Yn ôl

Lefiticus

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

LEFITICUS 20

Cosb am fod yn anufudd i reolau Duw

1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2 “Dwed wrth bobl Israel:
  • Os ydy unrhyw un o bobl Israel, neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, yn aberthu un o'i blant i'r duw Molech, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid i bobl daflu cerrig ato nes bydd wedi marw.
3 Bydda i'n troi yn erbyn person felly. Bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw, am iddo roi ei blentyn i Molech, llygru'r cysegr, a sarhau fy enw sanctaidd i. 4 Os bydd pobl y wlad yn diystyru'r peth pan mae rhywun yn rhoi ei blentyn i Molech, a ddim yn ei roi i farwolaeth, 5 bydda i fy hun yn troi yn erbyn y dyn hwnnw a'i deulu. Byddan nhw'n cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw. Dyna fydd yn digwydd iddo, ac i bawb arall sy'n gwneud yr un fath ac yn puteinio drwy addoli'r duw Molech. 6 Neu os ydy rhywun yn mynd ar ôl ysbrydion neu'n ceisio siarad â'r meirw, bydda i'n troi yn erbyn y person hwnnw, a bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw. 7 Rhaid i chi gysegru'ch hunain i mi, a bod yn sanctaidd. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. 8 Byddwch yn ufudd i mi, a gwneud beth dw i'n ddweud. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eich cysegru chi'n bobl i mi fy hun.
  • 9 Os ydy rhywun yn melltithio'i dad neu ei fam, y gosb ydy marwolaeth. Fe ei hun sydd ar fai.
  • 10 Os ydy rhywun yn cysgu gyda gwraig dyn arall, y gosb ydy marwolaeth i'r ddau ohonyn nhw.
  • 11 Mae dyn sy'n cael rhyw gyda gwraig ei dad yn amharchu ei dad. Y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Arnyn nhw mae'r bai.
  • 12 Os ydy dyn yn cael rhyw gyda'i ferch-yng-nghyfraith, y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Maen nhw wedi gwneud peth ffiaidd. Arnyn nhw mae'r bai.
  • 13 Os ydy dyn yn cael rhyw gyda dyn arall, mae'r ddau wedi gwneud peth ffiaidd. Y gosb ydy marwolaeth i'r ddau. Arnyn nhw mae'r bai.
  • 14 Mae hefyd yn beth cwbl ffiaidd i ddyn gael rhyw gyda gwraig a'i mam. Y gosb ydy llosgi'r tri ohonyn nhw i farwolaeth. Does dim byd ffiaidd fel yma i ddigwydd yn eich plith chi.
  • 15 Os ydy dyn yn cael rhyw gydag anifail, y gosb ydy marwolaeth. Ac mae'r anifail i gael ei ladd hefyd.
  • 16 Os ydy gwraig yn mynd at anifail i gael rhyw gydag e, y gosb ydy marwolaeth. Rhaid i'r wraig a'r anifail farw. Arnyn nhw mae'r bai.
  • 17 Mae'n beth gwarthus i ddyn gael rhyw gyda'i chwaer (merch i'w dad neu i'w fam), a'r ddau yn gweld ei gilydd yn noeth. Byddan nhw'n cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw. Mae'r dyn wedi amharchu ei chwaer, ac mae'n rhaid iddo gael ei gosbi.
  • 18 Os ydy dyn yn cael rhyw gyda gwraig sy'n diodde o'r misglwyf, mae ffynhonnell ei gwaedlif wedi'i amlygu. Bydd y ddau ohonyn nhw yn cael eu torri allan o gymdeithas pobl Dduw.
  • 19 Paid cael rhyw gyda chwaer dy fam neu chwaer dy dad. Mae gwneud hynny yn amharchu perthynas agos. Byddan nhw'n cael eu cosbi am eu pechod.
  • 20 Os ydy dyn yn cael rhyw gyda gwraig ei ewythr, mae e'n amharchu ei ewythr. Maen nhw'n gyfrifol am eu pechod. Byddan nhw'n marw heb gael plant.
  • 21 Mae'n beth anweddus i ddyn gymryd gwraig ei frawd. Mae e'n amharchu ei frawd. Byddan nhw'n methu cael plant.

22 “Byddwch yn ufudd a chadw fy rheolau i gyd, er mwyn i'r tir dw i'n mynd â chi i fyw ynddo beidio eich chwydu chi allan. 23 Peidiwch gwneud yr un fath â phobl y wlad dw i'n eu gyrru allan o'ch blaen chi. Rôn i'n eu ffieiddio nhw am wneud y fath bethau. 24 Ond dw i wedi dweud wrthoch chi: Dw i wedi addo rhoi eu tir nhw i chi. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Dw i wedi'ch dewis chi i fod yn wahanol i'r gwledydd eraill. 25 Dyna pam mae'n rhaid i chi wahaniaethu rhwng yr anifeiliaid a'r adar sy'n lân a'r rhai sy'n aflan. Peidiwch llygru eich hunain drwy fwyta unrhyw anifail neu aderyn neu greadur arall dw i wedi dweud wrthoch chi ei fod yn aflan. 26 Rhaid i chi gysegru'ch hunain i mi. Dw i, yr ARGLWYDD, yn sanctaidd, a dw i wedi'ch dewis chi i fod yn bobl i mi, ac yn wahanol i'r gwledydd eraill i gyd.

27 “Os oes dyn neu wraig sy'n codi ysbrydion neu'n galw'r meirw yn ôl yn byw yn eich plith chi, y gosb am wneud peth felly ydy marwolaeth. Rhaid eu lladd drwy daflu cerrig atyn nhw. Arnyn nhw mae'r bai.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity