Yn ôl

Lefiticus

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

LEFITICUS 12

Puro gwraig ar ôl iddi eni plentyn

1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2 “Dwed wrth bobl Israel: Pan mae gwraig yn cael babi, os mai bachgen ydy'r babi, bydd hi'n aflan am saith diwrnod (fel gyda'r misglwyf). 3 Pan mae'r bachgen yn wythnos oed, rhaid iddo fynd drwy'r ddefod o gael ei enwaedu, sef torri blaengroen ei bidyn i ffwrdd. 4 Fydd y wraig ddim yn hollol lân am dri deg tri diwrnod arall. Felly yn ystod y cyfnod yma o gael ei glanhau, ddylai hi ddim cyffwrdd unrhyw beth cysegredig na mynd i'r cysegr i addoli. 5 Os mai merch ydy'r babi, bydd y fam yn aflan am bythefnos (fel gyda'r misglwyf). A fydd hi ddim yn hollol lân am chwe deg chwech diwrnod arall.

6 “Pan fydd y fam wedi gorffen y cyfnod o gael ei glanhau, rhaid iddi ddod at fynedfa'r Tabernacl, a chyflwyno oen sy'n flwydd oed yn offrwm i'w losgi a cholomen neu durtur yn offrwm i lanhau o bechod. 7 Bydd yr offeiriad yn eu cyflwyno i'r ARGLWYDD ac yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi hi a Duw. Dyma sydd i ddigwydd pan fydd bachgen neu ferch yn cael eu geni. 8 Os ydy'r wraig ddim yn gallu fforddio oen, mae hi'n gallu cyflwyno dwy durtur neu ddwy golomen. Un yn offrwm i'w losgi a'r llall yn offrwm i lanhau o bechod. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddi hi a Duw, a bydd hi'n lân.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity