Yn ôl

Galarnad

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GALARNAD 1

Cerdd 1 – Dioddefaint Jerwsalem

Y proffwyd:

1 O! Mae'r ddinas oedd yn fwrlwm o bobl

yn eistedd mor unig!

Mae'r ddinas oedd yn enwog drwy'r byd

bellach yn wraig weddw.

Roedd hi fel tywysoges y taleithiau,

ond bellach mae'n gaethferch.

2 Mae hi'n beichio crio drwy'r nos,

a'r dagrau'n llifo i lawr ei hwyneb.

Does dim un o'i chariadon

yno i'w chysuro.

Mae ei ffrindiau i gyd wedi'i bradychu

ac wedi troi'n elynion iddi.

3 Mae pobl Jwda wedi'u cymryd i ffwrdd yn gaethion;

ar ôl diodde'n hir maen nhw'n gaethweision.

Maen nhw'n byw mewn gwledydd eraill

ac yn methu'n lân a setlo yno.

Mae'r gelynion oedd yn eu herlid wedi'u dal;

doedd ganddyn nhw ddim gobaith dianc.

4 Mae'r ffyrdd gwag i Jerwsalem yn galaru;

Does neb yn teithio i'r gwyliau i ddathlu.

Does dim pobl yn mynd drwy giatiau'r ddinas.

Dydy'r offeiriaid yn gwneud dim ond griddfan,

ac mae'r merched ifanc, oedd yno'n canu a dawnsio, yn drist.

Mae Jerwsalem mewn cyflwr truenus!

5 Ei gelynion sy'n ei rheoli,

ac mae bywyd mor braf iddyn nhw

am fod yr ARGLWYDD wedi'i chosbi hi

am wrthryfela yn ei erbyn mor aml.

Mae ei phlant wedi'u cymryd i ffwrdd

yn gaethion gan y gelyn.Croes

6 Mae popeth oedd hi'n ymfalchïo ynddo

wedi'i gymryd oddi ar Jerwsalem. Ref

Roedd ei harweinwyr fel ceirw

yn methu dod o hyd i borfa,

ac yn rhy wan i ddianc oddi wrth yr heliwr.

7 Mae Jerwsalem, sy'n dlawd a digartref,

yn cofio ei holl drysorau –

sef y pethau gwerthfawr oedd piau hi o'r blaen.

Pan gafodd ei choncro gan ei gelynion

doedd neb yn barod i'w helpu.

Roedd ei gelynion wrth eu boddau,

ac yn chwerthin yn ddirmygus wrth iddi gael ei dinistrio.

8 Roedd Jerwsalem wedi pechu'n ofnadwy,

felly cafodd ei thaflu i ffwrdd fel peth aflan.

Mae pawb oedd yn ei hedmygu bellach yn gwneud sbort

wrth ei gweld hi'n noeth.

A dyna lle mae hithau'n griddfan ar lawr

ac yn cuddio'i hwyneb mewn cywilydd.

9 Wnaeth hi ddim meddwl beth fyddai'n digwydd yn y diwedd.Croes

Mae gwaed ei misglwyf wedi difetha ei dillad.

Roedd ei chwymp yn rhyfeddol!

Doedd neb yno i'w chysuro.

“O ARGLWYDD, edrych arna i'n diodde!” meddai,

“Mae'r gelyn wedi fy nghuro.”

10 Mae'r gelyn wedi cymryd

ei thrysorau hi i gyd.Croes

Ydy, mae hi wedi gorfod gwylio milwyr paganaidd

yn mynd i mewn i'r deml sanctaidd.

Ie, y bobl wnest ti wrthod gadael iddyn nhw

fod yn rhan o'r gynulleidfa o addolwyr!Croes

11 Mae pobl Jerwsalem yn griddfan

wrth chwilio am rywbeth i'w fwyta.

Maen nhw'n gorfod gwerthu popeth gwerthfawr

i gael bwyd i gadw'n fyw.

Jerwsalem:

“Edrych, ARGLWYDD,

dw i'n dda i ddim bellach!”

12 Ydy e ddim bwys i chi sy'n pasio heibio?

Edrychwch arna i'n iawn.

Oes rhywun wedi diodde fel dw i wedi diodde?

Yr ARGLWYDD wnaeth hyn i mi

pan oedd wedi digio'n lân.

13 Anfonodd dân i lawr o'r nefoedd,

oedd yn llosgi yn fy esgyrn.

Gosododd rwyd i'm dal i,

rhag i mi fynd ddim pellach.

Mae wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun;

dw i'n teimlo'n sâl drwy'r amser.

14 Mae ngwrthryfel wedi'i rwymo fel iau ar fy ngwddf.

Duw ei hun sydd wedi'i rwymo.

Mae e wedi gosod ei iau ar fy ngwar,

a'm gwneud i'n hollol wan.

Mae'r Meistr wedi fy rhoi yn nwylo'r gelyn,

ac alla i wneud dim yn eu herbyn.

15 Mae'r Meistr wedi taflu allan y milwyr dewr

oedd yn fy amddiffyn.

Mae wedi galw byddin i ymladd yn fy erbyn

ac i sathru fy milwyr ifanc dan draed.

Ydy, mae'r Meistr wedi sathru pobl Jwda annwyl

fel sathru grawnwin mewn gwinwasg.

16 Dyna pam dw i'n crio.

Dyna pam mae'r dagrau'n llifo.

Does gen i neb wrth law i'm cysuro;

neb i godi fy nghalon.

Does gan fy mhlant ddim dyfodol.

Mae'r gelyn wedi'u gorchfygu.

Y proffwyd:

17 Mae Seion yn begian am help,

ond does neb yno i'w chysuro hi.

Mae'r ARGLWYDD wedi gorchymyn

i'r gwledydd o'u cwmpas ymosod ar bobl Jacob.

Mae Jerwsalem yn eu canol nhw

fel peth aflan y dylid ei daflu i ffwrdd.

Jerwsalem:

18 Yr ARGLWYDD sy'n iawn;Croes

dw i wedi tynnu'n groes i beth ddwedodd e.

Gwrandwch arna i, bawb!

Edrychwch gymaint dw i'n ei ddiodde.

Mae fy merched a'm dynion ifanc

wedi cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.

19 Rôn i'n galw ar fy ffrindiau am help

ond dyma nhw i gyd yn troi cefn arna i.

Bu farw'r offeiriaid a'r arweinwyr yn y ddinas

wrth edrych am fwyd i gadw eu hunain yn fyw.

20 ARGLWYDD, edrych mor ddrwg mae hi arna i!

Dw i'n corddi tu mewn.

Dw i'n torri fy nghalon,

achos dw i'n gwybod mod i wedi gwrthryfela'n llwyr.

Allan ar y stryd mae'r gelyn yn lladd;

yn y tai mae pobl yn marw o newyn.

21 Maen nhw wedi fy nghlywed i'n griddfan,

a does yna neb i'm cysuro.

Mae fy ngelynion wedi clywed am fy helyntion,

ac maen nhw'n falch dy fod wedi gwneud hyn i mi.

Brysied y diwrnod rwyt wedi sôn amdano,

pan gân nhw eu cosbi run fath â fi!

22 Edrych ar yr holl bethau drwg maen nhw'n eu gwneud!

Delia hefo nhw fel rwyt wedi delio gyda mi

am wrthryfela yn dy erbyn o hyd ac o hyd.

Dw i'n methu stopio griddfan

ac wedi digalonni'n llwyr!

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity