Yn ôl

Micha

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

MICHA 3

Arweinwyr Jwda ar fai

1 Yna dwedais,

“Gwrandwch, arweinwyr Jacob,

chi sy'n arwain pobl Israel. Ref

Dylech wybod beth ydy cyfiawnder!

2 Ond dych chi'n casáu'r da

ac yn caru'r drwg!

Dych chi'n blingo fy mhobl yn fyw,

ac yn ymddwyn fel canibaliaid!

3 Dych chi'n bwyta cnawd fy mhobl,

yn eu blingo nhw'n fyw

a malu eu hesgyrn.

Torri eu cyrff yn ddarnau

fel cig i'w daflu i'r crochan.”

4 Ryw ddydd byddan nhw'n galw ar yr ARGLWYDD am help,

ond fydd e ddim yn ateb.

Bydd e'n troi ei gefn arnyn nhw bryd hynny

am eu bod wedi gwneud cymaint o ddrwg.

Yn erbyn y proffwydi

5 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth y proffwydi:

“Dych chi'n camarwain fy mhobl!

Dych chi'n addo heddwch am bryd o fwyd,

ond os na gewch chi'ch talu

dych chi'n bygwth rhyfel!

6 Felly bydd hi'n nos arnoch chi, heb weledigaeth –

byddwch yn y tywyllwch, yn gallu dehongli dim.

Bydd yr haul wedi machlud arnoch chi,

a'ch dydd wedi dod i ben!

7 Bydd cywilydd ar y proffwydi,

a bydd y dewiniaid wedi drysu.

Fyddan nhw'n dweud dim,

am fod Duw ddim yn ateb.”

8 Ond dw i, ar y llaw arall, yn llawn

o nerth Ysbryd yr ARGLWYDD

ac yn credu'n gryf mewn cyfiawnder.

Dw i'n herio Jacob am ei wrthryfel,

ac yn gwneud i Israel wynebu ei phechod.

Yn erbyn y sefydliad

9 Gwrandwch, arweinwyr Jacob,

chi sy'n arwain pobl Israel –

chi sy'n casáu cyfiawnder

ac yn gwyrdroi'r gwir.

10 Dych chi'n adeiladu Seion drwy drais,

a Jerwsalem drwy lygredd a thwyll.

11 Mae'r barnwyr yn derbyn breib,Croes

yr offeiriaid yn dysgu am elw,

a'r proffwydi'n dehongli am dâl –

tra'n honni pwyso ar yr ARGLWYDD!

“Mae'r ARGLWYDD gyda ni!” medden nhw.

“Does wir ddim dinistr i ddod!”

12 Felly chi sydd ar fai!

Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae,

a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig.Croes

Bydd y bryn ble mae'r deml yn sefyll

yn goedwig wedi tyfu'n wyllt.Croes

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity