Yn ôl

Josua

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JOSUA 19

Y tir gafodd llwyth Simeon

1 Teuluoedd llwyth Simeon gafodd yr ail ran. Roedd eu tir nhw o fewn tiriogaeth Jwda.
  • 2 Roedd eu tir nhw yn cynnwys Beersheba, Ref Molada,
3 Chatsar-shwal, Bala, Etsem, 4 Eltolad, Bethwl, Horma, 5 Siclag, Beth-marcaboth, Chatsar-swsa, 6 Beth-lebaoth, a Sharwchen – un deg tair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
  • 7 Ain, Rimmon, Ether, ac Ashan – pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
8 Hefyd y pentrefi oedd o'u cwmpas nhw yr holl ffordd i Baalath-beër (sef Rama yn y Negef). Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Simeon. 9 Cafodd tir Simeon ei gymryd allan o gyfran Jwda, am fod gan Jwda ormod o dir. Felly roedd tir llwyth Simeon o fewn ffiniau Jwda.

Y tir gafodd llwyth Sabulon

10 Teuluoedd llwyth Sabulon gafodd y drydedd ran.
  • Roedd ffin eu tiriogaeth nhw yn ymestyn yr holl ffordd i Sarid yn y de-ddwyrain.
11 Roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Marala, heibio Dabbesheth ac at y ceunant wrth Iocneam. 12 O Sarid roedd yn troi i gyfeiriad y dwyrain at y ffin gyda Cisloth-tabor, yna ymlaen i Daberath, ac i fyny i Jaffîa. 13 Wedyn roedd yn croesi drosodd i Gath-heffer ac Eth-catsin ac ymlaen i Rimmon, cyn troi i gyfeiriad Nea. 14 Wedyn roedd yn mynd rownd i'r gogledd i Channathon ac yn gorffen yn Nyffryn Ifftachél.
  • 15 Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Catta, Nahalal, Shimron, Idalâ, a Bethlehem. Roedd ganddyn nhw un deg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas.
16 Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Sabulon, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

Y tir gafodd llwyth Issachar

17 Teuluoedd llwyth Issachar gafodd y bedwaredd ran.
  • 18 Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Jesreel, Ceswloth, Shwnem,
19 Chaffaraïm, Shion, Anacharath, 20 Rabbith, Cishon, Ebes, 21 Remeth, En-gannîm, En-hada, a Beth-patsets. 22 Roedd eu ffin yn cyffwrdd Mynydd Tabor, Shachatsima a Beth-shemesh, ac yn gorffen wrth afon Iorddonen. Un deg chwech o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas. 23 Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Issachar, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

Y tir gafodd llwyth Asher

24 Teuluoedd llwyth Asher gafodd y bumed ran.
  • 25 Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Chelcath, Chali, Beten, Achsaff,
26 Alammelech, Amad, a Mishal.
  • Roedd eu ffin nhw yn mynd o Carmel yn y gorllewin i Shichor-libnath.
27 Wedyn roedd yn troi i'r dwyrain i gyfeiriad Beth-dagon, at ffin llwyth Sabulon a Dyffryn Ifftachél i'r gogledd, yna i Beth-emec a Neiel, ac yna ymlaen i Cabwl yn y gogledd. 28 Yna i Ebron, Rechob, Chammôn, a Cana, yr holl ffordd i Sidon Fawr. 29-30 Wedyn roedd yn troi i gyfeiriad Rama a tref gaerog Tyrus, cyn troi i Chosa a mynd at y môr. Roedd ganddyn nhw ddau ddeg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas, gan gynnwys Machalab, Ref Achsib, Acco, Ref Affec, a Rechob. 31 Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Asher, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

Y tir gafodd llwyth Nafftali

32 Teuluoedd llwyth Nafftali gafodd y chweched ran.
  • 33 Roedd y ffin yn dechrau wrth Cheleff a'r dderwen yn Tsa-ananîm, yna'n mynd i Adami-necef, Iabneël, ymlaen i Lacwm, cyn gorffen wrth afon Iorddonen.
34 Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin at Asnoth-tabor ac ymlaen i Chwcoc. Roedd yn ffinio gyda llwyth Sabulon i'r de, llwyth Asher i'r gorllewin, a Jwda wrth afon Iorddonen yn y dwyrain.
  • 35 Roedd y trefi caerog amddiffynnol yn cynnwys Sidim, Ser, Chamath, Raccath, Cinnereth,
36 Adama, Rama, Chatsor, 37 Cedesh, Edrei, En-chatsor, 38 Iron, Migdal-el, Chorem, Beth-anath, a Beth-shemesh. Roedd ganddyn nhw un deg naw o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas. 39 Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Nafftali, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

Y tir gafodd llwyth Dan

40 Teuluoedd llwyth Dan gafodd y seithfed ran.
  • 41 Roedd eu tir nhw'n cynnwys Sora, Eshtaol, Ir-shemesh,
42 Shaalabin, Aialon, Ithla, 43 Elon, Timna, Ecron, 44 Eltece, Gibbethon, Baalath, 45 Iehwd, Bene-berac, Gath-rimmon, 46 Me-iarcon, a Raccon, gan gynnwys y tir o flaen Jopa.

47 (Ond collodd llwyth Dan y tir gafodd ei roi iddyn nhw, felly aethon nhw i'r gogledd ac ymosod ar Laish. Ref Dyma nhw'n cymryd y dref drosodd ac yn lladd pawb oedd yn byw yno, a newid enw'r dref i Dan, ar ôl eu hynafiad.) 48 Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Dan, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

Y tir gafodd Josua

49 Ar ôl rhannu'r tir i gyd rhwng y llwythau, dyma bobl Israel yn rhoi darn o dir i Josua fab Nwn. 50 Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddai e'n cael pa dref bynnag oedd e eisiau. Dewisodd Timnath-serach ym mryniau Effraim. Ailadeiladodd y dref, a byw yno.

51 Dyna sut cafodd y tir ei rannu gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel. Cafodd y tir ei rannu drwy fwrw coelbren o flaen yr ARGLWYDD wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw yn Seilo. A dyna sut gwnaethon nhw orffen rhannu'r tir.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity