Yn ôl

Marc

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

MARC 2

Iesu'n iacháu dyn wedi'i barlysu

(Mathew 9:1-8; Luc 5:17-26)

1 Ychydig ddyddiau wedyn, aeth Iesu yn ôl i Capernaum. Aeth y si o gwmpas ei fod wedi dod adre, 2 a daeth tyrfa mor fawr i'w weld nes bod dim lle hyd yn oed i sefyll y tu allan i'r drws. Dyma Iesu'n cyhoeddi neges Duw iddyn nhw. 3 Yna daeth rhyw bobl â dyn oedd wedi'i barlysu ato. Roedd pedwar yn ei gario, 4 ond yn methu mynd yn agos at Iesu am fod yno gymaint o dyrfa. Felly dyma nhw'n torri twll yn y to uwch ei ben, a gollwng y dyn i lawr ar y fatras oedd yn gorwedd arni. 5 Pan welodd Iesu'r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi'i barlysu, “Ffrind, mae dy bechodau wedi'u maddau.”

6 Roedd rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno. Yr hyn oedd yn mynd drwy'u meddyliau nhw oedd, 7 “Sut mae'n gallu dweud y fath beth? Cabledd ydy dweud peth felly! Duw ydy'r unig un sy'n gallu maddau pechodau!”

8 Roedd Iesu'n gwybod yn iawn mai dyna oedden nhw'n ei feddwl, ac meddai wrthyn nhw, “Pam dych chi'n meddwl mod i'n cablu? 9 Ydy'n haws dweud wrth y dyn ‘Mae dy bechodau wedi'u maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed, cymer dy fatras a cherdda’? 10 Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear!” A dyma Iesu'n troi at y dyn oedd wedi'i barlysu, a dweud wrtho, 11 “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.” 12 A dyna'n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed yn y fan a'r lle, cymryd ei fatras, a cherdded allan o flaen pawb. Roedd pawb wedi'u syfrdanu'n llwyr, ac yn moli Duw. “Dŷn ni erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn!” medden nhw.

Galw Lefi

(Mathew 9:9-13; Luc 5:27-32)

13 Aeth Iesu allan at y llyn unwaith eto. Daeth tyrfa fawr o bobl ato, ac roedd yn eu dysgu. 14 Yna wrth fynd yn ei flaen, gwelodd Lefi fab Alffeus yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a chododd Lefi ar unwaith a mynd ar ei ôl.

15 Yn nes ymlaen aeth Iesu a'i ddisgyblion am bryd o fwyd i dŷ Lefi. Roedd criw mawr o'r rhai oedd yn casglu trethi i Rufain yn y parti hefyd, a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn ‛bechaduriaid‛. (Pobl felly oedd llawer o'r rhai oedd yn dilyn Iesu.) 16 Wrth iddyn nhw ei weld e'n bwyta gyda ‛pechaduriaid‛ a chasglwyr trethi, dyma rai o'r Phariseaid oedd yn arbenigwyr yn y Gyfraith yn gofyn i'w ddisgyblion: “Pam mae e'n bwyta gyda'r bradwyr sy'n casglu trethi i Rufain, a phobl eraill sy'n ddim byd ond ‛pechaduriaid‛?”

17 Clywodd Iesu hyn, a dwedodd wrthyn nhw, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl. Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim y rhai sy'n meddwl eu bod nhw heb fai.”

Holi Iesu am ymprydio

(Mathew 9:14-17; Luc 5:33-39)

18 Roedd disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio (hynny ydy, peidio bwyta am gyfnod er mwyn ceisio canolbwyntio'n llwyr ar Dduw). Felly dyma rhyw bobl yn gofyn i Iesu, “Mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dydy dy ddisgyblion di ddim. Pam?”

19 Atebodd Iesu nhw, “Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i ymprydio! Maen nhw yno i ddathlu gyda'r priodfab. Maen nhw yno i fwynhau eu hunain! 20 Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw'n ymprydio bryd hynny.

21 “Does neb yn trwsio hen ddilledyn gyda chlwt o frethyn newydd sydd heb shrincio. Byddai'r brethyn newydd yn tynnu ar yr hen ac yn achosi rhwyg gwaeth. 22 A does neb yn tywallt gwin sydd heb aeddfedu i hen boteli crwyn. Byddai'r crwyn yn byrstio wrth i'r gwin aeddfedu, a'r poteli a'r gwin yn cael eu difetha. Na, rhaid defnyddio poteli crwyn newydd i'w ddal.”

Arglwydd y Saboth

(Mathew 12:1-8; Luc 6:1-5)

23 Roedd Iesu'n croesi drwy ganol caeau ŷd ryw ddydd Saboth, a dyma'i ddisgyblion yn dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd. Ref Croes 24 “Edrych!” meddai'r Phariseaid, “Pam mae dy ddisgyblion yn torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth?”

25 Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi erioed wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i griw o ddilynwyr yn llwgu?Croes 26 Pan oedd Abiathar yn archoffeiriad aeth i mewn i dŷ Dduw a bwyta'r bara oedd wedi'i gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. Mae'r Gyfraith yn dweud mai dim ond yr offeiriaid sy'n cael ei fwyta,Croes ond cymerodd Dafydd beth, a'i roi i'w ddilynwyr hefyd.”

27 Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cafodd y dydd Saboth ei roi er lles pobl, dim i gaethiwo pobl. 28 Felly mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn hyd yn oed ar y Saboth.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity