Yn ôl

Nahum

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

NAHUM 1

Yr ARGLWYDD yn dial ar Ninefe (Prifddinas Asyria)

1 Neges am ddinas Ninefe: Ref Cofnod o weledigaeth Nahum Ref o Elcosh.

2 Mae'r ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus sy'n dial;

Mae'r ARGLWYDD yn dial, ac mae ei ddicter yn ffyrnig.

Mae'r ARGLWYDD yn dial ar ei elynion,

ac yn wyllt gyda'i wrthwynebwyr.

3 Mae'r ARGLWYDD yn amyneddgar

ac yn gryf –

ond dydy e ddim yn gadael i'r euog osgoi'r gosb.Croes

Mae'n martsio yn y corwynt a'r storm,

ac mae'r cymylau fel llwch dan ei draed.

4 Mae'n gweiddi ar y môr a'i sychu,

ac yn sychu'r afonydd i gyd.

Mae porfa Bashan a Carmel yn gwywo,

ac mae blodau Libanus Ref yn gwywo.

5 Mae'r mynyddoedd yn crynu

a'r bryniau'n toddi o'i flaen.

Mae'r tir yn troi'n ddiffeithwch o'i flaen,

y byd, a phopeth sy'n byw ynddo.

6 Pwy all oroesi o flaen ei ddicter?

Pwy all wrthsefyll ei ffyrnigrwydd?

Mae'n tywallt ei lid fel tân,

ac mae'r creigiau'n cael eu dryllio ganddo.

7 Mae'r ARGLWYDD yn dda,

ac yn gaer ddiogel mewn argyfwng;

Mae'n gofalu am y rhai sy'n troi ato am help.

8 Ond mae'n gyrru ei elynion i'r tywyllwch;

fel llifogydd sy'n ysgubo popeth ymaith,

bydd yn rhoi diwedd ar Ninefe'n llwyr.

9 Unrhyw gynlluniau sydd gen ti yn ei erbyn,

bydd yr ARGLWYDD yn eu dinistrio'n llwyr:

fydd ei elyn ddim yn codi yn ei erbyn yr ail waith!

10 Byddan nhw fel dynion wedi meddwi'n gaib;

Byddan nhw'n cael eu llosgi fel drysni o ddrain,

neu fonion gwellt wedi sychu'n llwyr.

11 Ohonot ti, Ninefe, y daeth un

oedd yn cynllwynio drwg yn erbyn yr ARGLWYDD

– strategydd drygioni! Ref

12 Ond dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“Er eu bod nhw'n gryf ac yn niferus,

byddan nhw'n cael eu torri i lawr, ac yn diflannu.

Er fy mod i wedi dy gosbi di, Jwda,

fydda i ddim yn dy gosbi di eto;

13 dw i'n mynd i dorri'r iau roddodd e ar dy war

a dryllio'r rhaffau sy'n dy rwymo.”

14 Mae'r ARGLWYDD wedi datgan am Ninefe,

“Fydd gen ti ddim disgynyddion bellach.

Dw i'n mynd i gael gwared â'r eilunod

a'r delwau metel o demlau dy dduwiau.

Bydda i'n paratoi bedd i ti

fydd yn dangos mor ddibwys oeddet ti.”

15 Edrychwch! Mae negesydd yn dod dros y mynyddoedd

yn cyhoeddi heddwch!

“Dathla dy wyliau crefyddol, O Jwda,

a chadw dy addewidion!

Fydd y rhai drwg byth yn dy orchfygu eto;

byddan nhw'n cael eu dinistrio'n llwyr.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity