|
|
Dw i fel rhywun yn chwilio'n daer am ffrwyth
ar ôl i'r ffrwythau haf a'r grawnwin gael eu casglu.
Does dim un swp o rawnwin ar ôl,
na'r ffigys cynnar dw i mor hoff ohonyn nhw.
2 Does neb caredig a hael ar ôl yn y wlad!
Mae'r bobl onest i gyd wedi mynd.
Mae pawb yn edrych am gyfle i ymosod ar rywun arall;
maen nhw fel helwyr yn gosod trapiau i'w gilydd.
3 Maen nhw'n rai da am wneud drwg! –
mae arweinwyr a barnwyr yn derbyn breib;
does ond rhaid i'r pwysigion ddweud beth maen nhw eisiau
a byddan nhw'n dyfeisio rhyw sgam i'w bodloni.
4 Mae'r gorau ohonyn nhw fel drain,
a'r mwya gonest fel llwyn o fieri.
Mae'r gwylwyr wedi'ch rhybuddio;
mae dydd y farn yn dod ar frys –
mae anhrefn llwyr ar ei ffordd!
Allwch chi ddim dibynnu ar eich ffrindiau,
na hyd yn oed eich gwraig –
peidiwch dweud gair wrthi hi!
6 Fydd mab ddim yn parchu ei dad,
a bydd merch yn herio'i mam;
merch-yng-nghyfraith yn erbyn mam-yng-nghyfraith –
eich gelynion pennaf fydd eich teulu agosaf!
ARGLWYDD am help.Dw i'n disgwyl yn hyderus am y Duw sy'n achub.
Dw i'n gwybod y bydd e'n gwrando arna i.
8 “Peidiwch dathlu'n rhy fuan, elynion!
Er fy mod wedi syrthio, bydda i'n codi eto.
Er bod pethau'n dywyll ar hyn o bryd,
bydd yr
ARGLWYDD yn olau i mi. ARGLWYDDam fy mod wedi pechu yn ei erbyn.
Ond yna bydd e'n ochri gyda mi
ac yn ennill yr achos ar fy rhan.
Bydd yn fy arwain i allan i'r golau;
bydda i'n cael fy achub ganddo.
10 Bydd fy ngelynion yn gweld hyn,
a byddan nhw'n profi siom ac embaras.
Fi fydd yn dathlu, wrth eu gweld nhw,
y rhai oedd yn dweud, ‘Ble mae dy Dduw di?’,
yn cael eu sathru fel baw ar y strydoedd.”
11 Y fath ddiwrnod fydd hwnnw! –
diwrnod i ailadeiladu dy waliau;
diwrnod i ehangu dy ffiniau!
12 Diwrnod pan fydd pobl yn dod atat
yr holl ffordd o Asyria i drefi'r Aifft,
o'r Aifft i afon Ewffrates,
o un arfordir i'r llall, ac o'r mynyddoedd pellaf.
13 Ond bydd gweddill y ddaear yn ddiffaith,
o achos y ffordd mae pobl wedi byw.
dy braidd arbennig dy hun;
y rhai sy'n byw'n unig mewn tir llawn drysni
tra mae porfa fras o'u cwmpas.
Gad iddyn nhw bori ar gaeau Bashan a Gilead, Ref
fel roedden nhw'n gwneud ers talwm.
15 Gad iddyn nhw weld dy wyrthiau,
fel yr adeg pan aethon nhw allan o wlad yr Aifft!
16 Bydd y gwledydd yn gweld hyn,
a bydd eu grym yn troi'n gywilydd.
Byddan nhw'n sefyll yn syn,
ac fel petaen nhw'n clywed dim!
17 Byddan nhw'n llyfu'r llwch fel nadroedd
neu bryfed yn llusgo ar y llawr.
Byddan nhw'n ofni am eu bywydau,
ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannauCroes
i dy wynebu di, yr
ARGLWYDD ein Duw.Ti'n maddau pechod
ac yn anghofio gwrthryfel
y rhai sydd ar ôl o dy bobl.Croes
Ti ddim yn digio am byth;
ti wrth dy fodd yn bod yn garedig a hael.
19 Byddi'n tosturio wrthon ni eto.
Byddi'n delio gyda'n drygioni,
ac yn taflu'n pechodau i waelod y môr.
20 Byddi'n ffyddlon i bobl Jacob
ac yn dangos dy drugaredd i blant Abraham –
fel gwnest ti addo i'n hynafiaid
amser maith yn ôl.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity