|
|
“Codwch i amddiffyn eich hunain
o flaen y bryniau a'r mynyddoedd!
2 Chi fynyddoedd a sylfeini'r ddaear
gwrandwch ar gyhuddiad yr
ARGLWYDD.”(Mae'n dwyn achos yn erbyn ei bobl.
Mae ganddo ddadl i'w setlo gydag Israel.)
3 “Fy mhobl, beth wnes i o'i le?
Beth wnes i i'ch diflasu chi? Atebwch!
4 Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft,Croes
a'ch rhyddhau o fod yn gaethweision.
Anfonais Moses i'ch arwain,
ac Aaron a Miriam gydag e.
5 Fy mhobl, cofiwch beth roedd Balac, brenin Moab, am ei wneud,Croes
a sut wnaeth Balaam fab Beor ei ateb.
Cofiwch beth ddigwyddodd rhwng Sittim a Gilgal Ref –
i chi weld fod yr
ARGLWYDD wedi'ch trin yn deg.”Beth sydd gen i i'w gynnig wrth blygu
i addoli y Duw mawr?
Ydy aberthau i'w llosgi yn ddigon?
Y lloi gorau Ref i'w llosgi'n llwyr?
Fyddai mil o hyrddod yn ei blesio,
neu afonydd diddiwedd o olew olewydd?
7 Ddylwn i aberthu fy mab hynaf
yn dâl am wrthryfela? –
rhoi bywyd fy mhlentyn am fy mhechod?
ARGLWYDD wedi dweud beth sy'n dda,a beth mae e eisiau gen ti:
Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser,
a byw'n wylaidd ac ufudd i dy Dduw.
(Mae'n beth doeth i barchu dy enw, o Dduw.)
“Gwrandwch lwyth Jwda a'r rhai sy'n casglu yn y ddinas!
10 Ydw i'n mynd i anwybyddu'r trysorau a gawsoch drwy dwyll,
a'r mesur prin, sy'n felltith?
11 Fyddai'n iawn i mi oddef y clorian sy'n dweud celwydd,
a'r bag o bwysau ysgafn? Ref
12 Mae'r cyfoethog yn treisio'r tlawd,
a'r bobl i gyd yn dweud celwydd –
twyll ydy eu hiaith gyntaf nhw!
13 Dw i'n mynd i'ch taro a'ch anafu'n ddifrifol,
cewch eich dinistrio am bechu.
ond byth yn cael digon.Croes
Bydd eich plentyn yn marw'n y groth,
cyn cael ei eni;
a bydda i'n gadael i'r cleddyf ladd
y rhai sy'n cael eu geni!
ond byth yn medi'r cynhaeaf.
Byddwch yn gwasgu'r olewydd
ond gewch chi ddim defnyddio'r olew.
Byddwch yn sathru'r grawnwin,
ond gewch chi ddim yfed y gwin.Croes
16 Dych chi'n cadw deddfau drwg y Brenin Omri,Croes
ac efelychu arferion drwg y Brenin Ahab! Ref –
a dilyn eu polisïau pwdr.
Felly bydd rhaid i mi eich dinistrio chi,
a bydd pobl yn eich gwawdio
ac yn gwneud sbort am eich pen.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity