth Benjamin

11 Teuluoedd llwyth Benjamin gafodd y rhan gyntaf. Eu tir nhw fyddai'r ardal rhwng tir Jwda a thir meibion Joseff. 12 Roedd y ffin yn y gogledd yn mynd o afon Iorddonen ar hyd y llethr i'r gogledd o Jericho, wedyn i fyny i'r bryniau i gyfeiriad y gorllewin ac ymlaen at anialwch Beth-afen. 13 Roedd yn croesi wedyn i Lws, ar hyd y llethr sydd i'r de o Lws (sef Bethel). Yna i lawr i Atroth-adar sydd ar y bryn i'r de o Beth-choron Isaf. 14 Wedyn roedd yn troi o'r fan honno i'r de, ar hyd ochr orllewinol y bryn ac i lawr i Ciriath-baal (sef Ciriath-iearîm), un o'r trefi oedd ar dir llwyth Jwda. Dyna'r ffin i'r gorllewin. 15 Yna roedd ffin y de yn dechrau wrth Ciriath-iearîm, ac yn rhedeg i gyfeiriad Ffynnon Nefftoach. 16 Wedyn roedd y ffin yn mynd i lawr at droed y mynydd gyferbyn â Dyffryn Ben-hinnom, sydd wrth ben gogleddol Dyffryn Reffaïm. Yna i lawr Dyffryn Hinnom at y llethr sydd i'r de o Jerwsalem, Ref ac ymlaen i En-rogel. 17 O En-rogel roedd yn troi i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i En-shemesh, ac yna i Geliloth, sydd gyferbyn â Bwlch Adwmîm, ac yna i lawr at Garreg Bohan (mab Reuben). 18 Yna croesi i gyfeiriad y gogledd ar hyd y llethr sydd o flaen Dyffryn Iorddonen, cyn mynd i lawr i'r dyffryn ei hun. 19 Croesi wedyn at lethr Beth-hogla ac ymlaen i ben uchaf y Môr Marw, Ref wrth aber afon Iorddonen. Dyna ffin y de. 20 Wedyn afon Iorddonen oedd y ffin i'r dwyrain.

Dyna ffiniau'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin.

21 A dyma'r trefi oedd yn perthyn i lwyth Benjamin:
  • Jericho, Beth-hogla, Emec-cetsits,
22 Beth-araba, Semaraïm, Bethel, 23 Afim, Para, Offra, 24 Ceffar-ammona, Offni, a Geba – un deg dwy o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
  • 25 Gibeon, Rama, Beëroth,
26 Mitspe, Ceffira, Motsa, 27 Recem, Irpeël, Tarala, 28 Sela, Eleff, tref y Jebwsiaid (sef Jerwsalem), Gibea, a Ciriath – un deg pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Benjamin.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity