|
|
1 Ar hyn o bryd rwyt ti'n torri dy hun â chyllyllCroes
ti ddinas dan ymosodiad!
Mae'r gelyn yn gwarchae Ref arnon ni!
Maen nhw'n taro arweinydd Israel
ar y foch gyda theyrnwialen.
2 Ond wedyn ti, Bethlehem Effrata,Croes
rwyt ti'n un o'r pentrefi
lleiaf pwysig yn Jwda.
Ond ohonot ti y daw un
fydd yn teyrnasu yn Israel –
Un sydd â'i wreiddiau yn mynd yn ôl
i'r dechrau yn y gorffennol pell.
ARGLWYDDyn rhoi pobl Israel i'r gelyn,
hyd nes bydd yr un sy'n cael y babi
wedi geni'r plentyn.
Wedyn bydd gweddill ei deulu yn dod adre
at blant Israel.
4 Bydd yn codi i arwain ei bobl
fel bugail yn gofalu am ei braidd.
Bydd yn gwneud hyn yn nerth yr
ARGLWYDDa gydag awdurdod yr
ARGLWYDD ei Dduw.Byddan nhw yno i aros,
achos bydd e'n cael ei anrhydeddu
gan bawb i ben draw'r byd.
5 Bydd e'n dod â heddwch i ni.
“Os bydd Asyria'n ymosod ar ein tir
ac yn ceisio mynd i mewn i'n plastai,
bydd digon o arweinwyr i'w rhwystro!
6 Byddan nhw'n rheoli Asyria gyda'r cleddyf;
gwlad Nimrod Ref gyda llafnau parod!
Bydd ein brenin yn ein hachub
pan fydd Asyria'n ymosod ar ein gwlad,
ac yn ceisio croesi ein ffiniau.”
7 Bydd pobl Jacob Ref sydd ar ôl
ar wasgar yng nghanol y bobloedd,
fel y gwlith mae'r
ARGLWYDD yn ei anfon,neu gawodydd o law ar laswellt –
sydd ddim yn dibynnu ar bobl
na disgwyl am eu caniatâd cyn dod.
yn byw yn y gwledydd,
ar wasgar yng nghanol y bobloedd.
Byddan nhw fel llew yng nghanol yr anifeiliaid gwyllt,
neu lew ifanc yng nghanol praidd o ddefaid –
yn rhydd i ladd a rhwygo
heb neb i'w stopio.
9 Byddi'n codi dy law i daro'r rhai sy'n dy erbyn,
a dinistrio dy elynion i gyd!
“bydda i'n cael gwared â'ch arfau i gyd –
y ceffylau a'r cerbydau rhyfel.Croes
11 Bydda i'n dinistrio trefi'r wlad
ac yn bwrw i lawr y caerau amddiffynnol.
12 Bydda i'n stopio eich dewino a'ch swynion,
a fydd neb ar ôl i ddweud ffortiwn.
13 Bydda i'n dinistrio'ch delwau cerfiedig
a'ch colofnau cysegredig.
Fyddwch chi byth eto yn plygu
i addoli gwaith eich dwylo eich hunain.Croes
14 Bydda i'n diwreiddio polion y dduwies Ashera, Ref
ac yn dinistrio'ch eilun-dduwiau.
ar y gwledydd sy'n gwrthod gwrando arna i.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity