Yn ôl

Galarnad

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GALARNAD 2

Cerdd 2 – Cosb Jerwsalem

Y proffwyd:

1 O! Mae'r Meistr wedi digio'n lân,

ac wedi rhoi Jerwsalem dan gwmwl tywyll!

Mae'r ddinas oedd yn ysblander Israel

wedi'i bwrw i lawr i'r llwch o'r nefoedd.

Yn ei lid ffyrnig, mae Duw wedi gwrthod ei deml,

sef ei stôl droed sydd ar y ddaear.

2 Mae wedi dinistrio cartrefi pobl Jacob

heb ddangos trugaredd o gwbl.

Yn ei ddig mae wedi dinistrio'r trefi caerog

oedd yn amddiffyn Jwda. Ref

Mae wedi bwrw i lawr y wlad a'i harweinwyr

ac achosi cywilydd mawr.

3 Yn ei lid ffyrnig mae wedi dinistrio

grym byddin Israel yn llwyr.

Stopiodd eu hamddiffyn nhw

pan oedd y gelyn yn ymosod.

Roedd fel tân yn llosgi drwy'r wlad

ac yn difa popeth ar dir Jacob.

4 Roedd fel gelyn yn anelu ei fwa saeth,

a'i law dde yn barod i saethu.

Lladdodd bawb oedd yn annwyl yn ei olwg.

Do, tywalltodd ei lid fel tân ar gartrefi Jerwsalem.

5 Roedd yr Arglwydd fel gelyn

yn dinistrio Israel.

Mae wedi dinistrio'r plastai i gyd,

a dymchwel ei chaerau amddiffynnol.

Bellach, dim ond griddfan a galar

sydd i'w glywed drwy wlad Jwda.

6 Mae wedi chwalu ei deml fel caban mewn gwinllan.

Mae wedi dinistrio canolfan y gwyliau sanctaidd.

Daeth pob Gŵyl grefyddol

a Saboth i ben yn Seion.

Yn ei lid ffyrnig trodd ei gefn

ar y brenin a'r offeiriaid.

7 Mae'r Meistr wedi gwrthod ei allor.

Mae wedi troi cefn ar ei deml.

Mae wedi gadael i'r gelyn

rwygo ei waliau i lawr.

Roedd sŵn y gelyn yn gweiddi yn nheml yr ARGLWYDD

fel sŵn pobl yn dathlu yno ar ddydd Gŵyl.

8 Roedd yr ARGLWYDD yn benderfynol

o droi waliau dinas Jerwsalem yn adfeilion.

Roedd wedi cynllunio'n ofalus beth i'w wneud,

ac aeth ati i'w dinistrio nhw'n llwyr.

Bellach mae'r waliau oedd yn amddiffyn y ddinas

yn gorwedd yn llesg fel pobl yn galaru.

9 Mae giatiau'r ddinas yn gorwedd ar lawr,

a'r barrau oedd yn eu cloi wedi malu.

Mae'r brenin a'r arweinwyr wedi'u cymryd yn gaeth.Croes

Does neb i roi arweiniad o'r Gyfraith,

a does gan y proffwydi ddim gweledigaeth

gan yr ARGLWYDD.

10 Mae'r henoed sydd ar ôl yn Jerwsalem

yn eistedd ar lawr yn hollol dawel.

Maen nhw wedi taflu pridd ar eu pennau

ac yn gwisgo sachliain yn eu tristwch.

Mae merched ifanc Jerwsalem

yn syllu ar lawr yn ddigalon.

11 Mae fy llygaid innau'n llawn dagrau.

Mae fy stumog yn corddi y tu mewn i mi.

Mae'r hyn sydd wedi digwydd i'm pobl

yn fy ngwneud i'n sâl.

Mae plant a babis bach yn llwgu a llewygu

ar strydoedd y ddinas!

12 Mae plant yn galw ar eu mamau.

“Dw i eisiau bwyd. Dw i eisiau diod.”

Maen nhw'n llewygu ar y strydoedd

fel milwyr wedi'u hanafu.

Maen nhw'n marw yn araf

ym mreichiau eu mamau.

13 Dw i ddim yn gwybod beth i'w ddweud.

Dw i wedi gweld dim byd tebyg.

Jerwsalem annwyl, beth alla i ei wneud i dy helpu di?

Mae dy anaf mor ddwfn â'r môr mawr;

does neb yn gallu dy iacháu.

14 Roedd gweledigaethau dy broffwydi

yn gelwydd ac yn dwyll!

Yn lle gwneud pethau'n iawn eto

drwy ddangos dy bechod i ti,

roedden nhw'n cyhoeddi pethau ffals

ac yn dy gamarwain di.

15 Mae pawb sy'n pasio heibio

yn curo dwylo'n wawdlyd.

Maen nhw'n chwibanu'n ddirmygus

ac yn ysgwyd eu pennau ar Jerwsalem druan.

“Ha! Felly dyma'r un oedd yn cael ei disgrifio fel

‘y ddinas harddaf un sy'n gwneud yr holl fyd yn hapus’?”Croes

16 Mae dy elynion i gyd yn gwneud hwyl am dy ben;

yn gwawdio ac yn gwneud ystumiau arnat.

“Dŷn ni wedi'i dinistrio hi!” medden nhw.

“Roedden ni wedi edrych ymlaen at y diwrnod yma,

ac o'r diwedd mae wedi dod!”

17 Mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth oedd yn ei fwriadu.

Mae wedi gwneud beth oedd yn ei ddweud.

Roedd wedi bygwth hyn ers talwm.Croes

Mae wedi dinistrio heb ddangos trugaredd.

Mae wedi gadael i'r gelyn ddathlu dy orchfygu,

ac ymffrostio fod ei fyddin mor bwerus.

18 Gwaeddwch yn daer ar yr Arglwydd!

O, waliau Jerwsalem, gadewch i'r dagrau

lifo fel afon ddydd a nos!

Peidiwch gorffwyso; peidiwch gadael i'r dagrau stopio!

19 Cod! Gwaedda am help yn y nos!

Gwna hynny drosodd a throsodd.

Tywallt beth sydd ar dy galon

o flaen yr Arglwydd!

Estyn dy ddwylo ato mewn gweddi,

i bledio dros y plant

sy'n marw o newyn ar gornel pob stryd.

20 Edrych! ARGLWYDD, meddylia am y peth!

I bwy arall wyt ti wedi gwneud hyn?

Ydy'n iawn fod gwragedd yn bwyta'r plant

maen nhw wedi gofalu amdanyn nhw?

Ddylai offeiriaid a phroffwydi

gael eu lladd yn nheml yr ARGLWYDD?

21 Mae hen ac ifanc yn gorwedd yn farw

ar lwch y strydoedd.

Bechgyn a merched ifanc

wedi'u taro â chleddyf y gelyn.

Ti wnaeth hyn pan ddangosaist dy lid ffyrnig.

Lleddaist nhw yn ddidrugaredd.

22 Cafodd y gelyn, oedd yn creu dychryn ym mhobman,

wahoddiad gen ti, fel petai'n ddydd Gŵyl.

Ond diwrnod i ti ddangos dy lid ffyrnig oedd e,

a doedd neb i ddianc na chael byw.

Do, lladdodd y gelyn y plant wnes i eu mwytho a'u magu.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity