Yn ôl

Nahum

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

NAHUM 2

Cwymp Ninefe

1 Ninefe, mae'r ‛chwalwr‛ yn dod i ymosod!

“Gosod filwyr i amddiffyn dy waliau!”

“Gwylia'r ffordd! Gwna dy hun yn barod!

Casgla dy rym milwrol!”

2 (Mae'r ARGLWYDD yn adfer anrhydedd ei bobl –

gwinwydden Jacob, ac Israel hefyd.

Roedd fandaliaid wedi dod a'i dinistrio,

a difetha ei changhennau.)

3 Mae tarianau ei filwyr yn goch,

arwyr sy'n gwisgo ysgarlad;

Mae'r cerbydau dur fel fflamau o dân

yn barod i ymosod,

a'r gwaywffyn yn cael eu chwifio.

4 Mae'r cerbydau'n rhuthro'n wyllt drwy'r strydoedd,

ac yn rasio yn ôl ac ymlaen drwy'r sgwâr.

Maen nhw'n fflachio fel ffaglau tân,

ac yn gwibio fel mellt.

5 Mae'n galw'i swyddogion i ymosod;

maen nhw'n baglu wrth wthio yn eu blaenau,

yn rhuthro, hyrddio at y wal,

a chodi sgrîn amddiffyn i gysgodi dani.

6 Mae'r llifddorau'n agor

a'r palas ar fin syrthio.

7 Y frenhines yn cael ei stripio a'i chymryd i'r gaethglud,

a'i morynion yn cŵan fel colomennod,

a galaru gan guro eu bronnau.

8 Mae Ninefe fel argae wedi torri –

mae pawb yn dianc ohoni!

“Stopiwch! Stopiwch!” –

ond does neb yn troi yn ôl.

9 “Cymerwch yr arian! Cymerwch yr aur!”

Mae trysorau Ninefe'n ddiddiwedd;

mae pob math o bethau gwerthfawr ynddi!

10 Distryw, difrod, a dinistr!

Calonnau'n toddi, gliniau'n crynu,

lwynau gwan, wynebau gwelw!

11 Beth sydd wedi digwydd i ffau'r llewod?

Ble mae'r llewod ifanc i gael eu bwydo?

Byddai'r llew a'r llewes yn cerdded yno,

a'u cenawon yn saff, a neb yn eu tarfu.

12 Ble mae'r llew oedd yn rhwygo'i ysglyfaeth –

ei ladd i'w lewesau a'i roi i'w rai bach?

Roedd ei ogof yn llawn ysglyfaeth

a'i ffau'n llawn cnawd wedi'i ddryllio.

13 “Dw i'n mynd i ddelio gyda ti,”

—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.

“Bydda i'n llosgi dy gerbydau'n llwyr;

bydd dy ‛lewod ifanc‛ yn marw'n y frwydr.

Dw i'n mynd i gael gwared â'th ysglyfaeth o'r tir,

a fydd neb eto'n clywed llais dy negeswyr.”

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity