Yn ôl

Josua

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

JOSUA 3

Pobl Israel yn croesi afon Iorddonen

1 Yn gynnar y bore wedyn, dyma Josua a phobl Israel i gyd yn gadael Sittim a mynd at yr Iorddonen. Dyma nhw'n aros yno cyn croesi'r afon. 2 Ddeuddydd wedyn, dyma'r arweinwyr yn mynd drwy'r gwersyll 3 i roi gorchymyn i'r bobl, “Pan fyddwch chi'n gweld Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD eich Duw yn cael ei chario gan yr offeiriaid o lwyth Lefi, rhaid i chi symud o'r fan yma, a dilyn yr Arch. 4 Ond peidiwch mynd yn rhy agos ati. Cadwch bellter o ryw hanner milltir Ref rhyngoch chi a'r Arch. Wedyn byddwch yn gweld pa ffordd i fynd. Dych chi ddim wedi bod y ffordd yma o'r blaen.”

5 A dyma Josua'n dweud wrth y bobl, “Gwnewch eich hunain yn barod! Ref Ewch drwy'r ddefod o buro eich hunain i'r ARGLWYDD. Mae e'n mynd i wneud rhywbeth hollol ryfeddol i chi yfory.”

6 Yna dyma Josua'n dweud wrth yr offeiriaid, “Codwch Arch yr Ymrwymiad ac ewch o flaen y bobl.” A dyma nhw'n gwneud hynny.

7 Dwedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “O heddiw ymlaen dw i'n mynd i dy wneud di'n arweinydd mawr yng ngolwg pobl Israel. Byddan nhw'n gwybod mod i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. 8 Dw i eisiau i ti ddweud wrth yr offeiriaid sy'n cario Arch yr Ymrwymiad, ‘Pan ddewch chi at lan afon Iorddonen, cerddwch i mewn i'r dŵr a sefyll yno.’”

9 Felly dyma Josua'n galw ar bobl Israel, “Dewch yma i glywed beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud! 10 Dyma sut byddwch chi'n gweld fod y Duw byw gyda chi, a'i fod yn mynd i yrru allan y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebwsiaid. 11 Edrychwch! Mae Arch Ymrwymiad Meistr y ddaear gyfan yn barod i'ch arwain chi ar draws afon Iorddonen! 12 Dewiswch un deg dau o ddynion o lwythau Israel – un o bob llwyth. 13 Pan fydd traed yr offeiriaid sy'n cario Arch yr ARGLWYDD, Meistr y ddaear gyfan, yn cyffwrdd dŵr yr afon, bydd y dŵr yn stopio llifo ac yn codi'n bentwr.”

14 Felly pan adawodd y bobl eu pebyll i groesi'r Iorddonen, dyma'r offeiriaid oedd yn cario Arch yr Ymrwymiad yn mynd o'u blaenau. 15-16 Roedd hi'n adeg y cynhaeaf, a'r afon wedi gorlifo. Dyma nhw'n dod at yr afon, a phan gyffyrddodd eu traed y dŵr, dyma'r dŵr yn stopio llifo. Roedd y dŵr wedi codi'n bentwr gryn bellter i ffwrdd, wrth Adam (tref wrth ymyl Sarethan). Doedd dim dŵr o gwbl yn llifo i'r Môr Marw. Ref Felly dyma'r bobl yn croesi'r afon gyferbyn â Jericho. 17 Safodd yr offeiriaid oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar wely afon Iorddonen, nes oedd pobl Israel i gyd wedi croesi i'r ochr arall ar dir sych.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity