Yn ôl

Mathew

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

MATHEW 17

Y Gweddnewidiad

(Marc 9:2-13; Luc 9:28-36)

1 Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan (brawd Iago) gydag e. 2 Dyma olwg Iesu'n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid – roedd ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a throdd ei ddillad yn wyn llachar fel golau. 3 Wedyn dyma Moses ac Elias yn ymddangos, yn sgwrsio gyda Iesu.

4 Dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, mae'n dda cael bod yma. Os wyt ti eisiau, gwna i godi tair lloches yma – un i ti, un i Moses, ac un i Elias.” 5 Roedd yn dal i siarad pan ddaeth cwmwl disglair i lawr o'u cwmpas, a dyma lais o'r cwmwl yn dweud, “Fy Mab annwyl i ydy hwn; mae wedi fy mhlesio i'n llwyr. Gwrandwch arno!” 6 Pan glywodd y disgyblion y llais roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n syrthio ar eu hwynebau ar lawr. 7 Ond dyma Iesu'n mynd atyn nhw a'u cyffwrdd, a dweud wrthyn nhw, “Codwch, peidiwch bod ag ofn.” 8 Pan edrychon nhw i fyny doedd neb i'w weld yno ond Iesu.

9 Wrth ddod i lawr o'r mynydd, dyma Iesu'n dweud yn glir wrthyn nhw, “Peidiwch sôn wrth neb am beth dych chi wedi'i weld nes bydda i, Mab y Dyn, wedi dod yn ôl yn fyw ar ôl marw.” 10 Dyma'r disgyblion yn gofyn iddo, “Felly pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod rhaid i Elias ddod yn ôl cyn i'r Meseia gyrraedd?”Croes 11 Atebodd Iesu, “Mae Elias yn dod, reit siŵr, i roi trefn ar bopeth. 12 Dw i'n dweud wrthoch chi fod Elias wedi dod eisoes, ond wnaethon nhw mo'i nabod, ac maen nhw wedi'i gam-drin. A bydda i, Mab y Dyn, yn dioddef yr un fath ganddyn nhw.” 13 Dyna pryd deallodd y disgyblion ei fod yn siarad am Ioan Fedyddiwr.

Iacháu'r bachgen yng ngafael cythraul

(Marc 9:14-29; Luc 9:37-43a)

14 Pan ddaethon nhw at y dyrfa, dyma ddyn yn dod at Iesu a phenlinio o'i flaen. 15 “Arglwydd, helpa fy mab i,” meddai. “Mae'n cael ffitiau ac yn dioddef yn ofnadwy. Mae'n syrthio yn aml i ganol y tân, neu i ddŵr. 16 Des i ag e at dy ddisgyblion di, ond doedden nhw ddim yn gallu ei iacháu.”

17 “Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i'ch dioddef chi? Tyrd â'r bachgen yma ata i.” 18 Dyma Iesu'n ceryddu'r cythraul, a daeth allan o'r bachgen. Cafodd ei iacháu y foment honno.

19 Dyma'r disgyblion yn gofyn yn breifat i Iesu, “Pam oedden ni'n methu ei fwrw allan?” 20 “Am eich bod chi'n credu cyn lleied,” meddai. “Credwch chi fi, petai'ch ffydd chi mor fach â hedyn mwstard, gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Symud i'r fan acw’ a byddai'n symud. Fyddai dim byd yn amhosib i chi. Ref ” ’

Iesu'n dweud eto ei fod yn mynd i farw a dod yn ôl yn fyw

(Marc 9:30-32; Luc 9:43b-45)

22 Pan ddaethon nhw at ei gilydd yn Galilea, dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu i afael 23 pobl fydd yn fy lladd, ond ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw.” Roedd y disgyblion yn ofnadwy o drist.

Treth y Deml

24 Pan gyrhaeddodd Iesu a'i ddisgyblion Capernaum, daeth y rhai oedd yn casglu'r dreth i gynnal y deml at Pedr (hynny ydy y dreth o ddwy ddrachma). Dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy dy athro di'n talu treth y deml?”Croes

25 “Ydy, mae e” atebodd Pedr.

Pan aeth Pedr adre, cyn iddo gael cyfle i ddweud gair, dyma Iesu'n gofyn iddo, “Simon, beth wyt ti'n feddwl? Gan bwy mae brenhinoedd yn casglu tollau a threthi – gan eu plant eu hunain neu gan bobl eraill?”

26 “Gan bobl eraill,” meddai Pedr.

“Felly does dim rhaid i'r plant dalu,” meddai Iesu wrtho. 27 “Ond rhag i ni beri tramgwydd iddyn nhw, dos at y llyn a thaflu lein i'r dŵr. Cymer y pysgodyn cyntaf wnei di ei ddal, ac yn ei geg cei ddarn arian fydd yn ddigon i'w dalu. Ref Defnyddia hwnnw i dalu'r dreth drosto i a thithau.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity