Yn ôl

Mathew

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

MATHEW 28

Yr Atgyfodiad

(Marc 16:1-8; Luc 24:1-12; Ioan 20:1-10)

1 Yna'n gynnar fore Sul, pan oedd y Saboth Iddewig drosodd, a hithau'n dechrau gwawrio, dyma Mair Magdalen a'r Fair arall yn mynd i edrych ar y bedd.

2 Yn sydyn roedd daeargryn mawr. Dyma angel yr Arglwydd yn dod i lawr o'r nefoedd a rholio'r garreg oddi ar geg y bedd ac eistedd arni. 3 Roedd wyneb yr angel yn disgleirio'n llachar fel mellten, a'i ddillad yn wyn fel eira. 4 Roedd y milwyr yn crynu gan ofn a dyma nhw'n llewygu.

5 Yna dyma'r angel yn dweud wrth y gwragedd, “Peidiwch bod ag ofn. Dw i'n gwybod eich bod chi'n edrych am Iesu, yr un gafodd ei groeshoelio. 6 Dydy e ddim yma; mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dyna'n union beth ddwedodd fyddai'n digwydd. Dewch yma i weld lle bu'n gorwedd. 7 Yna ewch ar frys a dweud wrth ei ddisgyblion: ‘Mae Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac mae'n mynd i Galilea o'ch blaen chi. Cewch ei weld yno.’ Edrychwch, fi sydd wedi dweud wrthoch chi.”

8 Felly dyma'r gwragedd yn rhedeg ar frys o'r bedd i ddweud wrth y disgyblion. Roedden nhw wedi dychryn, ac eto'n teimlo rhyw wefr. 9 Yna'n sydyn dyma Iesu'n eu cyfarfod nhw. “Helo,” meddai. Dyma nhw'n rhedeg ato ac yn gafael yn ei draed a'i addoli. 10 “Peidiwch bod ag ofn,” meddai Iesu wrthyn nhw, “Ewch i ddweud wrth fy mrodyr am fynd i Galilea; byddan nhw'n cael fy ngweld i yno.”

Adroddiad y milwyr

11 Tra oedd y gwragedd ar eu ffordd, dyma rhai o'r milwyr yn mynd i'r ddinas i ddweud wrth y prif offeiriaid am bopeth oedd wedi digwydd. 12 Yna aeth y prif offeiriaid i gyfarfod gyda'r arweinwyr eraill i drafod beth i'w wneud. Dyma nhw'n penderfynu talu swm mawr o arian i'r milwyr 13 i ddweud celwydd. “Dyma beth dych chi i'w ddweud: medden nhw, ‘Daeth ei ddisgyblion yn ystod y nos a dwyn y corff tra oedden ni'n cysgu.’ 14 Peidiwch poeni os bydd y llywodraethwr Ref yn clywed y stori, deliwn ni gyda hynny a gwneud yn siŵr na chewch chi'ch cosbi.” 15 Felly dyma'r milwyr yn cymryd yr arian ac yn gwneud beth ddwedwyd wrthyn nhw. Dyma'r stori mae'r Iddewon i gyd yn dal i'w defnyddio heddiw!

Y Comisiwn Mawr

(Marc 16:14-18; Luc 24:36-49; Ioan 20:19-23; Actau 1:6-8)

16 Dyma'r un deg un disgybl yn mynd i Galilea, i'r mynydd lle roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw am fynd. 17 Pan welon nhw Iesu, dyma nhw'n ei addoli – ond roedd gan rai amheuon. 18 Wedyn dyma Iesu'n mynd atyn nhw ac yn dweud, “Dw i wedi cael awdurdod llwyr i reoli popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear. 19 Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a'u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â'r Tad, a'r Mab a'r Ysbryd Glân. 20 A dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi'i ddweud wrthoch chi. Gallwch chi fod yn siŵr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity