Yn ôl

Micha

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

MICHA 1

1 Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Micha o Moresheth. Ref Roedd yn proffwydo pan oedd Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda.Croes Dyma ddangosodd Duw iddo am Samaria a Jerwsalem. Ref

Dinistrio Samaria yn rhybudd i Jerwsalem

2 Gwrandwch, chi bobl i gyd!

Cymrwch sylw, bawb sy'n byw drwy'r byd!

Mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn dyst yn eich erbyn;

mae'n eich cyhuddo chi o'i deml sanctaidd.

3 Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD yn dod!

Mae'n dod i lawr ac yn sathru'r mynyddoedd!

4 Bydd y mynyddoedd yn dryllio dan ei draed,

a'r dyffrynnoedd yn hollti.

Bydd y creigiau'n toddi fel cwyr mewn tân,

ac yn llifo fel dŵr ar y llethrau.

5 Pam? Am fod Jacob wedi gwrthryfela,

a phobl Israel wedi pechu.

Sut mae Jacob wedi gwrthryfela?

Samaria ydy'r drwg!

Ble mae allorau paganaidd Jwda?

Yn Jerwsalem!

6 “Dw i'n mynd i droi Samaria

yn bentwr o gerrig mewn cae agored –

bydd yn lle i blannu gwinllannoedd!

Dw i'n mynd i hyrddio ei waliau i'r dyffryn

a gadael dim ond sylfeini'n y golwg.

7 Bydd ei delwau'n cael eu dryllio,

ei thâl am buteinio yn llosgi'n y tân,

a'r eilunod metel yn bentwr o sgrap!

Casglodd nhw gyda'i thâl am buteinio, Ref

a byddan nhw'n troi'n dâl i buteiniaid eto.”

8 Dyna pam dw i'n galaru a nadu,

a cherdded heb sandalau ac mewn carpiau;

yn udo'n uchel fel siacaliaid,

a sgrechian cwyno fel cywion estrys.

9 Fydd salwch Samaria ddim yn gwella!

Mae wedi lledu i Jwda –

mae hyd yn oed arweinwyr fy mhobl

yn Jerwsalem wedi dal y clefyd!

Mae'r gelyn ar ei ffordd

10 ‛Peidiwch dweud am y peth yn Gath!‛ Ref

Peidiwch crio rhag iddyn nhw'ch clywed chi!

Bydd pobl Beth-leaffra Ref yn rholio yn y llwch.

11 Bydd pobl Shaffir yn pasio heibio

yn noeth ac mewn cywilydd.

Bydd pobl Saänan yn methu symud,

a Beth-haetsel yn gwneud dim ond galaru –

fydd hi ddim yn dy helpu eto.

12 Bydd pobl Maroth Ref yn aflonydd

wrth ddisgwyl am rywbeth gwell i ddigwydd

na'r difrod mae'r ARGLWYDD wedi'i anfon,

ac sy'n gwasgu ar giatiau Jerwsalem.

13 Clymwch eich cerbydau wrth y ceffylau,

bobl Lachish! Ref

Chi wnaeth wrthryfela fel Israel

ac arwain pobl Seion i bechu! Ref

14 Bydd rhaid i chi ddweud ffarwél

wrth Moresheth-gath,

a bydd tai Achsib Ref yn siomi –

bydd fel ffynnon wedi sychu i frenhinoedd Israel.

15 Bobl Maresha, Ref bydd gelyn yn dod i goncro a dal eich tref,

a bydd arweinwyr Israel yn ffoi i ogof Adwlam Ref eto.

16 Felly, Jerwsalem, siafia dy ben i alaru

am y plant rwyt ti'n dotio atyn nhw.

Gwna dy dalcen yn foel fel y fwltur,

am fod y gelyn yn mynd i'w cymryd nhw'n gaeth.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity