Yn ôl

Mathew

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

MATHEW 15

Glân ac aflan

(Marc 7:1-23)

1 Dyma Phariseaid ac arbenigwyr yn y Gyfraith o Jerwsalem yn dod at Iesu, a gofyn iddo, 2 “Pam mae dy ddisgyblion di yn gwneud beth sy'n groes i'r traddodiad? Maen nhw'n bwyta heb fynd drwy'r ddefod o olchi eu dwylo!”

3 Atebodd Iesu, “A pham dych chi'n mynd yn groes i orchymyn Duw er mwyn cadw'ch traddodiadau? 4 Er enghraifft, gorchmynnodd Duw, ‘Gofala am dy dad a dy fam’Croes a ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n sarhau ei dad neu ei fam gael ei ladd.’Croes 5 Ond dych chi'n dweud ei bod yn iawn dweud wrth rieni mewn oed, ‘Alla i ddim gofalu amdanoch chi. Mae beth o'n i'n mynd i'w roi i chi wedi'i gyflwyno'n rhodd i Dduw,’ 6 Does dim rhaid ‛gofalu am dad‛ wedyn. Er mwyn cadw'ch traddodiad dych chi'n osgoi gwneud beth mae Duw'n ei ddweud. 7 Dych chi mor ddauwynebog! Roedd Eseia yn llygad ei le pan broffwydodd amdanoch chi:

8 ‘Mae'r bobl yma'n dweud pethau gwych amdana i,

ond mae eu calonnau yn bell oddi wrtho i.

9 Mae eu haddoliad yn ddiystyr;

mân-reolau dynol ydy'r cwbl maen nhw'n ei ddysgu.’”Croes

10 Yna dyma Iesu'n galw'r dyrfa ato a dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch er mwyn i chi ddeall. 11 Dim beth dych chi'n ei fwyta sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛; y pethau dych chi'n eu dweud sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛.”

12 A dyma'r disgyblion yn mynd ato a dweud wrtho, “Mae beth ddwedaist ti wedi cythruddo'r Phariseaid go iawn!”

13 Atebodd yntau, “Bydd pob planhigyn wnaeth fy Nhad nefol ddim ei blannu yn cael ei dynnu i fyny. 14 Gadewch iddyn nhw – arweinwyr dall ydyn nhw! Os ydy dyn dall yn arwain dyn dall arall, bydd y ddau yn disgyn i ffos gyda'i gilydd.”

15 Yna meddai Pedr, “Esbonia i ni ystyr y dywediad.”

16 “Ydych chi'n dal mor ddwl?” meddai Iesu. 17 “Ydych chi ddim yn gweld fod bwyd ddim ond yn mynd drwy'r stumog ac yna'n dod allan yn y tŷ bach? 18 Ond mae'r pethau dych chi'n eu dweud yn dod o'r galon, a dyna sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛. 19 O'ch calon chi mae meddyliau drwg yn dod, a phethau fel llofruddio, godinebu, anfoesoldeb rhywiol, dwyn, rhoi tystiolaeth ffug, a hel straeon cas. 20 Dyma'r pethau sy'n gwneud rhywun yn ‛aflan‛. Dydy bwyta heb gadw'r ddefod o olchi'r dwylo ddim yn eich gwneud chi'n ‛aflan‛.”

Ffydd y wraig Gananeaidd

(Marc 7:24-30)

21 Gadawodd Iesu Galilea ac aeth i ffwrdd i gylch Tyrus a Sidon. 22 Daeth gwraig ato (gwraig o'r ardal o dras Canaaneaidd), a gweiddi, “Arglwydd, Fab Dafydd, helpa fi! Mae fy merch yn dioddef yn ofnadwy am ei bod yng ngafael cythraul.”

23 Wnaeth Iesu ddim ymateb o gwbl. A dyma'i ddisgyblion yn dod ato a phwyso arno, “Anfon hi i ffwrdd, mae hi'n boen yn dal ati i weiddi ar ein holau ni!”

24 Felly atebodd Iesu hi, “Dim ond at bobl Israel, sydd fel defaid ar goll, ces i fy anfon.”

25 Ond dyma'r wraig yn dod a phenlinio o'i flaen. “Helpa fi, Arglwydd!” meddai.

26 Atebodd Iesu, “Dydy hi ddim yn iawn i bobl daflu bwyd y plant i'r cŵn.” Ref

27 “Digon gwir, Arglwydd,” meddai'r wraig, “ond mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta'r briwsion sy'n disgyn oddi ar fwrdd eu meistr.”

28 Atebodd Iesu, “Wraig annwyl, mae gen ti lot o ffydd! Cei beth ofynnaist amdano.” A dyna'r union adeg y cafodd ei merch ei hiacháu.

Iesu'n bwydo'r pedair mil

(Marc 8:1-10)

29 Pan adawodd Iesu'r ardal honno, teithiodd ar hyd glan Llyn Galilea. Yna aeth i ben mynydd ac eistedd i lawr. 30 Daeth tyrfaoedd mawr o bobl ato, gyda phobl oedd yn gloff, yn ddall, yn anabl neu'n fud. Cawson nhw eu gosod o'i flaen, ac iachaodd nhw. 31 Roedd y bobl wedi'u syfrdanu wrth weld y mud yn siarad, pobl anabl wedi cael eu hiacháu, y cloff yn cerdded a'r dall yn gweld. A dyma nhw'n dechrau moli Duw Israel.

32 Dyma Iesu'n galw'i ddisgyblion ato a dweud, “Dw i'n teimlo dros y bobl yma i gyd; maen nhw wedi bod yma ers tri diwrnod heb gael dim i'w fwyta. Dw i ddim am iddyn nhw fynd i ffwrdd yn llwgu, rhag iddyn nhw lewygu ar y ffordd.” 33 Meddai'r disgyblion, “Ble gawn ni ddigon o fara i fwydo'r fath dyrfa mewn lle mor anial!”

34 “Sawl torth o fara Ref sydd gynnoch chi?” meddai Iesu.

“Saith,” medden nhw, “a rhyw ychydig o bysgod bach.”

35 Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr. 36 Cymerodd y saith torth a'r pysgod, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a'u rhoi i'r disgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl. 37 Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben. 38 Roedd pedair mil o ddynion wedi cael eu bwydo, heb sôn am wragedd a phlant! 39 Ar ôl i Iesu anfon y dyrfa adre aeth i mewn i'r cwch a chroesi i ardal Magadan. Ref

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity