Yn ôl

Galarnad

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

GALARNAD 5

Cerdd 5 – Gweddi am drugaredd

Pobl Jerwsalem yn gweddïo am drugaredd.

1 ARGLWYDD, cofia beth sydd wedi digwydd i ni.

Edrycha arnon ni yn ein cywilydd!

2 Mae'n gwlad Ref wedi'i rhoi yn nwylo'r gelyn,

a'n cartrefi wedi'u meddiannu gan bobl estron.

3 Dŷn ni fel plant amddifad, heb dadau,

ac mae ein mamau fel gwragedd gweddwon.

4 Rhaid i ni brynu dŵr i'w yfed,

a thalu am y coed tân dŷn ni'n ei gasglu.

5 Dŷn ni'n cael ein gyrru fel anifeiliaid â iau ar eu gwarrau;

wedi blino'n lân, ac yn cael dim gorffwys.

6 Gwnaethon gytundeb gyda'r Aifft ac Asyria,

er mwyn cael digon o fwyd i fyw.

7 Roedd ein hynafiaid, sy'n farw bellach, wedi pechu;

a dŷn ni'n diodde canlyniadau eu drygioni nhw.Croes

8 Mae caethweision yn feistri arnon ni,

a does neb yn gallu'n hachub ni o'u gafael nhw.

9 Dŷn ni'n gorfod mentro'n bywydau i nôl bwyd,

am fod lladron arfog yn cuddio yng nghefn gwlad.

10 Mae newyn yn achosi i ni ddiodde o dwymyn;

mae ein croen yn teimlo'n boeth fel ffwrn.

11 Mae'r gwragedd yn cael eu treisio yn Seion,

a'r merched ifanc yn nhrefi Jwda.

12 Mae'r gelyn wedi crogi ein harweinwyr,

a cham-drin y rhai hynaf ohonynt.

13 Mae'r dynion ifanc yn cael eu gorfodi i weithio'r maen melin,

a'r bechgyn yn baglu wrth gario llwyth o goed.

14 Dydy'r arweinwyr hŷn ddim yn cyfarfod wrth giât y ddinas,

ac mae'r bechgyn ifanc wedi stopio canu eu cerddoriaeth.

15 Mae pob llawenydd wedi diflannu;

yn lle dawnsio dŷn ni'n galaru.

16 Mae'r dathlu wedi dod i ben.

Gwae ni, dŷn ni wedi pechu!

17 Dŷn ni'n teimlo'n sâl, ac wedi colli pob hyder;

mae'r sbarc wedi diflannu o'n llygaid,

18 am fod Mynydd Seion yn gorwedd yn wag;

dim ond siacaliaid sydd yno'n prowla.

19 Ond rwyt ti, ARGLWYDD, yn teyrnasu am byth;

mae dy orsedd yn para ar hyd y cenedlaethau.

20 Pam wyt ti wedi anghofio amdanon ni?

Pam wyt ti wedi troi cefn arnon ni mor hir?

21 Tyn ni'n ôl atat dy hun, ARGLWYDD, i ni droi nôl.

Gwna ni eto fel roedden ni ers talwm.

22 Neu wyt ti wedi'n gwrthod ni'n llwyr?

Wyt ti wedi digio'n lân gyda ni?

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity