Yn ôl

Malachi

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

MALACHI 2

Y proffwyd yn rhybuddio'r offeiriaid

1 Nawr, chi offeiriaid, dyma orchymyn i chi:

2 “Os wnewch chi ddim gwrando

a phenderfynu dangos parch tuag ata i,”

—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus,

“bydda i'n dod â'r felltith arnoch chi,

ac yn troi eich bendithion chi yn felltith.

(Yn wir, dw i wedi gwneud hynny,

am eich bod chi ddim o ddifrif.)

3 Bydda i'n ceryddu eich disgynyddion,

a rhwbio eich wyneb yn y perfeddion

– perfeddion aberthau eich gwyliau crefyddol,

a byddwch yn cael eich taflu allan gyda nhw!

4 Byddwch yn gwybod wedyn mai fi

roddodd y gorchymyn hwn i chi,

fod fy ymrwymiad gyda Lefi i'w gadw,”

—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.

5 “Rôn i wedi ymrwymo i roi bywyd a heddwch iddo.

Dyna rois i iddo, ac roedd e i fod i'm parchu

ac ymostwng o'm blaen i.

6 Roedd i ddysgu'r gwir,

a doedd e ddim i dwyllo;

Roedd i fyw yn gwbl ufudd i mi,

ac i droi llawer o bobl oddi wrth ddrwg.

7 Roedd geiriau offeiriad i amddiffyn y gwir,

a'r hyn mae'n ei ddysgu i roi arweiniad i bobl;

gan ei fod yn negesydd i'r ARGLWYDD hollbwerus.

8 Ond dych chi wedi troi cefn ar y ffordd iawn;

dych chi wedi dysgu pethau

sydd wedi gwneud i lawer o bobl faglu.

Dych chi wedi llygru'r ymrwymiad gyda Lefi,”

—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.

9 “Felly dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n rai

sy'n cael eu diystyru a'u bychanu gan bawb,

am nad ydych chi wedi bod yn ffyddlon i mi,

a dydy'ch dysgeidiaeth chi ddim wedi bendithio pobl.”

Priodasau cymysg ac ysgariad

10 Onid un tad sydd gynnon ni i gyd?

Onid yr un Duw wnaeth ein creu ni?

Felly pam ydyn ni'n anffyddlon i'n gilydd

ac yn torri ymrwymiad ein tadau?

11 Mae pobl Jwda wedi bod yn anffyddlon,

ac wedi gwneud pethau ffiaidd

yn Israel a Jerwsalem.

Maen nhw wedi halogi'r lle sanctaidd

mae'r ARGLWYDD yn ei garu,

drwy briodi merched sy'n addoli duwiau eraill.

12 Boed i'r ARGLWYDD daflu allan o bebyll Jacob

bob un sy'n gwneud y fath beth,

ac yna'n cyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD hollbwerus.

13 A dyma beth arall dych chi'n ei wneud:

Dych chi'n gorchuddio allor yr ARGLWYDD

gyda'ch dagrau, wrth wylo a chwyno

am nad ydy e'n cymryd sylw o'ch offrwm chi ddim mwy,

ac yn gwrthod derbyn eich rhodd.

14 “Ond pam?” meddech chi.

Am fod yr ARGLWYDD yn dyst

i'r addewidion wnest ti i dy wraig pan briodaist.

Ti wedi bod yn anffyddlon iddi

er mai hi ydy dy gymar di,

a'r un wnest ti ymrwymo iddi drwy briodas.

15 Oni wnaeth Duw chi'n un?

Gwnaeth chi'n un cnawd ac ysbryd.

A beth sydd gan Dduw eisiau o'r undod?

Onid plant duwiol? Ref

Felly gwyliwch eich hunain!

Ddylai neb fod yn anffyddlon

i'r wraig briododd pan yn ifanc.

16 “Dw i'n casáu ysgariad,”

—meddai'r ARGLWYDD, Duw Israel,

“a'r rhai sy'n euog o drais,”

—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.

Felly gwyliwch eich hunain!

Ddylai neb fod yn anffyddlon.

Bydd Duw yn barnu

17 Dych chi wedi blino'r ARGLWYDD â'ch holl siarad.

“Sut ydyn ni wedi'i flino fe?” meddech chi,

Drwy ddweud, “Mae pawb sy'n gwneud drwg

yn dda yng ngolwg yr ARGLWYDD

– mae wrth ei fodd gyda nhw!”

neu drwy ofyn, “Ble mae'r Duw cyfiawn yma?”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity