Yn ôl

Luc

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

LUC 4

Iesu yn cael ei demtio

(Mathew 4:1-11; Marc 1:12,13)

1 Roedd Iesu'n llawn o'r Ysbryd Glân pan aeth yn ôl o ardal yr Iorddonen. Gadawodd i'r Ysbryd ei arwain i'r anialwch, 2 lle cafodd ei demtio gan y diafol am bedwar deg diwrnod. Wnaeth Iesu ddim bwyta o gwbl yn ystod y dyddiau yna, ac erbyn y diwedd roedd yn llwgu.

3 Dyma'r diafol yn dweud wrtho, “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i'r garreg yma droi'n dorth o fara.”

4 Atebodd Iesu, “Na! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Dim bwyd ydy'r unig beth mae pobl ei angen i fyw.’”Croes

5 Dyma'r diafol yn ei arwain i le uchel ac yn dangos holl wledydd y byd iddo mewn eiliad. 6 Ac meddai'r diafol wrtho, “Gwna i adael i ti reoli'r rhain i gyd, a chael eu cyfoeth nhw hefyd. Mae'r cwbl wedi'u rhoi i mi, ac mae gen i hawl i'w rhoi nhw i bwy bynnag dw i'n ei ddewis. 7 Felly, os gwnei di fy addoli i, cei di'r cwbl.”

8 Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola'r Arglwydd dy Dduw, a'i wasanaethu e'n unig.’”Croes

9 Dyma'r diafol yn mynd â Iesu i Jerwsalem a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. “Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o'r fan yma. 10 Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud:

‘Bydd Duw yn gorchymyn i'w angylion

dy gadw'n saff;

11 byddan nhw'n dy ddal yn eu breichiau,

fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.’”Croes

12 Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi'r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’”Croes

13 Pan oedd y diafol wedi ceisio temtio Iesu bob ffordd bosib, gadawodd iddo nes i gyfle arall godi.

Iesu yn dechrau'i weinidogaeth yn Galilea

(Mathew 4:12-17; Marc 1:14-15)

14 Aeth Iesu yn ôl i Galilea yn llawn o nerth yr Ysbryd, ac aeth y sôn amdano ar led drwy'r ardal gyfan. 15 Roedd yn dysgu yn y synagogau, ac yn cael ei ganmol gan bawb.

Iesu yn cael ei wrthod yn Nasareth

(Mathew 13:53-58; Marc 6:1-6)

16 A daeth i Nasareth, lle cafodd ei fagu, a mynd i'r synagog ar y Saboth fel roedd yn arfer ei wneud. Safodd ar ei draed i ddarllen o'r ysgrifau sanctaidd. 17 Sgrôl proffwydoliaeth Eseia gafodd ei rhoi iddo, a dyma fe'n ei hagor, a dod o hyd i'r darn sy'n dweud:

18 “Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i,

oherwydd mae wedi fy eneinio i

i gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd.

Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy'n gaeth i gael rhyddid,

a phobl sy'n ddall i gael eu golwg yn ôl,

a'r rhai sy'n cael eu cam-drin i ddianc o afael y gormeswr,

19 a dweud hefyd fod y flwyddyn i'r Arglwydd ddangos ei ffafr wedi dod.”Croes

20 Caeodd y sgrôl a'i rhoi yn ôl i'r dyn oedd yn arwain yr oedfa yn y synagog, ac yna eisteddodd. Roedd pawb yn y synagog yn syllu arno. 21 Yna dwedodd, “Mae'r geiriau yma o'r ysgrifau sanctaidd wedi dod yn wir heddiw.”

22 Roedd pawb yn dweud pethau da amdano, ac yn rhyfeddu at y pethau gwych roedd yn eu dweud. “Onid mab Joseff ydy hwn?” medden nhw.

23 Yna dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae'n siŵr y byddwch chi'n cyfeirio at yr hen ddywediad: ‘Iachâ dy hun, feddyg!’ hynny ydy, ‘y math o beth dŷn ni wedi'i glywed i ti eu gwneud yn Capernaum, gwna yma yn dy dref dy hun.’”

24 “Ond y gwir plaen ydy, does dim parch at broffwyd yn y dre lle cafodd ei fagu! 25 Gallwch fod yn reit siŵr fod llawer iawn o wragedd gweddwon yn Israel yn amser y proffwyd Elias. Wnaeth hi ddim glawio am dair blynedd a hanner ac roedd newyn trwm drwy'r wlad i gyd.Croes 26 Ond chafodd Elias mo'i anfon at yr un ohonyn nhw. Cafodd ei anfon at wraig o wlad arall – gwraig weddw yn Sareffath yn ardal Sidon!Croes 27 Ac roedd llawer o bobl yn Israel yn dioddef o'r gwahanglwyf pan oedd y proffwyd Eliseus yn fyw. Ond Naaman o wlad Syria oedd yr unig un gafodd ei iacháu!”Croes

28 Roedd pawb yn y synagog wedi gwylltio wrth ei glywed yn dweud hyn. 29 Dyma nhw'n codi ar eu traed a gyrru Iesu allan o'r dref i ben y bryn roedd y dre wedi'i hadeiladu arno. Roedden nhw'n bwriadu ei daflu dros y clogwyn, 30 ond llwyddodd i fynd drwy ganol y dyrfa ac aeth ymlaen ar ei daith.

Iesu'n bwrw allan ysbryd drwg

(Marc 1:21-28)

31 Aeth i Capernaum, un o drefi Galilea, a dechrau dysgu'r bobl yno ar y Saboth. 32 Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu, am fod ei neges yn gwneud i bobl wrando arno.

33 Un tro dyma rhyw ddyn oedd yn y synagog yn rhoi sgrech uchel. (Roedd y dyn wedi'i feddiannu gan gythraul, hynny ydy ysbryd drwg.) 34 “Aaaaar! Gad di lonydd i ni, Iesu o Nasareth. Rwyt ti yma i'n dinistrio ni. Dw i'n gwybod pwy wyt ti – Un Sanctaidd Duw!”

35 “Bydd ddistaw!” meddai Iesu'n ddig. “Tyrd allan ohono!” A dyma'r cythraul yn taflu'r dyn ar lawr o flaen pawb, yna daeth allan ohono heb wneud dim mwy o niwed iddo.

36 Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn, “Beth sy'n mynd ymlaen? Mae ganddo'r fath awdurdod! Mae hyd yn oed yn gallu gorfodi ysbrydion drwg i ufuddhau iddo a dod allan o bobl!” 37 Aeth y newyddion amdano ar led fel tân gwyllt drwy'r ardal i gyd.

Iesu'n iacháu llawer o bobl

(Mathew 8:14-17; Marc 1:29-34)

38 Dyma Iesu'n gadael y synagog ac yn mynd i gartref Simon. Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn sâl iawn gyda gwres uchel. Dyma nhw'n gofyn i Iesu ei helpu hi. 39 Plygodd Iesu drosti a gorchymyn i'r gwres i fynd, a diflannodd y tymheredd oedd ganddi yn y fan a'r lle! Yna dyma hi'n codi o'i gwely a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw.

40 Ar ôl i'r haul fachlud roedd y Saboth drosodd, a daeth pobl at Iesu gyda'u perthnasau oedd yn dioddef o bob math o salwch. Roedd yn eu hiacháu drwy roi ei ddwylo ar bob un ohonyn nhw. 41 A daeth cythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedden nhw'n gweiddi, “Mab Duw wyt ti!” am eu bod yn gwybod yn iawn mai Iesu oedd y Meseia, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud dim byd mwy.

Pregethu yn y synagogau

(Marc 1:35-39)

42 Wrth iddi wawrio y bore wedyn aeth Iesu i ffwrdd i le unig. Roedd tyrfaoedd o bobl yn edrych amdano, ac ar ôl ei gael dyma nhw'n ceisio ei stopio rhag mynd. 43 Ond meddai Iesu, “Rhaid i mi gyhoeddi'r newyddion da am Dduw yn teyrnasu yn y trefi eraill hefyd. Dyna pam dw i wedi cael fy anfon yma.” 44 Felly aeth ati i bregethu yn y synagogau drwy wlad Jwdea. Ref ’

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity