|
|
1 Gwae nhw, y rhai sy'n dyfeisio drygioni
a gorweddian ar eu gwlâu yn cynllwynio.Croes
Wedyn codi gyda'r wawr i wneud y drwg –
maen nhw'n gwneud beth maen nhw eisiau.
2 Maen nhw'n cymryd y tir maen nhw'i eisiau,
ac yn dwyn eu tai oddi ar bobl.
Maen nhw'n cipio cartrefi drwy dwyll a thrais
ac yn dwyn etifeddiaeth pobl eraill.
3 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dw i'n cynllunio i ddod â dinistr ar y criw pobl yma.
Fydd dim modd i chi ddianc!
Dim mwy o swancio i chi! –
mae pethau'n mynd i fod yn ddrwg!
4 Bryd hynny, bydd pobl yn gwneud hwyl am eich pen chi
drwy ganu galarnad i chi'n sbeitlyd –
‘Mae ar ben arnon ni!
Mae ein tir yn cael ei werthu!
Mae Duw wedi cymryd y cwbl,
a rhoi'n tir i fradwyr!’”
5 Felly fydd neb yn mesur y tir eto
i chi gael siâr ohono
gyda phobl yr
ARGLWYDD.6 “Stopia falu awyr!” medden nhw'n lloerig.
“Ddylai neb siarad fel yna!
Fyddwn ni ddim yn cael ein cywilyddio.”
7 Ai fel hyn mae pobl Jacob yn meddwl? –
“Dydy'r
ARGLWYDD ddim yn colli ei dymer.Fyddai e byth yn gwneud y fath beth!”
“Mae'r pethau da dw i'n eu haddo yn digwydd
i'r rhai sy'n byw yn iawn.
8 Ond yn ddiweddar mae fy mhobl
wedi codi yn fy erbyn fel gelyn.
Dych chi'n dwyn y gôt a'r crys
oddi ar bobl ddiniwed sy'n pasio heibio
fel milwyr yn dod adre o ryfel.
9 Dych chi'n gyrru gweddwon o'u cartrefi clyd,
a dwyn eu heiddo Ref oddi ar eu plant am byth.
10 Felly symudwch! I ffwrdd â chi!
Does dim lle i chi orffwys yma!
Dych chi wedi llygru'r lle,
ac wedi'i ddifetha'n llwyr!
yn malu awyr a thwyllo,
‘Dw i'n addo y cewch chi joio
digonedd o win a chwrw!’ –
byddech wrth eich bodd yn gwrando ar hwnnw!
12 Bydda i'n eich casglu chi i gyd, bobl Jacob.
Bydda i'n galw pawb sydd ar ôl yn Israel Ref
at ei gilydd fel defaid mewn corlan.
Byddwch fel praidd yng nghanol eu porfa
yn brefu, yn dyrfa enfawr o bobl.
13 Bydd yr un sy'n torri trwodd
yn eu harwain nhw allan i ryddid.
Byddan nhw'n mynd allan drwy'r giatiau
a gadael gyda'u brenin ar y blaen.
Yr
ARGLWYDD ei hun fydd yn eu harwain!”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity